Adam Price: —yn credu hynny. Ac yn credu hynny oherwydd bod yna rôl i bawb wrth greu'r Gymru newydd. Mae e'n waith y mae'n rhaid i ni i gyd greu strwythurau er mwyn ei gyflawni.
Adam Price: Dwi'n falch o gael y cyfle am yr ail waith heddiw i graffu ar adroddiad blynyddol y rhaglen llywodraethu. Wnaf i ddim ailadrodd y pwyntiau wnes i'n gynharach am ddiffyg delifro systemig y Llywodraeth yma mewn meysydd allweddol fel tlodi plant a thlodi tanwydd. Ond fe ddywedaf i ein bod ni wedi dod yn llawer rhy gyfarwydd â'r patrwm ailadroddus hwnnw dros dymor y Llywodraeth yma a'r rhai...
Adam Price: Wel, mae'r ymgyrchwyr Llafur yr wyf i wedi eu dyfynnu yn feirniadol o ddogfen bolisi derfynol eich plaid, yr wyf i wedi ei gweld, oherwydd nad yw'n ymrwymo i ymestyn prydau ysgol am ddim—yr union bolisi yr ydych chi wedi bod yn ymosod arnaf i yn ei gylch dros yr wythnosau diwethaf hyn. Mae'n ymddangos fy mod i'n nes at werthoedd Llafur nag ydych chi erbyn hyn. Prin yw'r syniadau newydd y...
Adam Price: Prif Weinidog, nid fy safbwyntiau i yw'r sylwadau yr wyf i newydd eu darllen—safbwyntiau rhywun a oedd yn gyfarwyddwr anweithredol o'ch Llywodraeth am bron i ddegawd ydyn nhw. Mae'n anodd dod o hyd i gyhuddiad mwy damniol na'r datganiad hwn ganddo am y profiad hwnnw: Nid wyf i erioed wedi bod yn rhan o Fwrdd â'r fath ddiffyg mesurau o gynnydd neu lwyddiant canlyniadau. Rydych chi'n...
Adam Price: Diolch, Dirprwy Lywydd. O weld y stampiau 'gwireddwyd' mawr, beiddgar hynny ar dudalen agoriadol eich adroddiad blynyddol, Prif Weinidog, cefais fy atgoffa o bapur a ddarllenais yn ddiweddar am eich Llywodraeth, a oedd yn dweud hyn: Tueddir i weld ymgyrch ticio blychau i sicrhau y gellir dweud bod addewidion Maniffesto a Rhaglen wedi eu cyflawni. Yr hyn nad wyf i erioed wedi ei weld yw ymgais...
Adam Price: Rydych chi a minnau wedi trafod yr union fater hwn o'r blaen, ond y cwestiwn, wrth gwrs, yw beth yr ydym ni'n mynd i'w wneud nawr. Yr hyn y byddem ni'n ei wneud mewn Llywodraeth yw ymrwymo i ailbrisio yn fwy rheolaidd a sicrhau bod system y dreth gyngor yn fwy cymesur â gwerth eiddo. Rydym ni'n gwybod ym Mlaenau Gwent, er enghraifft, ein bod ni wedi gweld gwerth eiddo yn cynyddu fwy na...
Adam Price: Yn amlwg, mae'r cynnydd ychwanegol o £5.5 miliwn i gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor y cyfeiriasoch ato, Prif Weinidog, i'w groesawu, ond mae'n is na'r cynnydd i ôl-ddyledion y dreth gyngor, a'r bobl sydd fwyaf tebygol o fod wedi mynd i ôl-ddyledion yw'r rhai y mae'r coronafeirws wedi effeithio arnyn nhw, aelwydydd â phlant, pobl ag anableddau. Mae rhewi'r dreth gyngor yn fesur tymor...
Adam Price: Prif Weinidog, mae Llywodraeth yr Alban yn darparu £90 miliwn o gyllid ychwanegol i gynghorau i'w caniatáu i rewi'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf, gan wrthbwyso'r hyn a fyddai, ar gyfartaledd, wedi bod yn gynnydd o 3 y cant. Byddai'n costio tua £100 miliwn i ganiatáu i gynghorau Cymru rewi'r dreth gyngor y flwyddyn nesaf a gwrthbwyso'r cynnydd cyfartalog o 4.8 y cant a welsom y llynedd....
Adam Price: Diolch, Lywydd. Gaf i, yn gyntaf, ategu'r sylwadau, ac ategu bod ein meddyliau a'n gweddïau ni i gyd gyda theuluoedd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath ar yr adeg hynod anodd yma iddyn nhw a'r gymuned gyfan?
Adam Price: Wrth gwrs, mae'r camau sydd wedi eu cymryd nawr yn ystod y pandemig i'w croesawu, ond mae'r comisiynydd plant wedi gwneud y pwynt bod angen i ni weld yr adolygiad, sy'n edrych ar yr hyn y gellir ei wneud y tu hwnt i'r uniongyrchol, yn cael ei droi yn gynllun gweithredu pendant. Mae llawer o bobl sy'n gweithio yn y maes hwn yn tynnu sylw at y ffaith mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth leiaf hael...
Adam Price: Mae sefydliadau sy'n gweithio yn y maes hwn yng Nghymru wedi galw arnoch chi i gyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad tlodi plant, ac mae'n destun gofid mai dim ond nawr y maen nhw'n cael eu cyhoeddi o ganlyniad i gais rhyddid gwybodaeth. Fodd bynnag, maen nhw'n ddadlennol iawn. Nid yn unig y maen nhw'n groes i bolisi eich Llywodraeth eich hun, maen nhw'n cyd-fynd â'r hyn yr ydym ni ym Mhlaid...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ym mis Medi 2019 gofynnais i chi nodi cyfrifoldebau disgwyliedig arweinydd newydd yr adolygiad tlodi plant. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y canfyddiadau allweddol yn deillio o'u gwaith?
Adam Price: Mae'n iawn, wrth gwrs, i ni beidio â bod yn blwyfol yn unig, os hoffech chi, a chymharu ein hunain gyda gwledydd eraill yn yr ynysoedd hyn, ond cymharu ein hunain â rhai o'r goreuon yn y byd. Rydym ni'n gwybod, wrth gwrs, erbyn dydd Sul, bod Israel wedi brechu 20 y cant o'i phoblogaeth—rwy'n credu ei fod wedi cyrraedd 28 y cant erbyn hyn. Disgwylid yn wreiddiol y byddai eu rhaglen hwythau...
Adam Price: Prif Weinidog, nid ydych chi wedi rhoi sylw i fy nghwestiwn i, ac mae'n gwestiwn rhesymol i mi ei ofyn i chi, ac, yn wir, mae'n gwestiwn y mae fy rhieni oedrannus fy hun yn ei ofyn i mi, oherwydd maen nhw yn y sefyllfa—dydyn nhw ddim wedi cael dyddiad o gwbl; y ddau ohonyn nhw yn eu 80au. Mae gan fy nhad, cyn-löwr 85 oed, glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint; mae mewn grŵp sy'n agored i...
Adam Price: Prif Weinidog, os mai cyflenwad yw'r ffactor sy'n cyfyngu ar y gyfradd—ac mae'r Gweinidog iechyd newydd ddweud bod hynny yn wir ar draws yr holl wledydd—yr hyn y mae'n ei esbonio wedyn yw'r gyfradd wahaniaethol o frechu yng Nghymru o'i chymharu, fel yr ydym ni wedi ei glywed, â'r DU yn ei chyfanrwydd, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn arbennig. Os yw'r un gyfradd gyflenwi yn bodoli ar draws y...
Adam Price: Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, yn amlwg, i dynnu sylw at y camau cadarnhaol hynny y dylid eu cefnogi a'u hannog, ond a fyddech chi'n derbyn y gellir gwneud mwy a bod angen gwneud mwy? Rhoddaf un enghraifft i chi—dim ond 2.6 y cant o swyddogion Heddlu De Cymru sy'n ddu, yn Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, o'i gymharu â 6.7 y cant o'r boblogaeth yn ardal yr heddlu. Mae ystadegau a...
Adam Price: Ym 1990, yn dilyn yr achos llofruddiaeth mwyaf uchel ei broffil yn hanes Heddlu De Cymru, cafwyd tri gŵr du yn euog o lofruddiaeth Lynette White, ac, 11 mlynedd yn ddiweddarach, cafodd 12 o swyddogion yr heddlu eu rhyddfarnu ar dechnegoldeb yn yr achos llygredd heddlu mwyaf mewn hanes. Yn yr achos a adnabyddir fel y Butetown Three, disgyblwyd pum heddwas 11 mlynedd yn ôl yn dilyn digwyddiad...
Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd Mohamud Hassan yn ŵr ifanc 24 oed heini ac iach. Nos Wener, cafodd ei arestio mewn eiddo yng Nghaerdydd, lle y cyfeiriodd cymdogion yn ôl adroddiadau at gynnwrf sylweddol. Ar ôl cael ei gymryd i'r ddalfa yng ngorsaf heddlu Bae Caerdydd, cafodd Mr Hassan ei ryddhau heb gyhuddiad ddydd Sadwrn. Yn ddiweddarach y noson honno, bu farw'n drasig. Dywedwyd bod...
Adam Price: Diolch yn fawr, Llywydd, ac mae'n bleser gen i symud y gwelliannau sydd wedi eu gosod yn enw Siân Gwenllian.
Adam Price: Mae'r bleidlais sy'n cael ei chynnal yn San Steffan heddiw yn theatr wleidyddol llwyr. Nid oes angen cadarnhau'r cytuniad, gan y gall y Weithrediaeth wneud hynny heb gymeradwyaeth seneddol. Nid oes angen ei weithredu hyd yn oed, gan y gellir gwneud y rhan fwyaf o hynny drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r syniad fod hon rywsut yn bleidlais ar 'ddim cytundeb' yn gelwydd noeth y mae’r gwrthbleidiau...