Neil McEvoy: Bu'n rhaid gwneud ceisiadau rhyddid gwybodaeth i ddatgelu pa mor awyddus oeddech chi i fynd i'r seremoni gyfrinachol, a pha mor agos yw eich perthynas ag Alun Cairns. Yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch bleidleisio yn erbyn cynnig o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Gwladol, er i addewidion allweddol maniffesto'r Ceidwadwyr gael eu torri, gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac...
Neil McEvoy: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i annog Llywodraeth y DU i ail-gydbwyso ei gwariant ar seilwaith? OAQ52466
Neil McEvoy: Testun siom i mi yw bod yma heddiw i siarad ar y cynnig hwn o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dylai fod yn llais Cymru yn San Steffan, ond mae'n amlwg nad yw'n hynny o gwbl. Mae ganddo record o fethiant llwyr. Gydag Alun Cairns yn Ysgrifennydd Gwladol, rydym wedi gweld y cynlluniau i drydaneiddio'r rheilffyrdd yn cael eu canslo. Mewn sawl gwlad yn y byd y mae'n amhosibl i...
Neil McEvoy: Diolch. Doeddwn i ddim yn disgwyl ateb iawn mewn gwirionedd, felly rwy'n mynd i roi'r newyddion diweddaraf i chi am y CDLl yng Nghaerdydd ar ran trigolion, oherwydd mae eich cynllun datblygu lleol yn creu anhrefn llwyr. Mae tagfeydd traffig eisoes yn mynd ymlaen am filltiroedd, ac eto bydd dros 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd hynny sydd eisoes yn orlawn. Nid oes unrhyw seilwaith newydd...
Neil McEvoy: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu cynlluniau datblygu lleol yng Nghanol De Cymru? OAQ52430
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio?
Neil McEvoy: Mae cymaint o gwestiynau da wedi eu codi heddiw, a rhai pwyntiau da wedi eu codi. Rwy'n awyddus i ganolbwyntio ar ddau beth, mewn gwirionedd. Yn gyffredinol, mae'r Llywodraeth hon yn gwneud i bolisïau swnio'n dda—y geiriau'n llawn cyffro—ond mae'r sefyllfa wirionedd ar y rheng flaen lle mae'r frwydr boethaf ychydig yn wahanol. Roeddwn yn dymuno canolbwyntio yn gyntaf ar wasanaethau...
Neil McEvoy: Arweinydd y Siambr, wythnos neu ddwy yn ôl, gofynais rai cwestiynau i'r Prif Weinidog ynghylch y fasnachfraint rheilffyrdd newydd i Gymru a'r Gororau, ond ymddengys ei fod wedi methu pwynt fy nghwestiwn yn llwyr. Gofynnais i'n benodol a oedd y seilwaith rheilffyrdd ei hun ar linellau craidd y Cymoedd yn cael eu trosglwyddo i gwmni preifat. Gofynnais a oedd gan Lywodraeth Cymru gytundeb...
Neil McEvoy: Prif Weinidog, heb fod cymaint â hynny yn ôl, dywedasoch ei bod yn rhyfedd nad oes gan Gymru ei—
Neil McEvoy: Esgusodwch fi; mae'n ddrwg gen i. Nid yw ar y papur trefn. Ah, dyma chi. Mae'n ddrwg gen i.
Neil McEvoy: Diolch, a diolch am eich amynedd. Heb fod cymaint â hynny yn ôl, dywedasoch ei bod yn rhyfedd nad oes gan Gymru ei thîm criced cenedlaethol ei hun. Ac mae'n ymddangos yn rhyfeddach nawr bod Iwerddon yn aelod prawf llawn o'r Cyngor Criced Rhyngwladol, a bod yr Alban yn curo Lloegr mewn gemau undydd rhyngwladol. Felly, ble mae Cymru? Rwy'n credu bod llawer o bobl yma yn ei gweld hi'n...
Neil McEvoy: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth Lywodraeth Cymru ar gyfer criced yng Nghymru? OAQ52353
Neil McEvoy: Mae'r sefyllfa ôl-Brexit ar gyfer ffermio yng Nghymru yn edrych yn llwm. Gallai senedd sofran gymryd yr awenau drwy wneud canabis yn ddiwydiant tyfu newydd. Mae cymaint o ffyrdd o ddefnyddio'r planhigyn yn feddyginiaethol, ac mae'n ddiwydiant sy'n dod i'r amlwg mewn sawl rhan o'r byd. Gallai Cymru sofran reoli ein hadnoddau naturiol ein hunain, ac yn hollbwysig, gallai gael incwm ohonynt....
Neil McEvoy: Mae ymraniad mawr yng ngwleidyddiaeth Cymru heddiw rhwng y rhai sy'n gweld Caerdydd fel ein prifddinas ddihafal a'r rhai sy'n gweld Llundain felly. Gwn lle rwy'n sefyll. Mae gan Gymru hanes gwych. Ni oedd un o'r gwledydd cyntaf yn Ewrop i gael system cyfraith sifil o dan Hywel Dda mor bell yn ôl â'r ddegfed ganrif. Roedd Owain Glyndŵr, y gweledydd mawr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a'r...
Neil McEvoy: Diolch, Llywydd. Heddiw, rydw i’n sefyll yma fel Cymro sy’n ymladd dros ddemocratiaeth yma yng Nghymru.
Neil McEvoy: Mae ar Gymru angen Senedd y bobl, un sofran sy'n deddfu er lles cenedlaethol Cymru. Mae'n hen gysyniad a elwir yn ddemocratiaeth. Yn y ddadl hon mae gennym ddemocratiaeth uniongyrchol ar waith. Roeddwn am i'r cyhoedd benderfynu beth y dylid ei drafod heddiw, felly, ar gyfryngau cymdeithasol gofynnwyd i etholwyr ddweud wrthym beth yr oeddent am ei drafod. Cafwyd llwyth o sylwadau diddorol gan...
Neil McEvoy: Fe wnaethom ni drafod y mwd o'r tu allan i atomfa Hinkley Point bythefnos yn ôl, ond chawson ni ddim atebion i rai cwestiynau difrifol iawn. Felly, rwyf eisiau gofyn cwestiwn unwaith eto am y profion. Yn Kosovo, pan oedd amheuaeth bod mwd yn ymbelydrol, roeddent yn ei brofi gan ddefnyddio sbectrometreg alffa, sbectrometreg gama a hefyd sbectrometreg màs plasma. Ac eto, ynghylch y mwd a...
Neil McEvoy: Iawn. Diolch. Ychydig cyn y toriad, cyhoeddwyd enillydd masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a'r Gororau gennych, a nodwyd eisoes eich bod chi wedi torri ymrwymiad maniffesto o gael cwmni rheilffordd di-elw. Ond mae hefyd yn ymddangos nawr eich bod chi'n preifateiddio'r seilwaith o reilffyrdd craidd y Cymoedd hefyd, ac mae hynny'n bryder mawr ar ôl yr hyn a ddigwyddodd y tro diwethaf y...
Neil McEvoy: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfarnu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r Gororau? OAQ52261
Neil McEvoy: Diolch. Ie, ond hoffwn longyfarch y rhai sy'n rhan o'r prosiect i fyny yno a Nick hefyd am roi sylw i hyn fel dadl fer. Credaf fod bylchau enfawr yn y ddarpariaeth. Rwy'n cael dynion yn fy swyddfa wedi'u trawmateiddio gan nifer o ddigwyddiadau y maent yn mynd drwyddynt. Nid oes unrhyw ddarpariaeth ar gyfer y dynion hynny, yn enwedig y rhai sy'n dioddef cam-drin domestig, am nad oes...