David Rees: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw? Yn amlwg, mae prentisiaethau wedi cael eu cysylltu â chymwysterau addysg ers blynyddoedd lawer—ONC, HNC—a nawr mae'r prentisiaethau gradd yn gam ymlaen ac i'w croesawu'n fawr. Ond, deallaf yng Nghymru, fod gennym ni ddau fframwaith sy'n weithredol ar hyn o bryd ac nid ydym ni wedi ehangu'r ddau fframwaith hynny hyd yn hyn. Rwy'n falch...
David Rees: Prif Weinidog, tynnodd Dai Lloyd sylw at y ffaith y gallai cynigion ynni'r morlyn llanw greu sector newydd o ddiwydiant ar draws rhanbarth de Cymru ac, yn amlwg, cefnogi diwydiannau eraill yno hefyd, gan gynnwys y gwaith dur ym Mhort Talbot. Yn dilyn y cyhoeddiad ddydd Gwener diwethaf am fethiant y fenter ar y cyd sy'n debygol o ddigwydd rhwng Tata a Thyssenkrupp, mae hyn yn bosibilrwydd...
David Rees: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu gradd-brentisiaethau? OAQ53873
David Rees: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod gwasanaethau cynghori'n cael eu cefnogi'n llawn am weddill y pumed Cynulliad? OAQ53857
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma ac am ymateb y Gweinidog a thynnu sylw at ambell beth? Rwy'n credu mai'r themâu cyffredin a welsom drwy gydol y cyfraniadau oedd pwysigrwydd pŵer meddal a sut y gall hynny adeiladu a helpu Cymru yn y dyfodol, a hefyd mater y Cymry alltud a sut y mae hynny'n gweithio. Ac nid ydym wedi defnyddio hynny er...
David Rees: Nawr, canfu ein gwaith fod gweithgareddau Llywodraeth Cymru yn y gorffennol, o ran ymgysylltiad rhyngwladol, wedi bod yn rhy dameidiog yn ein barn ni, ac yn anghydlynol, ac mae'n bwysig ein bod yn gweld y newid hwn. Gwnaethom gyfanswm o 11 o argymhellion yn ein hadroddiad, ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi nodi eu bod wedi derbyn y cyfan ohonynt yn llwyr neu mewn egwyddor—er ein bod bob...
David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw, gan nodi ein hadroddiad ar berthynas Cymru ag Ewrop a'r byd yn y dyfodol, a gwneud y cynnig. A gaf fi atgoffa'r Aelodau mai dyma yw ail gam ein gwaith mewn gwirionedd, oherwydd yn 2018, cyhoeddasom adroddiad, sef cam 1, a ganolbwyntiai ar Ewrop, ac mae hwn wedi mynd yn ehangach i edrych ar Ewrop a'r byd? Cyn imi ddechrau fy araith, a...
David Rees: Weinidog, mae'n amlwg bod sgrinio ar gyfer canser y coluddyn yn faes pwysig. Mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol yn seiliedig ar sensitifrwydd, ac mewn gwirionedd, bydd lefel y sensitifrwydd yn hanfodol yn hynny o beth, ond hefyd yr oedran, o bosibl, oherwydd ar hyn o bryd, 60 yw'r oedran hwnnw ond gallai ostwng i 50, ond ceir profion ceg y groth hefyd. Felly, ceir amrywiaeth o brofion sy'n...
David Rees: Weinidog, mae iechyd a lles yn mynd y tu hwnt i'r ysgol. Mae angen i ni edrych hefyd ar golegau addysg bellach yn ogystal â cholegau ôl-16, lle nad oes amser gorfodol o reidrwydd. Ond gall cymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol a gweithgareddau corfforol anghystadleuol eraill helpu ysgolion a cholegau i sicrhau bod digon o gyfleoedd ar gael i ddysgwyr fod yn ymwybodol o'u hagendâu iechyd a...
David Rees: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella amseroedd aros ysbytai?
David Rees: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet—mae'n ddrwg gennyf, y Gweinidog dros Brexit—am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac a gaf i hefyd ategu Delyth Jewell a chefnogi'r sylwadau am waith caled ac ymroddiad y gweision cyhoeddus sy'n gweithio ar hyn, ac sydd wedi bod yn gweithio arno ers misoedd lawer? Rydych chi wedi nodi'n glir yn eich datganiad y llanast yr ydym ni'n ei weld yn sgil...
David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau y mae wedi'u cael gyda TATA ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru?
David Rees: Lywydd, hoffwn ddiolch yn swyddogol i'r Torïaid am gyflwyno'r cynnig hwn. Rwy'n cytuno â barn Darren Millar, ac rwy'n cydnabod hynny. Cyflwynwyd y ddadl hon yn yr ysbryd o weithio i sicrhau ein bod yn cael y gwasanaethau cywir ar gyfer rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed, ac mae hynny'n hollbwysig. Y mis diwethaf, cadeiriais y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl pan drafodwyd yr adroddiad....
David Rees: Weinidog, rwy'n gobeithio bod eich pwynt olaf yn wir, oherwydd, fel y dywedwch, mae'n dod yn endid masnachol ar wahân a byddant yn edrych am y fargen rataf y gallant ei chael, nid o reidrwydd y fargen orau y gallant ei chael. Felly, yn amlwg, mae'r goblygiadau ar gyfer Port Talbot yn ddifrifol ac rydym yn pryderu ynglŷn â Phort Talbot, ond hefyd am y gweithwyr yn Nhrostre, oherwydd mae'n...
David Rees: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae hi yn bwysig bod gennym ni yn y Siambr hon gyfle i drafod y digwyddiadau hyn oherwydd eu bod yn symud yn gyflym, yn newid yn gyflym, ac mae ganddyn nhw oblygiadau enfawr ar yr etholwyr yr ydym ni yma i'w cynrychioli, ac, felly, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ddatganiad y Gweinidog ynghylch y sefyllfa bresennol. Rwy'n gwybod hefyd y cafwyd...
David Rees: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan y Prif Arolygydd Prawf mewn cysylltiad â chyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaethau ymyrraeth gynnar yn ardal Bae'r Gorllewin? Roedd yr adroddiad yn eithaf damniol. Yn wir, tynnodd sylw ar y ffaith hon, sef allan o 12 ardal, yr ystyriwyd bod naw ohonynt yn 'annigonol', a...
David Rees: Prif Weinidog, mae system drafnidiaeth integredig yn wych os oes gennych chi system drafnidiaeth bysiau cyhoeddus effeithiol. Yng Ngorllewin De Cymru, mewn gwirionedd, mae'r rhan fwyaf o'r cludiant ar fysiau, nid ar y rheilffyrdd. Ac rwyf i wedi codi mater Cwm Afan droeon. Mae gen i etholwyr yng nghwm Afan sydd â bws bob dwy awr—ac mae hynny yn ystod y dydd—a dim yn gynnar yn y bore, dim...
David Rees: Cytunaf â phopeth y mae Suzy Davies newydd ei ddweud. Ond y cwestiwn rwyf am ei ofyn yw hwn: mae pawb ohonom yn derbyn bod y morlyn llanw yn brosiect buddiol mewn gwirionedd ac mae'r pethau a ddaw yn ei sgil a'r buddion a ddaw yn ei sgil yn rhywbeth y mae pawb ohonom am ei weld. Ond yn ogystal â manteision amgylcheddol, ceir heriau amgylcheddol, ac un ohonynt yn amlwg yw'r effaith ar...
David Rees: Prif Weinidog, a gaf i unwaith eto gofnodi fy ngwerthfawrogiad i, a gwerthfawrogiad y gweithwyr dur ym Mhort Talbot, am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r diwydiant dur dros y blynyddoedd? Mae hyn wir wedi sefyll yn gadarn dros faes gweithgynhyrchu dur yma yn y DU. Dyma'r unig Lywodraeth sydd wedi gwneud hynny, yn wahanol i Lywodraeth y DU, sy'n parhau i fethu a chefnogi'r diwydiant dur. Yn wir,...
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Cwnsler Cyffredinol. Ac mae'r sylw diwethaf yr ydych newydd ei wneud yn ddiddorol iawn, ond, yn amlwg, yr wythnos diwethaf, gwelsom Lefarydd Tŷ'r Cyffredin yn ei gwneud yn gwbl glir na châi'r Prif Weinidog ddod â'r cynnig yn ôl, nad oedd wedi ei ddiwygio mewn unrhyw ffordd o gwbl. Aeth hi at y Cyngor Ewropeaidd ar 21 a 22 Mawrth, gan wneud cais am estyniad,...