Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â’r cyfraniad y mae ein hardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a’n parciau cenedlaethol yn ei wneud i Gymru. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cwmpasu bron i chwarter tir Cymru, ac mae'r ddadl yn ymwneud â sut y gallant, a bod yn rhaid iddynt, gyflawni mwy. Mae gan bob tirwedd ei gwerth arbennig i bobl. Mae tirwedd yn creu ac yn cynnal yr...
Lesley Griffiths: Diolch i chi, Llywydd. Mae’n bleser gennyf ymateb i’r ddadl hon. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn glir ei huchelgais i ddarparu system ynni carbon isel ar gyfer Cymru. Wrth wneud hyn, rydym wedi ymrwymo i sicrhau’r manteision mwyaf posibl i Gymru yn sgil y newid hwn ac amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed. Felly, rwy’n croesawu’n fawr y gwaith a wnaed ar ddatblygu model Ynni...
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.
Lesley Griffiths: Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr â Bethan Jenkins. Fel y gwyddoch, mae hwn yn rhywbeth rwy’n edrych arno’n ofalus iawn ac rwy’n gobeithio y byddaf yn ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad, os nad cyn y toriad, yna’n sicr cyn gynted ag y dychwelwn.
Lesley Griffiths: Yn sicr. Cefais drafodaeth gyda’r grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid. Rydym yn edrych ar eu rhaglen waith. Gallaf gofio’r tro diwethaf—wel, roeddwn yn meddwl fy mod yn gallu—i Newcastle United ennill Cwpan yr FA, felly efallai fy mod yn dangos fy oed yno. Ond rydych wedi fy atgoffa bod angen i ni wneud yn siŵr fod ein holl ddeddfwriaeth yn gyfoes, yn ogystal â’n polisïau,...
Lesley Griffiths: Yn sicr. Byddwn yn ymuno â chi gyda hynny. Ac er bod hela â chŵn yn fater nad yw wedi’i ddatganoli, fy safbwynt yw y byddem yn gwrthwynebu’n gryf unrhyw gamau gan unrhyw Lywodraeth y DU yn y dyfodol i ddiddymu Deddf Hela 2004. Nid ydym yn dymuno gweld yr arfer barbaraidd, creulon ac amhoblogaidd hwnnw’n dychwelyd i Gymru.
Lesley Griffiths: Mae ‘Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid—Cyrraedd Safonau Uchel gyda’n Gilydd’ yn esbonio’r dull rydym wedi’i fabwysiadu i gyflawni gwelliannau parhaus a pharhaol mewn safonau iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru. Mae’r cynllun gweithredu blynyddol yn nodi’r camau penodol rydym yn bwrw ymlaen â hwy mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.
Lesley Griffiths: Mae gweithrediadau pren masnachol yn sicr yn flaenoriaeth uchel i Cyfoeth Naturiol Cymru, a’r wythnos ddiwethaf yn unig, cyfarfûm â’r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd a sicrhau bod cynrychiolydd o Cyfoeth Naturiol Cymru yno i glywed eu pryderon. Eleni, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailstocio mwy na 1,200 hectar ar ystâd goed Llywodraeth Cymru, ac mae hynny’n cymharu’n...
Lesley Griffiths: Gwn fod hynny’n rhywbeth y mae swyddogion cynllunio yn gweithio arno gyda’r awdurdodau lleol, ac yn amlwg mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhan o’r ymgyrch honno. Mae’n bwysig iawn fod yr holl faterion hyn yn cael eu hystyried, ac rwy’n edrych ar y polisïau cynllunio yn gyson i sicrhau bod gan awdurdodau lleol y canllawiau cywir wrth law.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae gennym nifer fawr o bolisïau a rhaglenni sy’n sicrhau twf gwyrdd, megis Twf Gwyrdd Cymru. Rydym wedi bod yn gweithio i ddatgarboneiddio’r sector cyhoeddus, ac rydym yn darparu cymorth hyblyg i fusnesau, rhaglenni effeithlonrwydd ynni domestig, a chefnogaeth ar gyfer datblygiadau carbon isel, o raddfa gymunedol i gynhyrchiant canolog.
Lesley Griffiths: Rwy’n credu bod Suzy Davies yn codi pwynt pwysig iawn. Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â pha mor aml y caiff cynlluniau llifogydd eu hailasesu.
Lesley Griffiths: Oes, rwy’n falch iawn fod fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, wedi gallu cyflwyno gwelliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 i Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) i sicrhau bod gostyngiad yn y dreth ar gyfer deunydd a garthwyd o’r dŵr at ddibenion atal llifogydd. Credaf fod hwnnw’n welliant pwysig iawn. Yn sicr, byddwch yn gwybod am y cyllid sylweddol...
Lesley Griffiths: Ie, rwy’n cytuno â’r datganiad hwnnw. Yn sicr, roeddwn yn edrych ar lwybr beicio yn fy etholaeth yn Wrecsam a dôi i ben yn ddisymwth; nid oedd yn parhau. Felly, tybed beth fyddai rhywun yn ei wneud wrth feicio ar hyd y llwybr—i ble y byddent yn mynd? Felly, credaf fod angen i bob awdurdod lleol edrych yn ofalus iawn ar eu darpariaeth ar gyfer beicwyr, a gwneud popeth yn eu gallu i’w...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am asesu perygl llifogydd o afonydd a’r môr. Mae’r cynllun rheoli perygl llifogydd lleol yn nodi ymhellach sut y bydd risgiau’n cael eu rheoli. Cwblhawyd cynllun gwerth £7 miliwn ar gyfer rheoli perygl llifogydd yn 2015, gan leihau’r perygl i Gwm Tawe isaf yn sylweddol.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae defnydd gwell a rheolaeth well ar ein cyfoeth o adnoddau naturiol, ynghyd â defnydd mwy effeithlon o’r adnoddau sydd mewn cylchrediad, yn elfen allweddol o’n dull economi gylchol a’n hymrwymiad i dwf gwyrdd a lleihau ôl troed ecolegol Cymru.
Lesley Griffiths: Yn sicr, credaf fod angen inni leihau faint o ddeunydd pacio a ddefnyddir, ac roeddwn yn arswydo wrth weld—prynodd fy merch rywbeth gan gwmni adnabyddus iawn nad wyf am eu henwi, a chredaf fod yr eitem oddeutu’r maint hwn ac roedd y deunydd pacio’n gwbl enfawr, a gwnaeth hynny i mi gysylltu â swyddogion ar unwaith i’w hatgoffa bod hyn yn rhywbeth y credaf fod gwir angen inni ei...
Lesley Griffiths: Rwy’n siŵr y bydd y rhan fwyaf o’r Aelodau yn y Siambr yn gyfarwydd â’r hyn a ddywedwch. Mae ein bagiau post yn aml yn llawn cwynion o’r fath, ac rwy’n sicr yn llongyfarch Sir Benfro ar gael y strydoedd glanaf, ac mae’n bwysig iawn fod yr arferion gorau hynny’n cael eu rhannu. Byddwch yn gwybod am y sawl cynllun sydd gennym. Rydym yn cefnogi Cadwch Gymru’n Daclus, er...
Lesley Griffiths: Diolch. Nod Llywodraeth Cymru yw atal sbwriel rhag cael ei ollwng yn y lle cyntaf. Rydym yn cefnogi ac yn ariannu ystod o raglenni sy’n canolbwyntio ar addysg, gwella camau gorfodi, ac ymgysylltiad a chyfranogiad y gymuned. Trwy annog pobl i ymfalchïo yn eu hamgylchedd, byddwn yn sicrhau gwelliannau a fydd yn para’n hirach.
Lesley Griffiths: Fel y dywedwch, mae angen i ni wneud cryn dipyn o waith ar hyn, a byddwch wedi fy nghlywed yn dweud bod hyn yn flaenoriaeth i mi. Gwyddoch ein bod wedi cael ymgynghoriad yn ddiweddar, ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod, yn gyffredinol, yn cefnogi’r camau rydym yn eu cymryd. Rydym yn ailadrodd pwysigrwydd lleihau cysylltiad y cyhoedd â llygredd aer drwy sicrhau bod crynodiad cyfartalog...
Lesley Griffiths: Mae iechyd pobl ac amgylchedd Cymru yn mynd law yn llaw ac rwyf wedi ymrwymo i ddiogelu pobl ac amgylchedd Cymru. Mae fy swyddogion, a swyddogion iechyd yn sicr, ac yn enwedig swyddogion y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, yn gweithio’n agos iawn gyda’i gilydd, ac rydym wedi adolygu’r canllawiau newydd, y gwyddoch amdanynt mae’n siŵr, ar reoli ansawdd yr aer yn lleol. Rydym yn...