Lesley Griffiths: Diolch. Gwelais heddiw yn y cyfryngau fod arweinydd cyngor dinas Caerdydd yn siarad am yr angen am ragor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a beicio mewn perthynas â’r mater rydych yn ei godi. Gwyddom nad yw trafnidiaeth, mewn gwirionedd, yn helpu gydag ansawdd aer, yn enwedig mewn ardaloedd trefol. Cawsom ddadl ddoe ynglŷn â datgarboneiddio’r sector cyhoeddus. Wel, mae hyn yn sicr yn...
Lesley Griffiths: Rydych yn iawn; cyhoeddais ganllawiau polisi ar 15 Mehefin gan fod hynny’n cyd-daro â Diwrnod Aer Glân. Felly, dyna oedd y rheswm dros wneud hynny, ac roeddwn yn awyddus, fel y dywedais, i sicrhau bod eu cyfundrefnau rheoli yn cydymffurfio. Byddaf yn ysgrifennu atynt eto yr wythnos nesaf, felly yn benodol yn achos Abertawe, gallaf ofyn y pwyntiau penodol hynny.
Lesley Griffiths: Cyhoeddais ganllawiau newydd y mis hwn a byddaf yn eu dilyn gyda llythyr at holl weinyddiaethau newydd yr awdurdodau lleol yr wythnos nesaf, yn tynnu sylw at eu dyletswyddau rheoli ansawdd aer a phwysigrwydd dilyn egwyddorion ein deddfwriaeth ar genedlaethau’r dyfodol, a chadw at derfynau amser wrth osod canllawiau ar gyfer adrodd a chynllunio camau gweithredu.
Lesley Griffiths: Byddwn yn ystyried prawf i gael gwared ar ymyrraeth ar y 50 i 60 o ffermydd sydd ag achosion parhaus o TB ar ôl i ymchwiliad epidemiolegol milfeddygol llawn ddangos bod mesurau rheoli gwartheg wedi’u rhoi ar waith yn llawn, ac mai moch daear yw ffynhonnell debygol yr haint.
Lesley Griffiths: O ran eich pwynt olaf, ie, dim ond y moch daear sydd wedi’u heintio a chredaf y bydd yn dda ar gyfer y boblogaeth o foch daear. Credaf fy mod wedi gwneud hynny’n glir iawn yn fy natganiad ar TB buchol yr wythnos diwethaf. O ran y 50 i 60 o ffermydd, hwy yw’r ffermydd â TB cronig—rai ohonynt ers 16 neu 17 mlynedd—a fydd yn cael y cynlluniau pwrpasol hyn. Felly, ar hyn o bryd, mae...
Lesley Griffiths: Gallaf sicrhau’r Aelod, mewn perthynas â physgota cynaliadwy, fod hynny ar frig yr agenda. Nid wyf wedi cael y trafodaethau hynny eto gyda’r Ysgrifennydd Gwladol. Byddwch yn gwybod mai ers ychydig wythnosau’n unig y mae wedi bod yn y swydd, a sgwrs fer iawn a gefais. Gwnaeth yn glir y bydd yn dod i Sioe Frenhinol Cymru. Felly, rwy’n siŵr y gellir cynnal y trafodaethau hynny ar y...
Lesley Griffiths: Roeddwn am ddweud nad wyf yn credu ei fod mor ddiweddar â hynny, yn ôl pob tebyg roedd hynny tua mis Rhagfyr. Bydd yn rhaid imi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â’r cynnydd rydym wedi’i wneud dros ran gyntaf y flwyddyn hon.
Lesley Griffiths: Rwy’n siŵr eich bod yn gwybod am ein Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Mae hwnnw’n ei gwneud yn glir iawn ein bod angen i gwotâu pysgota’r DU gael eu hail-gydbwyso yn decach. Oddeutu 1 y cant o’r cwotâu yn unig yn yr ardaloedd o ddiddordeb i Gymru a reolir gan longau o Gymru, ac nid yw hynny’n ddigon da. Rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn faint o...
Lesley Griffiths: Mae gadael yr UE yn creu llawer o gwestiynau ac ansicrwydd ar gyfer dyfodol diwydiant pysgota Cymru. Mae’r broses o reoli pysgodfeydd wedi’i datganoli, a bydd yn rhaid i unrhyw drefniadau ar ôl inni adael barchu datganoli. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant, cymunedau a phartneriaid eraill ledled Cymru i greu polisïau pysgodfeydd blaengar a dynamig i Gymru.
Lesley Griffiths: Mae’n ddrwg gennyf, credaf fy mod wedi dweud 2020 yn fy ateb i Neil Hamilton, ond rydym wedi cael yr un sicrwydd mai 2022 ydyw—credaf fod hynny o fewn cylch y Senedd newydd.
Lesley Griffiths: Ni chredaf fod yr Aelod wedi fy nghlywed gyda fy ateb cyntaf, oherwydd, fel y dywedais, 11 ydyw bellach—nid wyf yn siŵr ynglŷn â dyddiad eich cwestiwn ysgrifenedig blaenorol, ond 11 ydyw bellach. Y ffaith yw bod 90 y cant—90 y cant—o fusnesau fferm wedi derbyn eu taliad ar y diwrnod cyntaf un, ar 1 Rhagfyr 2016. Ar gyfer y rhan fwyaf o ffermydd na dderbyniodd eu taliad sylfaenol,...
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru, unwaith eto, wedi arwain ledled y DU ar ddarparu taliadau sylfaenol 2016. Talwyd bron i 90 y cant o fusnesau fferm cymwys ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu ac mae 15,435—sef 99.93 y cant—o fusnesau fferm wedi derbyn cyfanswm o £224.1 miliwn o daliadau. Erbyn hyn, mae 11 o fusnesau fferm cymwys yn aros am eu taliadau. Mae’r hawliadau hynny naill ai’n gymhleth,...
Lesley Griffiths: Wel, bydd yr Aelod wedi clywed fy ateb i gwestiwn gwreiddiol Dai Lloyd. Credaf mai dyna pam ei bod yn bwysig ein bod yn parhau i fwrw ymlaen ag ymchwil er mwyn i ni gael y dystiolaeth wyddonol honno. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod angen i ni edrych ar y rhesymau dros y cynnydd mewn marwolaethau cocos. Un o’r pethau eraill a ddysgais gan Cyfoeth Naturiol Cymru oedd nad yw ansawdd dŵr...
Lesley Griffiths: Wel, nid wyf wedi derbyn adroddiad diweddar gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ond rwy’n sicr yn barod i ofyn iddynt pa waith sydd ganddynt a pha un a oes adroddiad ganddynt y gellir ei rannu gyda’r Aelodau mewn perthynas â hynny. Mae’r ymchwil newydd hwn, yr ymchwil i gocos yn ardal yr Iwerydd, yn rhaglen gyllido sylweddol. Mae’n werth €3.5 miliwn, os cofiaf yn iawn. Felly, fel chithau,...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae hwn yn fater sy’n sicr wedi bod ar fy nesg dros y flwyddyn ddiwethaf. Rwyf wedi cael cyfarfodydd am hyn gyda Lee Waters a Rebecca Evans a Bethan Jenkins. Rydych yn iawn: ni allai’r adroddiad, pan y’i cyhoeddwyd yn 2012, nodi un rheswm clir am y cynnydd yn y marwolaethau, ond nododd nifer fach o ffactorau posibl. Roedd y rheiny’n cynnwys gorlenwi, parasitiaid, a...
Lesley Griffiths: Credaf fod angen yr arian hwnnw ar ffermwyr cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, fe fyddwch yn gwybod, yn gyntaf, ein bod wedi canolbwyntio ar gynllun y taliad sylfaenol, a derbyniodd 90 y cant o bobl y cyllid hwnnw ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu. Mewn perthynas â Glastir, fe ddywedasom, o’r cychwyn, y byddem yn dechrau talu taliadau Glastir ym mis Chwefror. Mewn gwirionedd, dechreuwyd...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae diwydiant cocos Gŵyr yn bysgodfa bwysig, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ariannu’r astudiaeth o’r problemau sy’n ymwneud â marwolaethau. Bydd y cyhoeddiad diweddar ar y rhaglen ymchwil ar gocos yng ngwledydd yr Iwerydd yn gymorth inni ddeall a datblygu ymhellach y wyddoniaeth a’r materion sy’n ymwneud â marwolaethau cocos.
Lesley Griffiths: Wel, mae’r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, pan fyddaf yn cyfarfod nesaf ag Alun Cairns, credaf fod honno’n drafodaeth y byddem yn ei chael. Ond byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud ddoe ei fod wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ddydd Llun, rwy’n meddwl, pan godwyd hynny gennym.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae’r gwaith o weinyddu Glastir yn cael ei adolygu’n flynyddol, yn anad dim er mwyn paratoi ar gyfer gwaith craffu’r Comisiwn Ewropeaidd ar y cyfrifon blynyddol. Mae effeithiolrwydd y gyfres o gynlluniau Glastir yn cael ei werthuso drwy raglen fonitro a gwerthuso Glastir, sydd i fod i gyhoeddi eu hadroddiad terfynol cyn bo hir.
Lesley Griffiths: Yn amlwg, rwy’n ymwybodol o’r cynlluniau ar gyfer morlyn llanw arall yn ardal bae Colwyn. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith ynglŷn â hyn. Yr hyn sydd ei wir angen arnom, yn fy marn i, yw ymateb gan Lywodraeth y DU. Mae arnom ei angen er mwyn i ni—wyddoch chi, rydym yn hynod o gefnogol o egwyddorion morlyn llanw....