David Rees: Weinidog, fe addawodd y Torïaid ddarparu trydaneiddio i Abertawe, rhywbeth a fyddai'n sicr wedi gwella gwasanaethau ymhellach i'r gorllewin nag Abertawe. Nawr, gŵyr pawb ohonom eu bod wedi torri'r addewid hwnnw ac o'r herwydd, ni fydd gwasanaethau i'r gorllewin o Gaerdydd yn cael cymorth gan Lywodraeth y DU ar gyfer unrhyw waith seilwaith na moderneiddio. Nawr, mae hynny'n rhoi'r argraff...
David Rees: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau bysiau ar draws Gorllewin De Cymru? OAQ54018
David Rees: 1. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff Brexit ar strwythur Cydbwyllgor y Gweinidogion? OAQ54019
David Rees: Dyma ni eto. Nid wyf i'n dymuno mynd i ddadl am reolau Sefydliad Masnach y Byd, ond rydych chi'n gwybod yn iawn y bydd y gost am nwyddau y bydd yn rhaid i bobl ei thalu yn cynyddu yn fawr iawn, os byddwn yn mynd i reolau Sefydliad Masnach y Byd, ac mae hynny'n rhywbeth nad yw fy etholwyr i'n dymuno'i dalu. Ond ta waeth; nid ydym ni'n sôn am y rheini. Rydym ni'n sôn am gronfeydd strwythurol,...
David Rees: Yn rhyfedd iawn, rwy'n siarad heddiw mewn dwy swyddogaeth, fel Cadeirydd y pwyllgor materion allanol, sydd wedi edrych yn ofalus iawn ar hyn, ond hefyd fel Aelod etholaeth ar gyfer etholaeth sydd wedi elwa ar yr arian gan Ewrop. Fe wnaf i ddechrau trwy fyfyrio ar y pwynt olaf hwnnw, yn enwedig ar gyfraniad Delyth Jewell, gan ein bod ni'n aml yn sôn am gyllid Ewropeaidd ar adeiladau a ffyrdd...
David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Er mwyn egluro: o ran fy ngyd-gynrychiolydd Stephen Kinnock, sef AS fy etholaeth i, fel y gwnaethoch ei nodi, mae gan y grŵp hollbleidiol seneddol aelodaeth drawsbleidiol—yr SNP, y Ceidwadwyr, grwpiau amrywiol—ac felly barn dorfol ydyw, nid ei farn ef yn unig, ac mae hefyd yn farn academyddion sydd wedi cyfrannu ymchwil at yr adroddiad. Mae hyn yn...
David Rees: Trefnydd, a gaf fi ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru os gwelwch yn dda? Yn y bôn, mae'r un cyntaf yn un hawdd iawn, mewn gwirionedd, i'r Gweinidog Iechyd. Dros y penwythnos, gwelsom y newyddion bod GIG Lloegr yn edrych ar dreialon ar gyfer defnyddio MRIs ar gyfer sganio am ganser y prostad. Yn amlwg, byddai unigolion yn gwerthfawrogi y gallai'r dull o ganfod canser y prostad fod...
David Rees: Diolchaf i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae'n gwbl eglur bod angen i ni sicrhau bod addysg ôl-16 yn ein symud ni ymlaen. Mae darparu addysg ôl-16, fel y gwyddom, naill ai drwy'r chweched dosbarth yn ein hysgolion, neu drwy ein sefydliadau addysg bellach. Nawr, mae'r sector addysg bellach yn croesawu'r sylwadau yr ydych chi newydd eu gwneud, yn enwedig o ran cangen alwedigaethol...
David Rees: Diolch, Llywydd, a byddaf i mor gryno â phosibl, felly, ni fyddaf yn ailadrodd llawer o'r sylwadau sydd wedi'u gwneud eisoes. Ond, yn amlwg, byddaf i'n cysylltu fy hun â'r sylwadau gan yr Aelod dros Ogwr a'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr ar y mater hwn, a, Gweinidog, diolch ichi am yr atebion. Dim ond un neu ddau o bwyntiau cyflym felly, oherwydd, yn amlwg, mae llawer o'm hetholwyr yn...
David Rees: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gryfhau addysg ôl-16 yng Nghymru? OAQ54029
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am lawdriniaeth ddewisol yng Ngorllewin De Cymru?
David Rees: Dechreuaf fy nghyfraniad y prynhawn yma drwy ddiolch i'r Gweinidog am osod yr ail femorandwm cydsyniad deddfwriaethol atodol ac am gyflwyno'r cynnig yr ydym ni'n ei drafod heddiw. Fel y gŵyr y Gweinidog, ac fel mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi ei nodi, mae hyn mewn gwirionedd yn deillio o ohebiaeth gan y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth...
David Rees: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac rwy'n croesawu yn fawr y weledigaeth ar gyfer y ganolfan newydd ym mhen uchaf Cwm Dulais, fel y dywedodd Dai Lloyd, ardal sydd, yn amlwg, â hanes o fwyngloddio ac sydd bellach yn ystyried datblygu cyfeiriad newydd yr hoffech chi fynd iddi yn fy etholaeth gyfagos yng Nghastell-nedd? Fe wnaethoch chi gyfeirio at rai pwyntiau rwy'n credu, yr...
David Rees: Trefnydd, ar sawl achlysur, rwyf wedi codi pryderon fy etholwyr yn y Siambr hon ynglŷn â'r camau unioni a'r cymorth y maen nhw'n chwilio amdanynt o ganlyniad i ddeunydd inswleiddio waliau dwbl sy'n ddiffygiol. Mae'r deunydd inswleiddio waliau dwbl hwnnw wedi'i osod o dan grantiau Llywodraeth Cymru yn aml iawn, ac mae wedi'i warantu gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Yn aml...
David Rees: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw a'r ymrwymiad y mae wedi'i roi i gefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru? Nawr, yn 2016 ar ddechrau hyn, bydd llawer yn cofio inni weld y bygythiad i gau gwaith Port Talbot. Yn dilyn y penderfyniad gan Tata wedyn i beidio â'i gau, yn yr ymrwymiad i geisio cael cyd-fenter neu uno â ThyssenKrupp, gan nodi mai'r cynnig hwnnw a fyddai'n rhoi dyfodol...
David Rees: Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi sôn droeon am lygredd yn fy etholaeth yn sgil allyriadau diwydiannol. Un o'r agendâu yr hoffem edrych arnynt yw effaith gronnol unrhyw gynnig a gyflwynir ar gyfer unrhyw losgydd neu unrhyw agwedd arall, i edrych ar sut y mae hynny'n effeithio ar y gymuned yn ogystal â'r hyn sydd yno'n barod. A wnewch chi gyfarfod â'ch cyd-aelod o'r Cabinet, Julie James,...
David Rees: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyhoeddiad nad yw'r Comisiwn Ewropeaidd yn debygol o gymeradwyo'r fenter ar y cyd rhwng Tata Steel Cyf a ThyssenKrupp AG, ac felly bydd unrhyw broses bellach ar y cyd-fenter yn cael ei hatal? 310
David Rees: Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd ei rhaglenni gwella effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi ers dechrau datganoli?
David Rees: Trefnydd, yn amlwg, yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf fod cyd-fenter Tata â ThyssenKrupp mewn perygl ac yn annhebygol o fynd yn ei blaen a'u bod yn atal proses y gyd-fenter, a gawn ni alw am ddatganiad llafar gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth—ond, a dweud y gwir, byddai'n well gen i ei gael gan y Prif Weinidog, gan fy mod i'n credu bod hyn mor bwysig â hynny—ynglŷn â'r...
David Rees: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am yr ateb hwnnw. Oherwydd mae'n amlwg eu bod yn chwarae rhan bwysig. Y llynedd, clywsom ni'r Prif Weinidog yn honni bod cyni wedi dod i ben; wel, roedd hi'n anghywir, yn yr un modd a'i bod yn anghywir am bopeth arall. Nid yw cyni wedi dod i ben ac mae llawer o etholwyr a llawer o bobl ledled Cymru sy'n dal i ddioddef o dan ideoleg cyni'r Llywodraeth Dorïaidd...