Llyr Gruffydd: Felly, fe ddywedoch chi wrthym yn y Siambr y byddech yn darllen yr adroddiad, ac nid oes gennyf reswm dros amau a yw hynny wedi digwydd, ond yn awr, Weinidog, heno, mae angen i chi egluro i ni, yn gyntaf, pam nad yw adroddiad Holden wedi'i gyhoeddi o hyd; yn ail, pam nad yw argymhellion yr adroddiad wedi'u cyflawni; ac yn drydydd, mae angen i chi egluro pam y mae pobl yn dal i farw mewn...
Llyr Gruffydd: Ar 4 Tachwedd y llynedd, yn y Siambr yma, Weinidog, fe ddywedoch chi wrthyf i, mewn ymateb i gwestiwn gen i, eich bod chi'n gobeithio y byddwn i'n rhoi amser i chi i edrych ar yr adroddiad a gweld a deall ychydig mwy ar y cefndir. Dwi'n dyfynnu—eich geiriau chi oedd, 'mi wna i edrych ar adroddiad Holden a gweld yn union beth yw'r sefyllfa yn fan hyn.' Dyna eich geiriau chi ar 4...
Llyr Gruffydd: Gwasanaethau iechyd meddwl yw un o'r heriau mwyaf i'n GIG, ac yn anffodus mae'n her gynyddol. Dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn dysgu gwersi o brofiadau blaenorol a'n bod yn onest drwy gydnabod camgymeriadau a methiannau pan fyddant yn digwydd. Nodwyd bod gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru yn un rheswm pam fod angen gosod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dan fesurau arbennig dros...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae'n bleser i fi gael cyflwyno'r ddadl fer yma y prynhawn yma ar y testun 'Cyhoeddi adroddiad Holden—Amser am dryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru'. Er gwybodaeth i'r Llywydd, dwi wedi cytuno i roi munud o fy amser i, yn gyntaf, Rhun ap Iorwerth, wedyn Mark Isherwood, wedyn Darren Millar, ac yn olaf Mabon ap Gwynfor.
Llyr Gruffydd: Yn gyntaf, argymhellion 1 a 2, sy'n ymwneud â'r pwerau cydredol plws mewn sawl rhan o Fil y DU. Nawr, byddai'r pwerau hyn yn galluogi Ysgrifennydd Gwladol y DU i wneud rheoliadau amgylcheddol pwysig i Gymru ar ran Gweinidogion Cymru, er eu bod wedi eu cydsynio. Effaith hyn, wrth gwrs, fyddai osgoi'r broses o graffu ar y rheoliadau hynny gan y Senedd. Yn hytrach, Senedd y DU fyddai'n gwneud y...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, fel y dywedoch chi. Cyn i fi droi at y cynnig sydd o'n blaenau ni, mi hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ymateb i adroddiad y pwyllgor cyn y ddadl. Wedi dweud hynny, mi fydd yr Aelodau yn gweld bod diffyg eglurder yn dal i fod ynghylch sawl mater...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn y gogledd?
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr am hynny. Mae banciau nawr yn dechrau codi tâl ar fudiadau gwirfoddol am wasanaethau bancio, er efallai yn aml iawn, does oes ganddyn nhw fawr ddim trafodion ariannol yn digwydd o un flwyddyn i'r llall, a does yna ddim llawer o bres chwaith gan nifer ohonyn nhw yn y cyfrif, felly mae gorfod talu am gael cyfrif banc yn anghymesur, ac wrth gwrs yn mynd i gael effaith sylweddol...
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau bancio i gyrff a mudiadau gwirfoddol yng Nghymru? OQ56880
Llyr Gruffydd: Diolch, Brif Weinidog. Mae hwn, wrth gwrs, wedi dangos y buddion economaidd sy'n dod i ardaloedd lleol pan fydd y sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn enwedig, efallai, yn achredu fel cyflogwyr cyflog byw, achos maen nhw yn sefydliadau angori, allweddol yn y cymunedau hynny. Mewn datganiad yn 2019, fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n ysgrifennu at bob corff cyhoeddus yng Nghymru yn...
Llyr Gruffydd: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar unrhyw gynnydd o ran cyflwyno cyflog byw o fewn y sector cyhoeddus yng Nghymru? OQ56894
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Mae'n siŵr y byddwch wedi dyfalu fy mod am grybwyll y B5605 yn Newbridge ger Wrecsam a gafodd ei hysgubo i ffwrdd, wrth gwrs, gan dirlithriad a achoswyd gan storm Christoph yn ddiweddar. Nid yw'n ffordd gefn wledig, fel y gwyddoch. Mae'n ffordd eithaf pwysig i nifer fawr o gymunedau, nifer fawr o bobl, ac mae'n dod i'r amlwg yn awr y gallai fod yn ddwy, efallai tair...
Llyr Gruffydd: Yn dilyn saga Geronimo, yr alpaca, a'r holl ffys fuodd am ddifa un alpaca pan fydd yna 10,000 o wartheg yn cael eu difa am yn union yr un rheswm yng Nghymru bob blwyddyn—mae yna 10,000 o Geronimos yng Nghymru yn cael eu lladd bob blwyddyn, i bob pwrpas—ydych chi'n cytuno bod hynny, efallai, yn dweud llawer wrthym ni ynglŷn â'r diffyg dealltwriaeth sydd yna ymhlith y cyhoedd ynglŷn â...
Llyr Gruffydd: Gan obeithio hefyd y bydd yna newid gêr o safbwynt pa mor gyflym mae rhai o'r materion yma yn cael eu datrys, oherwydd, fel rydych yn ei ddweud, mae yna broblemau ac mae yna bwysau immediate sydd angen delio â nhw, yn ogystal â'r cwestiynau strwythurol mwy hirdymor. Fe gyfeirioch chi yn gynharach at rai o'r grwpiau a'r sectorau fydd yn cael eu heffeithio'n negyddol gan benderfyniad...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am hynny. Efallai ein bod ni ddim yn gwybod faint sy'n dod i Gymru, ond rydyn ni yn gwybod bod yna gost sylweddol yn mynd i fod i gyflogwyr ac awdurdodau lleol. Un agwedd o'r sector cyhoeddus yw hwnnw, wrth gwrs. Gallwch chi luosi hynny ar draws gweddill y sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd. Felly, buaswn i'n eich annog chi i ystyried cefnogaeth ychwanegol yn benodol ar...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, fod awdurdodau lleol wedi dioddef toriadau cynyddol dros y degawd diwethaf—toriadau o tua 22 y cant mewn termau real ers 2010. Nawr, rŷn ni hefyd yn clywed yn gyson beth yw goblygiadau hynny o safbwynt gwasanaethau, ac yn hynny o beth, wrth gwrs, yn fwyaf diweddar o safbwynt gofal cymdeithasol. Nawr, rwy'n siŵr y byddai pawb ar...
Llyr Gruffydd: 4. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd am drwsio ffyrdd yng ngogledd Cymru yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd eleni? OQ56817
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddirywion i awdurdodau lleol am fethu â chwrdd â thargedau ailgylchu?
Llyr Gruffydd: Gaf i groesawu'r ddadl yma, a diolch i'r Gweinidog, wrth gwrs, am gynnig y ddadl yma yn absenoldeb y ffaith bod y Pwyllgor Cyllid heb ei sefydlu mewn pryd i allu gwneud hynny? Y peth cyntaf dwi eisiau dweud a'r hyn dwi eisiau gwneud yw jest ategu'r hyn a wnes i ddweud yn y ddadl flaenorol: nawr yw'r amser i Lywodraeth Cymru fod yn fwy creadigol ac yn fwy uchelgeisiol o safbwynt ei chyllideb...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddechrau drwy, efallai, gydnabod yr amgylchiadau heriol mae'r Llywodraeth wedi'u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf yma, gyda diffyg adolygiadau gwariant, diffyg sicrwydd o safbwynt y cyllid sy'n dod, a'r ariannu ad hoc yn dod o gyfeiriad San Steffan? Mae'n dda deall ein bod ni'n gobeithio nawr symud i gylchdro bach mwy sefydlog, gyda dwy gyllideb atodol yn lle tair, ac yn y blaen....