Lee Waters: Diolch, Llywydd. Cyn Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, dywedodd Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd fod y data diweddaraf yn arwydd o god coch ar gyfer dynoliaeth. Eleni, cofrestrodd Canada ei thymheredd uchaf erioed, gan chwalu'r cofnod blaenorol gyda chynnydd o tua 5 gradd lawn. Roedd yn bwrw glaw yn hytrach nag eira am y tro cyntaf ar gopa...
Lee Waters: Diolch. Rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Rwy'n sicr yn rhannu ei hawydd i weld metro de-orllewin Cymru. Credaf mai'r gwir amdani yw mai metro bae Abertawe, fel rydym yn ei alw, yw'r lleiaf datblygedig o'r tri chynllun metro, a hynny'n rhannol am nad yw bargen ddinesig bae Abertawe wedi canolbwyntio ar drafnidiaeth yn y ffordd y mae'r bargeinion dinesig, y dinas-ranbarthau, eraill wedi'i...
Lee Waters: Gwnaf. Mae'r mapiau a gyhoeddwyd gennym fis diwethaf yn dangos maint ein huchelgeisiau, gan gynnwys gorsafoedd, llwybrau a gwasanaethau newydd. Bydd teithwyr yn gweld gwelliannau i'w rhwydwaith o'r flwyddyn nesaf ymlaen ar ffurf trenau newydd, ac rydym yn gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus newydd a llwybrau teithio llesol ar draws y de-orllewin.
Lee Waters: Er fy mod yn cydnabod y pryderon yn llwyr, credaf ei bod yn bwysig iawn inni fynd i'r afael â'r broblem hon mewn ffordd gyfrifol, a'n bod yn gweithio gyda'n gilydd i ddod o hyd i atebion. Nid wyf yn cefnogi cwmnïau sy'n gwyrddgalchu drwy ddefnyddio plannu coed fel ffordd o gyfiawnhau dulliau sy'n llygru. Nawr, mae gennym ofyniad, os ydym am gyrraedd ein targed sero-net erbyn 2050—a gwn ei...
Lee Waters: Gwnaf. Mae’n rhaid i waith ar greu coetiroedd newydd yng Nghymru gydymffurfio â rheoliadau asesu effaith amgylcheddol. Y cod carbon coetiroedd yw'r safon gwrthbwyso gwirfoddol ar gyfer creu coetiroedd yn y DU ac mae'n rhoi sicrwydd ynghylch arbedion carbon coetiroedd a reolir yn gynaliadwy. Wrth gwrs, dylai cwmnïau flaenoriaethu lleihau allyriadau carbon bob amser cyn gwrthbwyso.
Lee Waters: Wel, rwy'n ymuno â'r Senedd heddiw o'r COP26 yn Glasgow, lle mae'n ddiwrnod trafnidiaeth heddiw, ac rydym wedi llofnodi datganiad gyda nifer o wledydd blaenllaw i weithio tuag at sicrhau bod yr holl geir a faniau newydd a werthir yn y byd yn rhai dim allyriadau erbyn 2040 a heb fod yn hwyrach na 2035 yn y prif farchnadoedd, a bydd hynny'n gyfraniad pwysig at gyflawni sero-net. Rwy'n...
Lee Waters: Ie. Yn naturiol, rydym mewn cysylltiad â Stagecoach a'r undebau llafur ynglŷn â hyn, ac rwy'n pryderu'n fawr nad yw'r anghydfod wedi cael ei ddatrys yn llwyddiannus eto. Rwy'n sicr yn annog hynny i ddigwydd cyn gynted â phosibl, oherwydd mae pobl bellach yn dechrau dioddef gan nad oes gwasanaethau yno ar eu cyfer pan fo'u hangen arnynt. Cyfarfûm ag Unite ddoe, ac roeddwn yn bryderus iawn...
Lee Waters: Gwnaf. Mae dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yn Nwyrain De Cymru yn addawol. Mae gwaith ar y gweill i drawsnewid rheilffyrdd craidd y Cymoedd, gan fwrw ymlaen ag argymhellion yr Arglwydd Burns o amgylch Casnewydd, ac rydym yn dechrau gweld y trenau newydd a fydd yn rhedeg ar draws y rhanbarth yn cael eu darparu.
Lee Waters: Wel, â phob parch, rwy'n ateb cwestiynau'r Aelod; ond nid yw'n hoffi'r atebion. Ni chredaf fod sybsideiddio ac annog teithiau awyr domestig yn cyd-fynd â'r her newid hinsawdd sy'n ein hwynebu ac y mae Prif Weinidog y DU yn ceisio honni ei fod yn dangos arweinyddiaeth ryngwladol wych mewn perthynas â hi; credaf fod hynny'n anghyson. Mae'r maes awyr yn gorff sy'n cael ei redeg yn fasnachol,...
Lee Waters: Gadewch inni gofio bod pwerau dros fysiau—eu rheoleiddio—yn dal i fod ar lefel y DU. Felly, mae'r ffaith ein bod wedi bod mewn grym yng Nghymru yn amherthnasol, gan nad oes gennym bwerau i newid y ffordd y caiff y farchnad ei rheoleiddio. Credwn y gallwn, drwy fasnachfreinio, ateb rhywfaint o hynny, ond mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol i bolisi Llywodraeth y DU yn yr 1980au sydd wedi'i...
Lee Waters: Yn ddiweddar, rwyf wedi cyfarfod â First Bus a chyda'r undebau llafur i drafod y pwysau amrywiol y mae'r diwydiant bysiau'n ei wynebu ar hyn o bryd. Mae arnaf ofn fod y mater penodol a godwyd gan Natasha Asghar yn ganlyniad uniongyrchol i'r ffaith bod y Llywodraeth Geidwadol wedi preifateiddio'r diwydiant bysiau yn ôl ynghanol yr 1980au, ac rydym yn dal i fyw gyda'r canlyniadau. Mae'r...
Lee Waters: Through the Wales transport strategy, 'Y Llwybr Newydd', we are committed to transforming our transport system in rural areas by offering access to transport services where previously there was none and opening up new opportunities for more people.
Lee Waters: Dywedodd Janet Finch-Saunders fod angen inni weithredu drwy ariannu'r agenda werdd, sgiliau a datgarboneiddio bysiau, ond Lywydd dros dro, yr wythnos diwethaf mewn cyllideb pan na chrybwyllwyd yr ymadrodd 'newid hinsawdd' unwaith, gwelsom ein cyllideb gyfalaf yn cael ei thorri. Ar ddiwedd tymor y Senedd hon, fe fydd 11 y cant yn is nag ydyw heddiw; £3 biliwn yn llai i economi Cymru na phe...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn, Lywydd dros dro. Wel, cefais fy nghyffwrdd gan eiriau James Evans yno. Ar y diwedd dywedodd wrthym am wneud yr hyn rydym yn ei bregethu. Fe'n hatgoffodd fod gennym rwymedigaeth foesol i wneud yr hyn a allwn. Dechreuodd Janet Finch-Saunders y ddadl drwy ddweud bod angen inni wynebu mater diffiniol ein hoes. A heno, hoffwn ddyfarnu gwobr haerllugrwydd y flwyddyn i'r...
Lee Waters: Yn ffurfiol.
Lee Waters: Lywydd, mae Natasha Asghar yn dweud ei bod yn deall bod yr hinsawdd yn destun pryder i mi. Roeddwn yn meddwl ei fod yn destun pryder iddi hithau hefyd, oherwydd rwyf wedi clywed areithiau y bu'n eu gwneud wythnos ar ôl wythnos yn dweud wrthyf nad ydym yn ddigon beiddgar nac yn ddigon cyflym, a Janet Finch-Saunders hefyd yn sicr. Clywais Janet Finch-Saunders yn dweud yn y brotest gyda'r...
Lee Waters: Gallaf weld nad yw amser wedi gwneud Mabon ap Gwynfor yn fwy parod i wrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gan y panel annibynnol. Deallaf ei siom, oherwydd ceir ymlyniad lleol cryf i'r cynlluniau hyn yn aml. Clywais bobl yn dweud ddoe fod hwn yn gynllun sydd wedi bod yn uchelgais yn lleol ers 70 mlynedd. Rydym yn aml yn gweld hyn yn digwydd lle mae awdurdodau lleol, wrth wynebu heriau...
Lee Waters: Ymddiheuriadau. Lywydd, rwyf eisoes wedi darparu datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau gyda'r penderfyniad ar ffordd fynediad Llanbedr. Cafodd adroddiad y cadeirydd ei gynnwys ac roedd yn nodi'r argymhellion. Rwyf wedi'u derbyn, ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi unrhyw waith pellach ar gynllun ffordd fynediad cyfredol Llanbedr.
Lee Waters: Ni chredaf fod unrhyw beth i'w ychwanegu. Diolch i Joyce Watson am ei sylwadau ac rwy'n cytuno â'i chrynodeb.
Lee Waters: Rwy'n hapus iawn i egluro, pan gyhoeddwyd yr adolygiad ffyrdd, ein bod wedi gwahaniaethu rhwng ffyrdd a oedd o fewn y cwmpas a'r rhai a oedd y tu allan i'r cwmpas. Roedd y rhai a oedd y tu allan i'r cwmpas yn rhai lle roedd contractau wedi'u gosod. Yr ymadrodd a ddefnyddiais oedd bod 'cloddwyr yn y ddaear'. Nawr, credaf fod Mr Kurtz wedi dehongli 'cloddio yn y ddaear' braidd yn llythrennol ac...