Lesley Griffiths: Diolch. Er y byddai awdurdodau lleol, rwy'n credu yn gyffredinol, yn dweud bod ganddyn nhw setliad gwell nag yr oedden nhw wedi'i ragweld, yn amlwg mae rhai dewisiadau anodd iawn i'w gwneud gan ein hawdurdodau lleol, ac wrth gwrs, y gwasanaethau nad oes ganddyn nhw gyfrifoldeb statudol amdanyn nhw, yw'r cyntaf bob amser i gael eu hystyried pan ddaw hi at doriadau. Mae'r Dirprwy Weinidog...
Lesley Griffiths: O ran eich pwynt cyntaf ynghylch nifer y meddygon teulu, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i wneud llawer iawn o waith i gyflwyno mwy o feddygon teulu dan hyfforddiant bob blwyddyn. Rwy'n credu y gwelwch chi, blwyddyn ar ôl blwyddyn dros y blynyddoedd diwethaf, bod hyn yn sicr wedi bod yn wir. Mae'n amlwg bod y Gweinidog hefyd yn gweithio'n galed iawn ac yn agos...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae pedwar newid i'r busnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar lifogydd wedi'r datganiad busnes a'r cyhoeddiad, a bydd datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl hynny i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ei chyfarfod ag undebau llafur y GIG. Er mwyn rhoi amser ar gyfer hyn, mae'r datganiad llafar ar Wcráin...
Lesley Griffiths: Diolch i chi. Wel, mater i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd fyddai hwnnw, ac, fel gwyddoch chi, fe roddwyd ystyriaeth fanwl iawn i'r adolygiad ffyrdd yn ei gyfanrwydd a'r rhaglenni adeiladu ffyrdd, ond fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog—y Dirprwy Weinidog, mae'n ddrwg gennyf—i roi datganiad ysgrifenedig.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu bod y sefyllfa yr ydych chi'n ei nodi yn wir yn gwbl annerbyniol. Os mai dim ond un aelod o staff sydd, a'i bod ar gyfnod mamolaeth, yna yn amlwg rwy'n gwerthfawrogi na allan nhw gael rhywun i mewn ar fyr rybudd. Fodd bynnag, mae aros am ddwy i dair blynedd am asesiad mor bwysig yn amlwg yn rhy hir. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog os yw'n ymwybodol o'r mater yr ydych...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y dywedais i, mater i awdurdodau lleol yw hwn. Nid ydw i'n gweld bod hwn yn fater i Lywodraeth Cymru. Byddwn i'n rhoi'r un cyngor i chi ag yr wyf newydd ei roi i James Evans; rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn eich bod chi'n ei godi gyda'ch awdurdod lleol.
Lesley Griffiths: O ran eich pwynt cyntaf, byddaf i'n diwygio'r ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl. Byddwch chi'n gwerthfawrogi mai dyma'r wythnos gyntaf yr ydym ni nôl ar ôl gwyliau'r Nadolig, ond rwy'n bwriadu parhau i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ddiwygiedig honno cyn gynted â phosibl. Yn sicr, nid ydw i'n credu bod hynny'n wir am Gyngor Sir Powys, ond rwy'n awgrymu eich bod chi'n ysgrifennu atyn nhw...
Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, fe wnaeth Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd ar 5 Ionawr yn gysylltiedig â chais cynllunio penodol ar fferm ddofednod, ac mae'r cyfarwyddyd hwnnw yn atal rhoi caniatâd cynllunio tan y bydd Gweinidogion Cymru wedi gallu asesu a ddylai cais cynllunio gael ei alw i mewn ai peidio, a chyfarwyddiadau o'r fath, fel y gwyddoch chi, yn cael eu cyhoeddi'n rheolaidd pan fo...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n tybio y bydd y Gweinidog yn ystyried yr adroddiad yr ydych chi'n cyfeirio ato ar hyn o bryd. Byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog yn dweud yn ei sesiwn holi ac ateb ein bod ni wedi rhoi arian sylweddol unwaith eto yn ein rhaglenni rheoli risg llifogydd, ac mae'n hynod bwysig bod gan ein hawdurdodau lleol a CNC y staff i allu gweithredu pob cynllun.
Lesley Griffiths: Diolch. Nid ydw i wedi gweld eich gohebiaeth, ond fe allai hynny fod oherwydd bod CNC yn dod o fewn portffolio fy nghyd-Aelod y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, felly efallai ei fod wedi cael ei drosglwyddo draw ati hi. Ond yn amlwg rwy'n ymwybodol iawn o'r ymgynghoriad parhaus gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch eu ffioedd rheoleiddio a thaliadau ar gyfer 2023-24. Rwy'n credu mai holl...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, fel chi, nid oeddwn i wedi clywed am y dyn hwn. Roedd yr hyn a oedd i'w weld yn y newyddion ar yr adeg y gwnaeth y stori hon daro'r cyfryngau yn hollol erchyll. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir iawn, iawn bod angen i ni sicrhau ein bod ni'n amddiffyn pob plentyn a pherson ifanc, ac, yn arbennig, bechgyn, rhag niwed a...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am dosturi. Ac fe wnes i hefyd, yn fy etholaeth fy hun, fynd at grŵp o bobl ddigartref a oedd yn poeni'n fawr y bydden nhw'n cael pabell. Ac roeddwn i'n falch iawn o gael fy sicrhau na fyddai hynny'n digwydd, ond, yn amlwg, rydych chi'n rhoi enghraifft o bryd mae hynny wedi digwydd. Yn amlwg, mae'r ddeddfwriaeth ynghylch digartrefedd,...
Lesley Griffiths: Diolch, Darren Millar. O ran y mater cyntaf y cyfeirioch chi ato, gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, byddwch chi'n ymwybodol bod proses i fynd drwyddi, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ar yr adeg fwyaf priodol, ond nid wyf i'n credu y bydd hynny cyn mis nesaf. O ran eich ail gais, byddai'n dod gan Weinidog yr...
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Rwyf i wedi ymestyn yr amser sydd wedi'i ddyrannu i'r datganiad ar bwysau'r gaeaf ar y GIG i 45 munud. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig.
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Peter Fox am ei ddatganiad, ac am y sgyrsiau a gawsom dros gyfnod o amser, yn arwain at heddiw. Rwy'n dal i gredu'n gryf mai'r Bil hwn yw'r Bil anghywir a'i fod yn dod ar yr adeg anghywir. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 eisoes yn darparu fframwaith a sylfaen ar gyfer polisïau integredig cyfannol sy'n canolbwyntio ar y budd...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr, a hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hon, yn enwedig Huw Irranca-Davies fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ac aelodau eraill o'r pwyllgor hwnnw hefyd, ac rwy'n deall ac yn gwerthfawrogi'n llwyr y pryderon sydd wedi eu codi gan yr holl Aelodau a gyfrannodd yn y ddadl hon. Byddaf yn sicr yn ymdrechu i sicrhau nad yw hyn yn...
Lesley Griffiths: Diolch am y cyfle i drafod cefndir y ddadl heddiw ar Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022. Caiff masnach mewn anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid ei reoleiddio gan gyfres o ddeddfwriaeth ddomestig a chyfraith yr UE a ddargedwir, ac mae rheolaethau...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud â chydbwysedd. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog wedi cael y cyfarfod y cyfeiriodd yr Aelod ato ac mae'n ystyried ffordd ymlaen ar hyn o bryd.
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, rydym ni'n condemnio ymddygiad fel hyn yn gryf. Nid oes unrhyw le iddo yn y gwasanaeth tân ac achub, nac unman arall o ran hynny. Mae'n bwysig iawn eu bod yn wynebu'r sancsiynau llymaf posibl gan reolwyr. Roeddwn i'n falch iawn o weld Huw Jakeway yn cyhoeddi'r ymchwiliad annibynnol. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore yma wedi...
Lesley Griffiths: Diolch. Rydym ni'n cydnabod bod ein holl awdurdodau lleol, yn union yr un fath â Llywodraeth Cymru, o dan anawsterau cyllidebol difrifol, ond mater i Gyngor Sir Powys yw'r mater yr ydych chi'n ei godi.