Mike Hedges: Diolch, Peter Fox. Rydych wedi crybwyll un wlad—a gaf i daflu rhai eraill yn ôl atoch chi? Denmarc, Estonia, Lithwania, Rwsia, Singapore a Taiwan, rhai rhanbarthau o Awstralia, Mecsico, taleithiau unigol Unol Daleithiau America. Mae treth ar werth tir yn dileu'r cymhelliad ariannol i ddal gafael ar dir na chaiff ei ddefnyddio er mwyn iddo godi mewn gwerth yn unig. Nid yw pris gwerthu...
Mike Hedges: Mae trethiant yn bodoli i dalu am wasanaethau cyhoeddus. Mae gormod o bobl yn credu y gallwn ni gael yr un ansawdd o wasanaethau cyhoeddus â Sgandinafia pan fo ein system drethu yn debycach i'r un yn UDA. Mae'r Ceidwadwyr yn gwrthwynebu cynyddu unrhyw drethi neu gyflwyno trethi newydd. Mae angen dadl ar ba wasanaethau cyhoeddus sydd gennym a sut i dalu amdanyn nhw. Pan edrychwch chi ar gost...
Mike Hedges: Yn gyntaf, rwy'n siŵr bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod y defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi gan gwmnïau mor wrthun â mi. Er na all Llywodraeth Cymru ei gwahardd gan nad yw cyfraith cyflogaeth wedi ei datganoli, rwy'n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar sut y mae modd eithrio cwmnïau sy'n cyflawni'r arfer hwn o gontractau Llywodraeth Cymru, neu o gontractau gyda chyrff a ariennir gan...
Mike Hedges: Ni allaf ond siarad am Dreforys, ond nid y diffyg gwelyau sy'n achosi'r broblem, ond prinder ystafelloedd yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Mae'r adran damweiniau ac achosion brys, yr ardal gyfan honno, gan gynnwys y mannau yr eir â phobl iddynt yn llawn, a dyna lle mae'r broblem. Nid yw—. Pe bai ganddynt 100 o welyau ychwanegol, ni fyddai'n datrys y broblem yn yr adran damweiniau...
Mike Hedges: Rwy'n cytuno y dylai fod yn un o'r pethau hawsaf i'w datrys. Ni allaf sôn am Ysbyty Maelor Wrecsam, ond gallaf siarad am Ysbyty Treforys, a'r peth sy'n achosi'r broblem yno yw nifer y bobl. Nid oes ganddynt feddygon yn eistedd o gwmpas yn gwneud dim yn Nhreforys, ond os hoffai Ysbyty Maelor Wrecsam anfon rhai o'u meddygon i Dreforys, byddem yn eu croesawu'n fawr. Nid oes gennym bobl yn...
Mike Hedges: Yn sicr. Ond dyma'r ymyriad olaf y byddaf yn ei dderbyn.
Mike Hedges: Rwy'n cytuno â chi'n llwyr. Dim ond pum munud sydd gennyf, felly nid wyf am fynd i'r afael â gofal cymdeithasol; rwyf am gadw at ysbytai, adrannau damweiniau ac achosion brys ac iechyd. Ond, ydw, rwy'n cytuno'n llwyr. Er mwyn helpu i ymdrin â chleifion, dylid rhoi'r gwaith o asesu cleifion wrth iddynt gyrraedd i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau, iddynt hwy benderfynu ym mha...
Mike Hedges: Yn sicr.
Mike Hedges: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr Aelodau a oedd yn bresennol yn y Senedd ddiwethaf, anaml iawn y byddwn yn siarad mewn dadleuon iechyd. Yn ffodus, am y tro cyntaf ers imi gael fy ethol, mae gennym Weinidog iechyd yr wyf yn hyderus y bydd yn mynd i'r afael â'r problemau. Rwyf hefyd yn cydnabod gwaith caled ac ymroddiad staff ambiwlans Cymru mewn amgylchiadau...
Mike Hedges: Mae mesuryddion rhagdalu ymhlith y pethau mwyaf creulon gan nad yw pobl yn rhoi eu gwres ymlaen am nad oes arian ganddynt i roi'r gwres ymlaen. Nid yw'n dangos eu bod wedi'u torri i ffwrdd; ond nid oes ganddynt unrhyw wres. A chredaf, weithiau, fod hynny'n cael ei dangyfrif, ond bydd pobl yn mynd yn oer heno. Fel chi, Ddirprwy Lywydd, mae gennyf bryder difrifol am y diwydiant dur. Yn y...
Mike Hedges: Yn gyntaf, yn anffodus, rhaid inni dderbyn nad yw nifer fawr o bobl am bleidleisio dros unrhyw un ohonom ni. [Chwerthin.] I genhedlaeth a fagwyd ar ddefnyddio eu ffonau ar gyfer popeth, mae gofyn iddynt giwio a rhoi croes ar ddarn o bapur yn ymddangos yn hen ffasiwn iawn. A yw'r Llywodraeth wedi ystyried treialu pleidleisio ar-lein i ymgysylltu â phobl iau? Os gellir gwneud bancio ar-lein yn...
Mike Hedges: Cytunaf ei bod yn bwysig iawn fod aelodaeth cyrff cyhoeddus yn adlewyrchu'r gymdeithas, ond mae'n ymwneud â mwy na nodweddion gwarchodedig yn unig; mae'n ymwneud â phrofiadau bywyd. Yn rhy aml, mae amrywiaeth yn ymdrin â nodweddion gwarchodedig, nid amrywiaeth o ran profiadau bywyd. Pa waith sy'n mynd rhagddo i sicrhau bod byrddau'n cynnwys aelodau a chanddynt wahanol brofiadau bywyd mewn...
Mike Hedges: Gall unrhyw un nad yw wedi ei wahardd gan lys brynu anifail. Nid oes unrhyw brofion ar gyfer perchnogaeth, dim cyfarwyddiadau statudol ar sut i edrych ar ôl anifeiliaid. A yw'n syndod fod cymaint o anifeiliaid yn cael eu trin yn wael, nid bob amser am fod pobl eisiau eu trin yn wael, ond oherwydd anwybodaeth? A wnaiff y Llywodraeth gyflwyno cyfarwyddiadau a phrofion ar-lein i'r rheini sy'n...
Mike Hedges: Diolch. A gaf i gytuno â'r hyn a gododd Sarah Murphy, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw yn fater sy'n mynd i fod yn destun pryder mawr ac yn fwy o bryder wrth i amser fynd heibio? Ond y cwestiwn yr wyf i eisiau ei ofyn yw: beth allwn ni ei wneud i wneud contractau yn llai? Rwy'n cytuno nad oes hanner digon yn cael ei roi i gwmnïau llai y tu mewn i gymunedau, ond y rheswm yw bod pobl yn ei...
Mike Hedges: Diolch, Llywydd. Byddai'n dda gen i pe baech chi wedi fy ngalw i cyn Rhys ab Owen, oherwydd roeddwn i hefyd yn mynd i godi'r broblem o ran adeiladau uchel iawn problemus. Byddaf i'n dal i'w chodi oherwydd ei bod yn bryder difrifol i nifer o fy etholwyr i sy'n byw yn SA1. Rwy'n credu ein bod ni yn yr hydref bellach ac felly, pa mor fuan y gallwn ni ddisgwyl y datganiad hwn, gan ei fod yn...
Mike Hedges: Byddaf yn pleidleisio yn erbyn cynnig Plaid Cymru heddiw oherwydd fy mod yn gwrthwynebu prydau ysgol am ddim i bawb. Ni chredaf mai darparu prydau ysgol am ddim i blant sy'n cael addysg breifat yw'r peth iawn i'w wneud na'r defnydd cywir o adnoddau—os edrychwch ar eich cynnig, mae'n dweud 'pawb'; nid yw'n dweud 'pawb yn y sector cyhoeddus', mae'n dweud 'pawb' ac mae 'pawb' yn cynnwys plant...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Mae cyrhaeddiad addysgol yn allweddol i ddatblygu economaidd. Mae gan rannau llwyddiannus o'r byd economïau sydd wedi'u hadeiladu ar unigolion â chymwysterau da, nid ar hybu cwmnïau i agor ffatrïoedd cangen am gyfnod byr. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i barhau i wella cyrhaeddiad addysgol yn ein hysgolion a'n prifysgolion er mwyn...
Mike Hedges: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru? OQ56758
Mike Hedges: Rwyf i newydd ddeall polisi economaidd y Ceidwadwyr: rydych chi'n gwario mwy, ac rydych chi'n trethu llai. Nid wyf i'n hollol siŵr sut mae hynny'n gweithio, ac rwy'n siŵr na wnaeth Peter Fox hynny pan oedd yn arwain Cyngor Sir Fynwy, felly pam y mae eisiau i Lywodraeth Cymru wneud hynny, nid wyf i'n hollol siŵr. Mae nod pob cyllideb yr un fath: gwella iechyd, gwella'r amgylchedd, lleihau...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu datganiad Llywodraeth Cymru. Gofynnais am ddatganiad ar goed ychydig wythnosau yn ôl, a diolch byth bod gennym ni un erbyn hyn. A gaf i ddweud hefyd gymaint yr wyf i'n croesawu naws datganiad y Gweinidog? Mae angen llawer mwy o goed arnom i ddiwallu ein hanghenion newid hinsawdd, i leihau'r perygl o lifogydd ac i ddiogelu bioamrywiaeth. Ond mae angen i ni gynnwys y cyhoedd. Pe...