Lesley Griffiths: We are supporting domestic, business and public sector consumers with a range of measures to increase energy efficiency. Support includes our Welsh Government Warm Homes programme, the Welsh quality housing standard, Green Growth Wales support for the public sector and support to businesses through Business Wales.
Lesley Griffiths: The Welsh Government recently published for consultation ‘Taking Forward Wales’ Sustainable Management of Natural Resources’. This paper includes proposals on improving opportunities for public access to the outdoors. The consultation was launched on 21 June. It will run for 12 weeks and close on 13 September.
Lesley Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Yn yr hinsawdd economaidd heriol iawn sydd ohoni, rwy’n credu y bydd y ffordd y byddwn ni’n ymateb i'r heriau a'r buddsoddiadau a wnawn yn awr yn sicr yn pennu dichonoldeb y sector cyhoeddus a'n dyfodol ar y cyd yng Nghymru. Fe wyddom ni y bydd y penderfyniadau a wnawn heddiw naill ai yn arwain at...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar swyddogaeth bwysig y sector cyhoeddus yng Nghymru wrth gyflawni ymrwymiadau ac uchelgeisiau statudol Cymru o ran datgarboneiddio. Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ymrwymo Cymru i darged tymor hir o leihau allyriadau gan o leiaf 80 y cant erbyn 2050, yn ogystal â thargedau interim a chyllidebau carbon pum mlynedd. Mae hyn yn...
Lesley Griffiths: Pan oeddwn i yn y COP22 ym Marrakesh fis Tachwedd diwethaf, gwelais yn glir sut mae pontio i economi carbon isel yn dod â llawer o gyfleoedd yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni, twf glân, swyddi o ansawdd uchel a manteision y farchnad fyd-eang. Nid dim ond yn yr economi mae modd gweld hyn. Mae manteision ehangach megis lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt, gydag aer a dŵr glân a gwell...
Lesley Griffiths: I ymateb i'r cwestiwn cyntaf, rwy’n credu fy mod i wedi ateb hynny, ond, os yw unrhyw ffermwr yn credu bod ganddo wartheg sy'n werth mwy na £5,000, byddwn yn awgrymu ei fod yn ystyried yswiriant. Fodd bynnag, mae'r cap newydd ar iawndal yn rhywbeth y byddwn yn parhau i’w fonitro. Y cynlluniau gweithredu pwrpasol o ran y buchesi wedi’u heintio’n gronig, rydym wedi dechrau tynnu’r...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Mark Reckless, am eich cyfraniad. Rydych chi yn llygad eich lle; roedd yn rhaid iddo fod yn ymgynghoriad ystyrlon. Efallai eich bod yn cofio pan ddeuthum i’r pwyllgor ychydig cyn y Nadolig—lansiwyd yr ymgynghoriad gennym ym mis Hydref ac rwy'n credu iddo redeg hyd ganol mis Ionawr, ac roeddwn yn bryderus iawn am ein bod ni wedi cael, yn y cyfnod cyn y Nadolig, rhywbeth...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, David Melding, am y cwestiynau hynny. Rydych chi yn llygad eich lle. Gwnaethpwyd hyn i gyd ar sail tystiolaeth—dyna sut y dylem ni wneud ein penderfyniadau. Ond rwy’n hapus iawn i edrych ar unrhyw beth y mae unrhyw un yn ei awgrymu er mwyn gyrraedd y nod hwnnw yr ydym ni’n dymuno ei gyrraedd, a Chymru heb TB yw hwnnw. Rwy’n derbyn yr hyn a ddywedwch am ofid yr...
Lesley Griffiths: Hoffwn ddiolch i Joyce Watson am ei chwestiynau ac rwy'n gwybod yn iawn beth yw ei barn hi am ddifa moch daear, lawn cymaint ag y mae hi'n gwybod beth yw f’un innau. Byddwch yn ymwybodol iawn mai ystyried y buchesi wedi’u heintio’n gronig yn unig a wna hyn. Mae'r cynlluniau hyn, mae'r cynlluniau gweithredu pwrpasol hyn, a gaiff eu llunio—a fydd, os caiff ei brofi bod yna, neu os oes...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Neil Hamilton, unwaith eto am eich croeso i'r rhaglen dileu TB ar ei newydd wedd ac am eich cwestiynau. A dweud y gwir, roeddech chi’n dweud am Simon Thomas, wnes i ddim cyfeirio at y cwestiwn am y cynllun prynu ar sail gwybodaeth a ofynnodd Simon, ac roeddech chi’n dweud eich bod yn meddwl fy mod wedi ateb Paul Davies gyda thristwch. Cyflwynwyd y cyllid grant hwn yn y...
Lesley Griffiths: Ie, rwy'n gobeithio y bydd hynny’n fuan—. Rwy'n mynd i gael sgwrs gyda Michael Gove yn y bore, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu ailgychwyn ein cyfarfodydd misol cyn gynted â phosibl. Rydych chi’n holi sut y byddaf yn adrodd i'r lle hwn, boed hynny yn y Siambr neu gyda'r pwyllgor. Rwy'n sicr yn credu bod angen i mi adrodd yn flynyddol, felly gallwn ystyried ai yma neu yn y...
Lesley Griffiths: Diolch, Simon Thomas, eto, am ei groeso cyffredinol i’r rhaglen ddileu newydd ac am ei gwestiynau. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi am yr effaith andwyol. Testun rhai o'r sgyrsiau mwyaf digalon yr wyf i wedi eu cael gyda ffermwyr ers i mi fod yn y swydd dros y flwyddyn ddiwethaf yw TB, felly rwy’n cytuno'n llwyr â chi ar y pwynt hwnnw. O ran y dull newydd gyda’r buchesi wedi’u...
Lesley Griffiths: Rwy’n diolch i Paul Davies am ei groeso cyffredinol i’r rhaglen dileu TB ar ei newydd wedd. Roeddech chi’n dechrau trwy siarad am dargedau, a byddwch yn gwybod fy mod wedi ymateb y bore yma i'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwy'n credu mai argymhellion 1 a 2 oedd yn ymwneud â thargedau, ac roeddwn yn hapus iawn i dderbyn yr...
Lesley Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i aelodau'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am ei adroddiad ar ein rhaglen i ddileu TB. Ymatebais yn ffurfiol i'r adroddiad y bore yma, ac roeddwn yn arbennig o falch o weld bod argymhellion y pwyllgor yn unol â'n cynigion, yr ymgynghorwyd arnynt yn hwyr y llynedd. Gan adeiladu ar y cynnydd sydd wedi bod dros y naw...
Lesley Griffiths: Ynghyd â’r mesurau newydd hyn mae’n rhaid i ni fod yn ddarbodus yn ein cyllidebau hefyd, yn enwedig gyda cholli cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae'n bwysig ein bod yn peidio â rhoi gormod o werth ar anifeiliaid a laddwyd, gan fod hynny’n cynyddu'r gost i drethdalwr. Rwy’n bryderus oherwydd mae ein taliadau iawndal cyfartalog ni 60 y cant yn uwch nag yn Lloegr, ac felly rwy’n...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy’n croesawu cynnig Plaid Cymru yn fawr iawn, ac roeddem yn falch iawn ein bod wedi gallu cytuno ein Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ â Phlaid Cymru. Mae’n amlwg fod ein barn ar ddyfodol amaethyddiaeth a datblygu gwledig ar ôl Brexit yn debyg. Yn bwysicaf oll, rydym yn gwbl glir y dylai amaethyddiaeth a datblygu gwledig fod, a pharhau i fod wedi’u datganoli....
Lesley Griffiths: Yn hollol, a soniasoch yn benodol am ardaloedd rwy’n meddwl mai yng Ngŵyr oedd hynny, wrth symud ymlaen. Dylai ein tirweddau dynodedig nid yn unig gael eglurder pwrpas, ond rwy’n meddwl bod yn rhaid bod ganddynt drefniadau llywodraethu effeithlon ac effeithiol iawn, ac mae pobl wedi cyfeirio at hynny. Fel y dywedais, byddaf yn dod â mwy o safbwyntiau ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad...
Lesley Griffiths: Gwnaf.
Lesley Griffiths: Na, nid wyf yn hunanfodlon o gwbl, ac rwy’n gobeithio, yn fy sylwadau agoriadol, fy mod wedi gwneud hynny'n glir iawn. Dof yn ôl at egwyddor Sandford oherwydd, yn amlwg, mae nifer o Aelodau wedi codi hynny yn eu cyfraniadau. Os caf i ddechrau gyda chyfraniad Simon Thomas: soniasoch yn benodol am RSPB Cymru, a oedd yn cael eu cynrychioli ar y gweithgor. Mae pobl eraill wedi dweud wrthyf...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon a byddaf yn ceisio ymateb i nifer o'r pwyntiau a godwyd. Mae'r gwaith sylweddol a wnaed, yn gyntaf gan yr Athro Terry Marsden a'i banel ac wedyn gan yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a'r gweithgor, bellach yn gosod y tirweddau a ddynodwyd mewn swyddogaeth yr wyf yn credu y gall helpu i roi sylw i heriau...