Caroline Jones: Gadewch i mi ddweud, Darren, fy mod yn credu ei fod yn bwnc pwysig iawn, felly eich canmol ar hynny roeddwn i’n ei wneud, wyddoch chi? Ond dyna ni, nid ydych yn adnabod canmoliaeth pan fyddwch yn ei chlywed, felly— Dylai’r ffaith bod pobl wedi mynd yn ddall wrth aros am driniaeth fod yn destun cywilydd mawr i'n gwlad. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn bwrw iddi i...
Caroline Jones: Rwy'n croesawu cynigion Helen Mary ar gyfer rheoli'r GIG ac rwy'n cefnogi ei chynnig am Fil yn llwyr. Fel rwyf wedi'i ddweud droeon yn y Siambr hon, mae'n rhaid inni sicrhau bod rheolwyr gwasanaethau iechyd yn cadw at yr un rhwymedigaethau â staff clinigol. Mae gan glinigwyr ddyletswyddau gofal a osodir arnynt gan eu colegau brenhinol a'r cyrff proffesiynol amrywiol. Mae rheolwyr yn rhan...
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Tan fis Ebrill, eleni, roedd trigolion Pen-y-bont ar Ogwr yn dod o dan y bwrdd iechyd hwnnw. Erbyn hyn maent yn dod o dan Gwm Taf, ac er eu bod yn dal i fod yn destun trefniadau uwchraddio ac ymyrryd ar y cyd, nid ydynt mor ddrwg â rhai Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn flaenorol. Fodd bynnag, nid yw hynny'n helpu cleifion ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yr...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, mae cadeirydd ymadawol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi dweud bod swyddogion y bwrdd iechyd lleol yn cael eu gorfodi i gymryd rhan mewn tair neu bedair galwad gynadledda y diwrnod gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n eich cyhuddo o ficroreoli’r bwrdd iechyd ac o fod yn rhwystr rhag datrys y problemau sy’n wynebu’r bwrdd iechyd. Weinidog, a ydych yn cytuno â'r...
Caroline Jones: Diolch yn fawr, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan Oxford Economics, erbyn 2030, bydd robotiaid yn cymryd lle'r mwyafrif o swyddi yn y sector gweithgynhyrchu. Fodd bynnag, mae'r dadansoddiad yn awgrymu y gallai awtomeiddio roi hwb i swyddi a chynyddu twf economaidd pe baem yn addasu'r gweithlu ymlaen llaw. Weinidog, pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i addasu'r cwricwlwm i sicrhau bod Cymru'n...
Caroline Jones: 4. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith awtomeiddio ar addysg yng Nghymru? OAQ54171
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am ddarparu copi o adroddiad terfynol y grŵp gorchwyl a gorffen inni. Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith yn ein helpu i drawsnewid gwasanaethau iechyd i'r rhai sy'n ddifrifol wael yng Nghymru. Mae casgliadau'r adroddiad i'w croesawu, gyda'r amcanion yn glir a chryno, ynghyd ag argymhellion rhagorol. Fel y mae'r grŵp...
Caroline Jones: Prif Weinidog, er fy mod i'n cymeradwyo ymrwymiad eich Llywodraeth i gyfamod y lluoedd arfog, mae Cymru'n dal i siomi ei chyn-filwyr. Gwrthodwyd mynediad i un o'm hetholwyr i ganolfan adsefydlu yn Lloegr sydd wedi ei chynllunio'n benodol i ymdrin â cholli braich neu goes, ynghyd â'i anhwylder straen wedi trawma, yn ystod gwasanaeth gweithredol. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod...
Caroline Jones: Fe ddywedoch chi 'arweinydd gwleidyddol', ac rwy'n ystyried mai Mark Reckless yw fy arweinydd yma, mae'n ddrwg gennyf.
Caroline Jones: Wel, ef yw arweinydd ein plaid—
Caroline Jones: Ond nid yw yn y Cynulliad, ydy e?
Caroline Jones: Rwy'n symud ymlaen, ydw. Felly, rhaid inni ddangos i'r etholwyr ein bod yma i gyflawni eu dymuniadau, mai hwy yw ein meistri ni ac nid fel arall. Ac mae'n rhaid i ni weithredu fel oedolion, fel rwyf newydd ei ddweud. Nid yw'r casineb a'r bustl a geir yn llawer rhy aml mewn trafodaethau gwleidyddol yn ateb unrhyw ddiben ar wahân i ddadrithiad pellach mewn gwleidyddiaeth. Os na all...
Caroline Jones: Gwnaf, yn bendant.
Caroline Jones: A gaf fi ddweud rhywbeth wrthych? A wyf fi erioed wedi gwneud ymosodiad personol ar unrhyw un yn y fan hon?
Caroline Jones: Gadewch i mi ofyn rhywbeth i chi. Fe godoch ar eich traed a gwneud pwynt gwleidyddol yn erbyn un o'n haelodau yma, a dywedodd hi wrthych y tu allan nad oeddech wedi gwrando ar y frawddeg lawn cyn i chi sefyll a gwneud sylw o flaen y Siambr gyfan—
Caroline Jones: —ac nid oedd hynny'n iawn. A ydych wedi ysgrifennu at yr arweinydd gwleidyddol—
Caroline Jones: Nid wyf wedi edrych arno. Nid wyf wedi edrych ar yr hyn rydych chi'n sôn amdano—
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad ac am waith ardderchog y Cadeirydd a'r pwyllgor. Mae'r ffaith nad yw ein democratiaeth yn adlewyrchu ein demograffeg yn fater a ddylai beri pryder mawr inni. Sut y gallwn obeithio cynyddu'r ymwneud â'r broses ddemocrataidd os bydd rhannau helaeth o'r etholwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu cynrychioli? Yn etholiadau diwethaf y cynghorau, dim ond 42...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae hon yn ergyd arall i fy rhanbarth—y ddiweddaraf mewn cyfres o achosion o golli swyddi. Roedd Jistcourt yn ehangu, wedi iddo gael ei brynu gan reolwyr dair blynedd yn ôl yn unig. Ac mae'r ffaith bod y cwmni'n gwneud colledion sylweddol er gwaethaf llyfr archebion cryf yn adrodd cyfrolau am gyflwr y sector tai cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym...
Caroline Jones: Weinidog, mae fy rhanbarth wedi wynebu cynnydd cyfartalog o 60 y cant yn y dreth gyngor band D ers 2007. Dros y cyfnod hwnnw, roedd chwyddiant oddeutu 2.5 y cant yn unig ar gyfartaledd. Dros yr un cyfnod, mae casgliadau sbwriel wedi eu haneru, mae canolfannau dydd wedi cau, mae llyfrgelloedd wedi cau ac mae gwasanaethau canolfannau hamdden wedi wynebu toriadau. Pam fod fy etholwyr yn talu...