Suzy Davies: Symudwn ni ymlaen at y ddadl nesaf, y ddadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: partneriaethau sgiliau rhanbarthol. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Russell George.
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw i nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Iawn, felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasnaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Suzy Davies: Diolch ichi am yr atebion hynny, Weinidog. Tybed a allaf eich gwthio ychydig ymhellach ar rai o'r cwestiynau a gawsoch gan David Rees. Hoffwn ddechrau gyda'ch sylwadau olaf, fodd bynnag, ynglŷn â'r ffaith mai mis Mawrth 2021 yw'r dyddiad y bydd y rhaglen drawsnewid hon yn dod i ben. Mae'n gyfleus iawn, onid yw, fod hynny, yn y bôn, ar ddiwedd y warant pum mlynedd ar swyddi a roddwyd i ni...
Suzy Davies: Rwy'n falch o glywed hynny, Weinidog. Ym mis Mawrth, fe ddywedoch chi wrthyf, ac rwy’n dyfynnu, fod angen gwneud gwaith pwysig mewn perthynas â'r cymwysterau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu derbyn gan athrawon a ddaw yma i weithio o wledydd yr UE, y gwledydd y gwnaethant gymhwyso ynddynt. Pan alwais am ddiweddariad am y gwaith hwn gan y Trefnydd ym mis Mehefin, yn anffodus, ni lwyddodd fy...
Suzy Davies: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu addysg ar ôl Brexit? OAQ54800
Suzy Davies: ni all dim a ddywedwch chi yma heddiw yn y Siambr hon wneud i mi deimlo'n waeth yn bersonol ynglŷn â'r canlyniadau hyn. Felly, rwy'n tybio eich bod chi'n rhoi caniatâd i chi eich hun roi ochenaid fach o ryddhad heddiw, ond eich bod chi'n ymwybodol iawn o'r ffaith mai rhyddhad dros dro yw hyn. Rwy'n cydnabod, fel y gwna eich swyddogion, fod gwelliant wedi digwydd, ac rwyf innau'n awyddus i...
Suzy Davies: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad hi, yn enwedig y rhan olaf, yn sôn am yr hyn yr ydych chi'n bwriadu ei wneud nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n destun i ddadl rywbryd eto? Yr adeg hon dair blynedd yn ôl, Gweinidog, fe ddywedoch chi wrth fy rhagflaenydd i
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad yn dilyn cyhoeddiad Tata Steel Europe bod y cwmni yn disgwyl torri 1,000 o swyddi o'u gweithrediadau yn y DU?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Ddwy flynedd yn ôl, pan oeddem yn trafod hyn, fe ddywedoch wrthyf na fyddai'r newid yn ôl troed y bwrdd iechyd yng Ngorllewin De Cymru yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r gwasanaethau yno. Fodd bynnag, cefais gadarnhad yn ddiweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg eu bod yn dal i ystyried cau'r meddygfeydd yn Llanharan a Phencoed, ac yn bwriadu agor un...
Suzy Davies: Diolch. Buaswn yn gwerthfawrogi hynny'n fawr. Pe gallech wneud hynny, byddai hynny'n wych. Diolch yn fawr iawn. Efallai y gallech anfon ffigurau atom hefyd ar nifer y cyfleoedd i hyfforddi yn y gwaith y mae athrawon o'r tu allan i Gymru wedi manteisio arnynt. Fe sonioch chi am hyn yn eich ymateb i fy nghwestiwn cyntaf, mewn gwirionedd, eich bod am i ysgolion fod yn cyflogi'r athrawon newydd a...
Suzy Davies: Wel, diolch am eich ateb. Roedd rhywfaint ohono'n ddiddorol iawn, ond ni sonioch chi mewn gwirionedd am y pwynt ynghylch faint o ymgeiswyr newydd ar gyfer y cyrsiau penodol hyn a gafwyd eleni na sut y cyrhaeddwyd y targedau hyn. Efallai y gallaf ofyn i chi a ydych yn mynd i gael gwared â'r targedau hyn. Dychmygaf mai oddeutu nawr y byddech yn anfon llythyr cylch gwaith at Gyngor y Gweithlu...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn ôl gwefan Cyngor y Gweithlu Addysg, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno targedau ar gyfer nifer y myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cyrsiau TAR newydd yng Nghymru gyda'r bwriad o gymhwyso i addysgu rhai pynciau. Mae rhai o'r pynciau hynny'n cael eu nodi fel blaenoriaethau, ac maent yn cynnwys Cymraeg ac ieithoedd tramor modern, ac edrychaf ymlaen at eich ateb i...
Suzy Davies: Byddai ein polisi cardiau gwyrdd, wrth gwrs, yn datrys y cwestiwn ynghylch trafnidiaeth am ddim ar fysiau ar gyfer addysg, hyfforddiant neu waith ôl-16. Ond wrth gwrs, credaf fod angen datrys y sefyllfa o ran trafnidiaeth i ysgolion ffydd a chyfrwng Cymraeg drwy ddeddfwriaeth sylfaenol. Mae fy nghwestiwn, serch hynny, yn ymwneud â llais pobl ifanc ym mhenderfyniad yr awdurdod lleol ynglŷn...
Suzy Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffiniau'r byrddau iechyd newydd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54765
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer yr athrawon sydd wedi'u cofrestru i addysgu ieithoedd tramor modern?
Suzy Davies: Prif Weinidog, i wella deilliannau academaidd, wrth gwrs, mae'n rhaid i blant a phobl ifanc fod yn rhywle lle y gallan nhw ddysgu, ac os ydyn nhw'n cael eu tynnu oddi ar y gofrestr i hybu cofnod academaidd ymddangosiadol ysgol, yna nid ydyn nhw o reidrwydd yn dysgu. Gwn fod eich Gweinidog yn gwrthwynebu'n llwyr yr arfer o dynnu disgyblion oddi ar y gofrestr, yn amlwg, ond pa gamau...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch am hynny, Gwnsler Cyffredinol. Yng ngwelliant 160 yn y grŵp blaenorol, fe wnaethoch ymrwymo i ganiatáu craffu ar ôl deddfu ar ystod o ffactorau sy'n ymwneud â'r Bil hwn. A wnewch chi ymrwymo yma i gynnwys yr adolygiad ar effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth hon mewn perthynas â gwladolion tramor hefyd?