Canlyniadau 3041–3060 o 4000 ar gyfer speaker:David Rees

8. Dadl Plaid Cymru: Y Sector Addysg Uwch (26 Meh 2019)

David Rees: Ni allaf ateb ar y niferoedd yn Lloegr; nid wyf wedi astudio'r niferoedd yn Lloegr. Fe gymeraf eich gair, os mai felly y mae. Ond rwy'n credu mai'r hyn a welwn yw bod perthynas dda iawn yn arfer bod rhyngom a llawer o sefydliadau yn Ewrop a byddai myfyrwyr yn dod draw. Nawr, os yw'r gostyngiad yn nifer myfyrwyr yr UE yng Nghymru yn digwydd, yr hyn sy’n rhaid ei ofyn yw 'Pam?' Ac nid yw'n...

8. Dadl Plaid Cymru: Y Sector Addysg Uwch (26 Meh 2019)

David Rees: Wel, roeddwn yn mynd i ddod at rai o’r pryderon sydd gennyf ynghylch llywodraethu, ac rwy'n cytuno bod angen mwy o dryloywder yn y trefniadau llywodraethu a mwy o gyfranogiad gan staff a myfyrwyr. Ac ni ddylid byth eu rhwystro rhag cymryd rhan yng nghyfarfodydd pa gorff llywodraethu bynnag ydyw, gan fy mod yn cofio bod yn aelod o undeb llafur ar gorff llywodraethu ac ni chawn fynd i rai...

8. Dadl Plaid Cymru: Y Sector Addysg Uwch (26 Meh 2019)

David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

8. Dadl Plaid Cymru: Y Sector Addysg Uwch (26 Meh 2019)

David Rees: Diolch am dderbyn ymyriad; rwy'n gwerthfawrogi hynny. Rydych newydd ddweud mai'r rhai sydd am aros sy'n peri'r ansicrwydd. Yn dilyn y refferendwm yn 2016, digwyddodd y dirywiad bryd hynny. Felly, nid ansicrwydd ydoedd, ond ofn yr hyn y byddai gadael yn ei olygu i ddinasyddion yr UE yn y DU a'u statws addysg. Nid y rhai sydd am aros sydd ar fai; yr holl broses sydd ar fai mewn gwirionedd.

8. Dadl Plaid Cymru: Y Sector Addysg Uwch (26 Meh 2019)

David Rees: Diolch. Hoffwn ymuno â chyd-Aelodau y prynhawn yma i werthfawrogi ymdrechion ac ymrwymiad y sector addysg uwch yng Nghymru a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar fywyd sifil yn ogystal â'n heconomi. Fel y dywedodd Helen Mary, rwy'n falch fy mod wedi bod yn rhan o hynny cyn imi ddod yn Aelod Cynulliad. Bûm yn gweithio yn y sector am flynyddoedd lawer. Dros y blynyddoedd hynny, rwy'n...

5. Cwestiynau Amserol: Cwmni Adeiladu Jistcourt (26 Meh 2019)

David Rees: Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, mae Jistcourt wedi'u lleoli yn fy etholaeth i ac mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn byw yn yr ardal, ac mae hyn yn peri cryn ofid i'r gweithwyr hynny a'u teuluoedd, ond rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod y bobl hynny'n dod o hyd i swyddi eraill mewn mannau eraill. Ond fel y dywed Rhun ap...

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru (26 Meh 2019)

David Rees: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb? Croesawaf gyhoeddiad y strategaeth cyn diwedd tymor yr haf, gan ei bod yn hanfodol i ni weld y cyfeiriad y mae Llywodraeth Cymru yn mynd iddo. A gaf fi hefyd eich llongyfarch ar nifer y cyfarfodydd rydych wedi'u cael gyda'r gwahanol lysgenhadon a chynrychiolwyr eraill sydd wedi dod i Gymru? Ond rydym am weld y strategaethau, gan ein bod am allu...

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru (26 Meh 2019)

David Rees: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru? OAQ54122

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol"): Yr Honiad o Gamdrafod Codi Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (25 Meh 2019)

David Rees: Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am yr ateb hwnnw, oherwydd yr oeddech chi a minnau'n bresennol yn y rali ym Mhort Talbot, lle mynegodd menywod eu rhwystredigaeth a'u dicter tuag at yr ymateb hwnnw a oedd wedi dod i law Llywodraeth Cymru, sef un a oedd, yn y bôn, yn fy marn i, yn ffiaidd ac ni ddylai fod wedi'i ysgrifennu gan Ysgrifennydd Gwladol o'r fath, gan adlewyrchu ymagwedd anghwrtais....

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (25 Meh 2019)

David Rees: Beth yw blaenoriaethau iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer y de-orllewin am weddill tymor y Cynulliad hwn?

8. Dadl Plaid Brexit: Gadael yr Undeb Ewropeaidd (19 Meh 2019)

David Rees: Lywydd, rwy'n derbyn bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yn refferendwm 2016. Yn wir, yn fy etholaeth i, pleidleisiodd y mwyafrif dros adael yn y refferendwm hwnnw. Felly, nid wyf yn sefyll yma i herio'r hyn roeddent eisiau ei wneud. Roeddent eisiau gadael. Efallai ein bod yn gwahaniaethu o ran yr hyn oedd 'gadael' yn ei olygu, ond roeddent eisiau gadael. A rhaid i...

8. Dadl Plaid Brexit: Gadael yr Undeb Ewropeaidd (19 Meh 2019)

David Rees: Unwaith eto, rwy'n cytuno â Darren; rydym yn ôl gyda'r un peth unwaith eto. Clywn eto mai'r cynnig cyntaf gan Blaid Brexit yw cynnig i gefnogi eu cred fod gadael yr UE heb gytundeb yn weithred rinweddol ac y bydd yn gwella bywydau pobl Cymru. Er hynny, y tro hwn, maent wedi ychwanegu mân bethau er mwyn ceisio ein hannog drwy ddweud y bydd gostyngiadau ar fwyd, dillad ac esgidiau, fel y...

8. Dadl Plaid Brexit: Gadael yr Undeb Ewropeaidd (19 Meh 2019)

David Rees: Unwaith eto, rwy’n derbyn y cwestiwn a roesoch i mi ar erthygl 24 y GATT, sy’n amlwg ond yn berthnasol os ydych chi mewn trafodaethau ar gytundeb masnach gan nad yw'n berthnasol os nad ydych yn cael y trafodaethau hynny. Hefyd, os ydych yn mynd i leihau tariffau i ganiatáu mewnforio masnach yn rhatach—rhywbeth y gallai’r DU ei wneud, fel y dywedwch yn gywir—fe nodwch fod yn rhaid...

8. Dadl Plaid Brexit: Gadael yr Undeb Ewropeaidd (19 Meh 2019)

David Rees: Diolch i'r Aelod am ildio. Gwrandewais ar yr hyn roedd yn ei ddweud, ac yn amlwg dangoswyd yn Nhŷ'r Arglwyddi fod yr achos cyfreithiol—nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol i dalu’r £39 biliwn. Mae yna gwestiwn ynghylch gofyniad moesol. Ond rydych chi newydd grybwyll bod yna rai rhwymedigaethau. A ydych wedi cael ffigur ar gyfer y rhwymedigaethau hynny, o ran y swm y mae'n ofynnol i ni ei...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diwygio Cyfraith Lesddaliad (19 Meh 2019)

David Rees: A gaf fi adleisio'r sylwadau gan David Melding, oherwydd, yn amlwg, mae lesddeiliaid yn wynebu heriau difrifol iawn, yn enwedig yn ariannol? A phan fyddwch yn dychwelyd at eich gweithgor, rwy'n gobeithio y byddant yn argymell eich bod yn gweithredu i reoleiddio cwmnïau rheoli ystadau—ac os nad ydynt, rwy'n gobeithio y byddwch yn ei gynnwys beth bynnag. Oherwydd, er enghraifft, mae llawer o...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Hybu Twristiaeth (19 Meh 2019)

David Rees: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae llawer o gymunedau'r Cymoedd, gan gynnwys y rheini yng Nghwm Afan, wedi datblygu twristiaeth fel modd o dyfu'r economi ar ôl tranc y diwydiant glo yn y cymoedd hynny. Mae llawer o'r tir o amgylch y cymunedau hynny'n eiddo i Lywodraeth Cymru mewn gwirionedd ac yn cael ei reoli ar eu rhan gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r tir hwn yn cynnig profiadau awyr...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Hybu Twristiaeth (19 Meh 2019)

David Rees: 4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch sut y gall Cyfoeth Naturiol Cymru weithio gyda chymunedau lleol i hybu twristiaeth? OAQ54078

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Pleidlais y Bobl (12 Meh 2019)

David Rees: Diolch, Lywydd. Rwy'n gofyn y pwynt o drefn hwn oherwydd, pan oedd y Gweinidog Brexit yn ateb cwestiwn i arweinydd ei phlaid, gweiddodd yr Aelod o Blaid Brexit dros ogledd Cymru o'i sedd, yn gwbl glir, oherwydd rwyf ar yr ochr arall i'r Siambr, a gallwn glywed, 'Celwyddgi'. Nawr, mae hwnnw'n ymddygiad neu'n iaith annerbyniol gan unrhyw Aelod yn y Siambr hon. Er y gall fod gwahaniaeth barn,...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Strwythur Cydbwyllgor y Gweinidogion (12 Meh 2019)

David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Adleisiwyd yr hyn rydych newydd ei danlinellu o amgylch y Siambr hon gan Aelodau a phwyllgorau amrywiol y Cynulliad. Yn amlwg, nid yw'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn gweithio. Mae'n dibynnu'n fawr ar sut y mae unigolion yn San Steffan yn ei weld, ac a ydynt am ei weld yn gweithio ai peidio. Nid oes strwythur ffurfiol. Nid oes unrhyw statws yn sail iddo....

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Bysiau yng Ngorllewin De Cymru (12 Meh 2019)

David Rees: Diolch i'r Gweinidog am ei ateb, ac mae'n amlwg ei bod yn bwysig inni sicrhau bod y Papur Gwyn hwnnw ar waith mor gyflym ag y gallwn er mwyn inni allu cyflawni camau pellach ar ein gwasanaethau bysiau ledled de-orllewin Cymru, gan mai bysiau'n bennaf sy'n darparu'r rhan fwyaf o'r drafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardal honno, yn hytrach na threnau. Ddydd Gwener diwethaf, cyfarfûm ag Andrew...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.