Mr Simon Thomas: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am gadarnhau y costau. Mae'n amlwg na fydd y costau yn cael eu diwallu oni bai bod methiant gan y Llywodraeth i gwrdd â'r anghenion cyfreithiol o ran llygredd awyr. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n gyfrifol fel Cwnsler Cyffredinol am yr ochr yna o bethau, ond mae'r symiau rydych chi wedi sôn amdanynt yn hen ddigon i dalu am sawl gorsaf monitro llygredd awyr y tu...
Mr Simon Thomas: Yn amlwg, o’r hyn rydych chi newydd ei ddisgrifio, Gwnsler Cyffredinol, mae’n hynod bwysig i drigolion Cymru gael y mynediad yma i’r Uchel Lys ac i gyfiawnder yn gyffredinol er mwyn dal Llywodraeth Cymru i gyfrif ar lygredd awyr, a hefyd, gobeithio, er mwyn gweld y gwelliant sy’n mynd i ddod yn sgil y prosesau cyfreithiol yma. Nawr, wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae nifer o’r...
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb yna. Gwnaf barhau i ofyn cwestiynau yn Gymraeg iddo fe, fel ei fod e'n gallu practiso ei Gymraeg, fel petai. Rydw i wedi edrych ar sawl map erbyn hyn o le mae pwyntiau gwefru ceir trydan ar gael, ac mae'n amlwg bod yna fwlch mawr yn yr anialwch gwyrdd yna yn y canolbarth. Os ydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus, byddwn i'n awgrymu bod cau'r bwlch yn un o'r...
Mr Simon Thomas: 7. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cynnal ynglŷn â buddsoddiad newydd mewn pwyntiau gwefru cerbydau trydan? OAQ51713
Mr Simon Thomas: 6. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu faint o arian sy'n cael ei wario gan Lywodraeth Cymru ar achosion llys sy'n ymwneud â llygredd awyr? OAQ51714
Mr Simon Thomas: 7. A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael trafodaethau gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ynglŷn ag adolygiad o achosion treisio yng Nghymru? OAQ51715
Mr Simon Thomas: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddileu tollau Pont Cleddau?
Mr Simon Thomas: Rwy’n croesawu hefyd yr adroddiad yma a’r rhan sy’n delio â gamblo yn arbennig. Heb ailadrodd yr hyn sydd wedi cael ei ddweud eisoes, rydw i yn sylwi bod yr adroddiad yn dweud bod cost gamblo eithafol i wasanaethau cyhoeddus Cymru o gwmpas £40 miliwn i £70 miliwn y flwyddyn, oherwydd yr effaith ar y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau gofal yn benodol. Rwy’n rhannu’r pryder sydd...
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Prif Weinidog am y datganiad heddiw ac am y papur sydd wedi cael ei gyhoeddi. Y ffaith amdani, wrth gwrs, yw bod y papur hwn, yn ogystal â'r dadansoddiad a ryddhawyd yn y dirgelwch, fel petai, o San Steffan, wedi datgelu bod cost i Brexit i economi Cymru—beth bynnag fo'r seniaro rŷch chi'n ei dilyn, mae yna gost. Mae yna gost arbennig, fel sydd wedi cael ei amlinellu yn y papur...
Mr Simon Thomas: Oherwydd hyn, does bosib. Mae'n anarferol iawn—yn anarferol iawn—i Weinidog dros lywodraeth leol mewn un wlad ddatganoledig ddweud wrth awdurdod lleol mewn gwlad ddatganoledig arall sut y dylai ymddwyn, ac rwy'n credu pe byddai hyn wedi bod yn Weinidog yn Lloegr mewn plaid arall—y Blaid Geidwadol er enghraifft—yn dweud wrth awdurdod lleol yng Nghymru beth i'w wneud, byddai cryn dipyn...
Mr Simon Thomas: Yn rhyfedd iawn, mae gennyf innau yr un dau bwnc hynny hefyd i'w codi gydag arweinydd y tŷ, ond mewn ffordd hollol wahanol. Felly, yn gyntaf oll, a gawn ni ddadl, yn wir, ar ryddid llywodraeth leol o reolaeth Llywodraeth ganolog? Oherwydd fy mod i'n sylwi bod Alun Davies, sef Gweinidog Cymru dros lywodraeth leol, yn mynychu cyfarfodydd gweithrediaeth genedlaethol y Blaid Lafur, a...
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet. Bydd e'n ymwybodol, o leiaf, o adroddiadau'r wasg, bod y dadansoddiad yma yn edrych ar dair sefyllfa: sefyllfa aros yn y farchnad sengl i bob pwrpas, sefyllfa o adael o dan reolau'r World Trade Organization, a sefyllfa o ryw fath o gytundeb masnach rydd o'r fath y mae'r Prif Weinidog wedi bod yn sôn amdano. Mae'r dair sefyllfa yn edrych dros 15 mlynedd, ac,...
Mr Simon Thomas: Bydd fy ymgysylltiad â fy mwrdd iechyd yn llawer mwy anodd ar ôl digwyddiadau'r 24 awr diwethaf, mae'n rhaid i mi ddweud, gan fy mod yn gwybod bellach y bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu'n rhydd â'r Llywodraeth, gyda'r bwriad o ddifenwi ymgysylltiad â'r bwrdd iechyd. Felly, hoffwn gadarnhau fy mod yn gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu cadarnhau heddiw pa wybodaeth arall sydd...
Mr Simon Thomas: 2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith gadael yr UE ar Gymru ar sail y dadansoddiad o dair sefyllfa gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a ddatgelwyd ddydd Llun? 123
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, rwy’n parchu’r ffaith bod y Cynulliad yn gallu penderfynu ei hun sut i ymdrin â gwahanol reoliadau yma, ond nid wyf ond yn bwriadu siarad unwaith wrth drafod yr hyn sydd gerbron. A gaf i, yn gyntaf oll, jyst nodi’r ffaith bod Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod yn bresennol, fel sydd wedi’i grybwyll eisoes, heddiw yn y Cynulliad? Rwy’n...
Mr Simon Thomas: Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw gan yr Ysgrifennydd Cabinet, ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn at ohebu yn gyson gyda hi dros y misoedd a'r blynyddoedd i ddod hefyd, gan ddweud nad wyf i'n ei hystyried hi'n stranded resource, o gwbl, ac rwy'n ddiolchgar iddi hi am ateb mor gyson i ohebiaeth gen i. Rwyf i jest am ofyn yn glou iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet: yr £80 miliwn mae hi wedi sôn...
Mr Simon Thomas: Datganwch fuddiant.
Mr Simon Thomas: A gaf i ddechrau gyda'r un hawdd, sef nodi bod caws Caerffili wedi ennill statws dynodiad daearyddol gwarchodedig heddiw, fel yr unig gaws cynhenid yng Nghymru—ac rwy'n falch iawn o weld hynny, ond mae'n rhoi cyd-destun ehangach, wrth gwrs, i'r hyn a fydd yn digwydd pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, o ran statws dynodiad daearyddol gwarchodedig, ac, yn wir, brandio bwyd Cymru....
Mr Simon Thomas: Nid af i ailadrodd gormod o'r ddadl. Yn syml, rwyf am fynd ar drywydd cwpl o themâu y credaf eu bod yn bwysig iawn a diolch i Nick Ramsay a Mike Hedges hefyd am gymryd rhan yn y ddadl. Rwy'n meddwl mai'r hyn rydym eisiau ei weld mewn gwirionedd, neu ei ystyried o leiaf, yw y byddai'n bosibl i Fil gael ei gefnogi yng Nghyfnod 1 yma—i bob plaid ei gefnogi, o bosibl—ond erbyn iddo...
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl. Rydw i'n credu er ei bod hi'n ddadl dechnegol ei natur, mae'r ffaith ein bod ni wedi dod â hi i lawr y Siambr yn bwysig gan ei bod yn ymwneud â'r Biliau y mae pob un ohonom ni yn delio gyda nhw. Rwy'n arbennig o falch, yn y cyd-destun hwn, ei bod wedi rhoi cyfle i Llyr Gruffydd fynegi ei brofiad yntau o bersbectif...