Canlyniadau 3001–3020 o 4000 ar gyfer speaker:David Rees

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Seilwaith Diwydiannol Hanesyddol ( 2 Hyd 2019)

David Rees: Diolch, Lywydd. Ac rwy'n gwneud y cynnig yn fy enw i ac yn enwau Leanne Wood a Vikki Howells. Cyn i mi ddechrau, rwy'n ymddiheuro am fy llais—yn anffodus, fel y gallech fod wedi'i ddyfalu, nid wyf wedi bod yn dda yn ddiweddar, ond rwyf am fwrw ymlaen. Nawr, mae Cymru'n genedl a chanddi hanes gwych. Ac mae gennym lawer o adeiladau o'r oesoedd canol sy'n adlewyrchu'r hanes hwnnw—boed yn...

7. Dadl y Blaid Brexit: Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd (25 Med 2019)

David Rees: Nid ydych yn gwybod beth y mae'n ei olygu hyd yn oed.

7. Dadl y Blaid Brexit: Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd (25 Med 2019)

David Rees: O, felly nid ydych am sicrhau bod yr arian hwnnw'n dod i ni.

7. Dadl y Blaid Brexit: Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd (25 Med 2019)

David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rydych newydd ddweud y byddwch yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig, sef gwelliant i bwynt 5, sy'n sôn am y gronfa ffyniant gyffredin a sut y bwriadwch ei defnyddio i ariannu prosiectau seilwaith. A ydych yn deall mewn gwirionedd beth sy'n gwneud honno'n gronfa ffyniant gyffredin a pham y mae yno? Cronfa Gymdeithasol Ewrop, sef Cronfa Datblygu...

7. Dadl y Blaid Brexit: Y Deyrnas Unedig a'r Undeb Ewropeaidd (25 Med 2019)

David Rees: Rydych chi wedi siarad am y refferendwm, mae realiti'r drafodaeth ynghylch annibyniaeth wedi digwydd oherwydd llanastr Llywodraeth y DU a Senedd San Steffan a'r ffordd y mae wedi ymddwyn ers y refferendwm hwnnw. Felly nid oedd yn fater refferendwm; mae'n edrych, mewn gwirionedd, ar sut y mae San Steffan yn ymddwyn, a methiant San Steffan i fynd i'r afael ag anghenion y gwahanol wledydd ar...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cadw Staff yn y GIG yng Nghymru (25 Med 2019)

David Rees: Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed yr ateb rydych chi newydd ei roi, a'r ymdrechion y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i ddatblygu a hyfforddi mwy o nyrsys ledled yr ardal. Rwy’n siarad â nyrsys—nid nyrsys yn unig, ond gweithwyr proffesiynol eraill ar draws y gwasanaeth iechyd—ac rwyf am ganmol y gwaith a wnânt, oherwydd mae llawer ohonynt, os nad pob un ohonynt, yn mynd y tu hwnt...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cyrsiau Galwedigaethol (25 Med 2019)

David Rees: Weinidog, yn eich ateb i gwestiwn Nick Ramsay, rwy'n awyddus iawn ac yn falch iawn o glywed eich bod yn cydnabod mewn gwirionedd fod addysg alwedigaethol yn gyfwerth â llwybrau academaidd. Ac mae'n drueni nad oes digon o bobl ifanc—neu eu rhieni yn enwedig, weithiau—yn deall yr un peth. Oherwydd er mwyn sicrhau bod gennym y statws cydradd hwnnw, er mwyn sicrhau bod y sgiliau rydym eu...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (25 Med 2019)

David Rees: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau rhestrau aros ysbytai yng Ngorllewin De Cymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Contractau Athrawon Cyflenwi (24 Med 2019)

David Rees: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roeddwn i'n aelod o'r pwyllgor PPIA yn y pedwerydd Cynulliad a gwnaed gwaith gennym ar waith llanw, ac un o'n hargymhellion mewn gwirionedd oedd dod ag ef yn ôl yn fewnol yn hytrach na chadw'r asiantaethau. Rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru wedi dilyn gwahanol ddull ac wedi defnyddio'r GCC fel canllaw fframwaith. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr eich...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Contractau Athrawon Cyflenwi (24 Med 2019)

David Rees: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y newidiadau i gontractau athrawon cyflenwi drwy asiantaethau ledled Cymru? OAQ54397

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (18 Med 2019)

David Rees: Diolch am yr ateb, Gweinidog. Rwyf eisiau gofyn am deithio i ysgol, thema debyg i gwestiwn Llyr—mae wedi mynd nawr. Mae'n annog disgyblion i gael eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg yn ffactor allweddol i sicrhau uchelgais Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Yn ddiweddar, gwnaeth cyngor Castell-nedd Port Talbot gynnig newidiadau i drafnidiaeth a fyddai'n gweld tâl ychwanegol ar...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Gwasanaethau i Bobl dros 60 Oed (18 Med 2019)

David Rees: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Ac mae'n bwysig iawn eich bod yn cyfarfod â'r comisiynydd pobl hŷn i drafod yr anghenion hyn. Rydym wedi gweld toriadau Llywodraeth y DU i bensiynwyr; maent wedi taro Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth er enghraifft, gan sicrhau bod ganddynt ystyriaethau anos i'w gwneud mewn perthynas â'u pensiwn y wladwriaeth. Rydym wedi...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Gwasanaethau i Bobl dros 60 Oed (18 Med 2019)

David Rees: 2. Pa ystyriaethau y mae'r Gweinidog wedi'u rhoi i sicrhau nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru, sydd ar y gweill, yn lleihau gwasanaethau i rai dros 60 oed yng Nghymru? OAQ54305

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 (18 Med 2019)

David Rees: 4. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ54304

7. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brexit (17 Med 2019)

David Rees: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Rwyf innau hefyd yn diolch i Lywodraeth Cymru am eu cynllun gweithredu a gyhoeddwyd ddoe. O leiaf rydym ni yma yn y Cynulliad yn cael cyfle i graffu mewn gwirionedd ar y Llywodraeth o ran ei chynllun gweithredu, yn wahanol i'n cydweithwyr yn San Steffan sydd wedi cael eu rhwystro rhag craffu ar y gwaith ar ddogfennau Yellowhammer. Gweinidog,...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Med 2019)

David Rees: Gweinidog, a gaf i ychwanegu fy llais at y cwestiwn olaf gan Leanne Wood mewn cysylltiad â Chymdeithas Twnnel y Rhondda a pherchnogaeth twnnel y Rhondda? Nid wyf am fynd ymhellach oherwydd eich bod eisoes wedi ateb y cwestiwn, ond rwy'n ychwanegu fy llais i'r alwad honno. A gaf i ofyn am dri datganiad, os yw'n bosibl? Mae'r cyntaf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Nawr, yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dyfodol y Diwydiant Dur yng Nghymru (17 Med 2019)

David Rees: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rydych chi'n nodi'n gywir bod angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan. Nid yw hyd yn oed wedi dod i gytundeb sector dur eto. Mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol a'r Ysgrifennydd Gwladol presennol yn gwbl anymwybodol o bwysigrwydd mynd i'r afael â'r mater hwn o'n sector dur. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae gwaith dur Port Talbot yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dyfodol y Diwydiant Dur yng Nghymru (17 Med 2019)

David Rees: 1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ54303

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

David Rees: Wel, rwyf newydd glywed diffyg dealltwriaeth llwyr o holl fusnes y diwydiant dur. Os ydych am sôn am golli swyddi, siaradwch am Margaret Thatcher a niweidiodd ac a ddistrywiodd y diwydiant dur a'r diwydiant glo. Nid yw'n ymwneud â'r UE—Llywodraeth Dorïaidd, asgell dde'r DU a wnaeth y difrod hwnnw, ac mae'n gwneud yr un peth nawr. Felly, rwy'n mynd i ofyn i fy nghyd-Aelodau—. Mewn...

1. Dadl: Brexit ac Addoedi Senedd y DU ( 5 Med 2019)

David Rees: Rwy'n fwy na pharod i dderbyn sylw.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.