Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Tan 1970, cafodd miloedd o blant o bob cwr o’r DU eu halltudio dan orfod i wledydd ar draws y Gymanwlad fel rhan o bolisi llywodraeth afresymol a rwygodd blant oddi wrth eu teuluoedd a’u hanfon ar draws y byd i gael eu defnyddio fel llafur rhad, i gael eu hesgeuluso a’u cam-drin weithiau. Pa gamau a roesoch ar waith i ganfod faint o blant Cymru, y bydd rhai ohonynt...
Michelle Brown: Rydym wedi cael ein bendithio yng Nghymru â thirwedd syfrdanol a chefn gwlad helaeth ac un ffordd wych o weld cefn gwlad a gwneud ymarfer corff ar yr un pryd yw ar gefn ceffyl. Nid ffordd o wneud ymarfer corff yn unig ydyw; gall fod o fudd mawr i bobl anabl a chafwyd cynlluniau marchogaeth ar gyfer pobl anabl ar draws y wlad. Mae cynnal sefydliad marchogaeth wedi mynd yn fwyfwy anodd ac mae...
Michelle Brown: Rwy’n cefnogi, mewn egwyddor, ymestyn mynediad at gefn gwlad i bawb. Fodd bynnag, mae angen dod o hyd i gydbwysedd rhwng hawl pobl i grwydro a mwynhau ein cefn gwlad, ac anghenion tirfeddianwyr a ffermwyr i reoli a defnyddio eu tir yn effeithiol. Pa drafodaethau a gawsoch gyda thirfeddianwyr, a sefydliadau sy’n eu cynrychioli, i’w perswadio i ganiatáu mwy o fynediad at eu tir?
Michelle Brown: Rwy’n croesawu'r ddadl heddiw yn cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn ystyried y gwragedd adnabyddus heddiw a thrwy gydol hanes Cymru. Fodd bynnag, hoffwn gymryd y cyfle hwn i ganmol y cyfraniadau a wneir gan fenywod cyffredin yng Nghymru—menywod a helpodd i adeiladu’r wlad...
Michelle Brown: Na wnaf. [Yn parhau]—cynghorau disgyblion, datrys gwrthdaro, gweithgareddau cymunedol a chodi arian i elusennau a phethau o’r fath, ond mae’n rhaid rhoi blaenoriaeth i godi safonau rhesymu, datrys problemau, a rhesymeg drwy bynciau traddodiadol. Yn ail, rwyf eisiau siarad am gadw athrawon, ac effaith hyn ar y meysydd y mae Estyn yn eu monitro. Mae Estyn yn sôn am ddatblygu'r...
Michelle Brown: Mae Llafur Cymru wedi bod yn rheoli addysg ar ryw ffurf neu'i gilydd ers sefydlu'r Cynulliad. Weithiau maen nhw wedi cael cymorth drwy glymblaid â Phlaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol, fel y maen nhw ar hyn o bryd. Mae elfennau ar adroddiad Estyn heddiw yn dangos yn glir i bobl Cymru yr hyn sy'n digwydd pan fyddwch yn rhoi’r rheolaeth dros bolisi addysg i un o'r partïon hyn a...
Michelle Brown: Nodaf o’r cyfryngau fod llawer o ofn ac ansicrwydd yn cael ei greu ynglŷn â’r mater hwn ar hyn o bryd. Nid yw Peugeot wedi dweud ei fod yn bwriadu cau'r gwaith. Yn wir, mae rheolwr Peugeot wedi awgrymu y bydd ei gwmni yn awyddus i gadw’r cynhyrchu ym Mhrydain i fanteisio ar gytundebau masnach y DU yn y dyfodol a allai fod o fudd i allforion. Mae hwnnw'n safbwynt eithaf rhesymegol,...
Michelle Brown: Iawn, diolch am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae gwybodaeth a dderbyniwyd gan ymgyrchwyr yn erbyn ffermio cŵn bach yn dweud nad oes gan awdurdodau lleol yr adnoddau i orfodi'r ddeddfwriaeth. Yn ei adroddiad, ‘Animal Welfare in England: Domestic Pets’, argymhellodd Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y dylai Llywodraeth y DU wahardd gwerthu cŵn ar sail trydydd parti ac y dylai...
Michelle Brown: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gamau gorfodi a gymerwyd o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014? OAQ(5)0487(FM)
Michelle Brown: Na wnaf. Mae arnom angen deddfau cyflogaeth sy’n syml ac yn hygyrch—deddfau nad oes angen gradd yn y gyfraith i lywio drwyddynt. Mae arnom angen system dribiwnlysoedd sy’n hygyrch, yn syml ac yn rhad. Mae’r Ddeddf Dorïaidd gan y Llywodraeth ddiwethaf i gyflwyno ffioedd tribiwnlys gryn dipyn yn uwch, lle y mae rhywun sydd am wneud hawliad am ddiswyddiad annheg bellach yn gorfod talu...
Michelle Brown: Mae contractau dim oriau wedi bod o gwmpas ers amser hir, ac wedi bod o fudd i gyflogwyr a gweithwyr gyda’u hyblygrwydd. Fodd bynnag, ers 2004, gwelwyd cynnydd enfawr yn nifer y contractau dim oriau. Felly, pam y cynnydd? Mae cyflogwr sy’n ymateb i ddeddfwriaeth newydd yn debygol o ofyn, ‘A yw’n berthnasol i mi ac os felly, sut y gallaf ei hosgoi a sut y gallaf leihau ei chost?’ Mae...
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi codi pwynt y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ynglŷn ag arweinyddiaeth, ac rwy’n cytuno â hi bod arweinyddiaeth yn faes y mae angen ei ddatblygu’n sylweddol, a hynny ar frys. Fodd bynnag, nid yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi crybwyll yn ei datganiad yr...
Michelle Brown: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad a wnaethoch heddiw ar y gronfa waddol ar gyfer cerddoriaeth. Dwi'n gefnogol iawn i unrhyw ffyrdd adeiladol o wella hyfforddiant cerddoriaeth mewn ysgolion a chael mwy o blant a phobl ifanc i fwynhau, caru, chwarae a chymryd rhan mewn cerddoriaeth. Hoffwn ofyn i chi am rywfaint o fanylion, serch hynny....
Michelle Brown: Hoffwn longyfarch a diolch i’r sefydliadau a’r arbenigwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad am eu parodrwydd i ddweud sut y maent yn gweld pethau. Mae rhanddeiliaid yn y sectorau statudol a gwirfoddol yn siarad am ddiffyg arweiniad a chyfeiriad strategol gan Lywodraeth Cymru. Mae Cyngor Cymreig y Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol—CWVYS—yn nodi nad yw 30 y...
Michelle Brown: Iawn. Diolch. Ar ôl gofyn am faint y broblem, mae’n anghywir i drin unrhyw un, wrth gwrs, yn enwedig plant, fel ystadegau. Felly, hoffwn glywed peth sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd unrhyw ysgol sydd angen cymorth yn cael ei thrin yn gyfartal o gymharu ag ysgolion eraill sydd angen help, waeth beth yw maint yr ysgol.
Michelle Brown: Diolch i chi am hynny. O ran y categorïau coch, oren a gwyrdd, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym faint o blant sy’n byw mewn dalgylchoedd lle y bernir bod yr ysgolion cynradd ac uwchradd naill ai yn y categori oren neu’r categori coch? Rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod gorfodi plentyn i fynd i ysgol sydd angen ei gwella yn annerbyniol a buasai’n...
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddwyd categorïau ysgolion Cymru gennych yn ddiweddar. Ni fydd categoreiddio’r ysgolion o ddefnydd oni bai bod y wybodaeth yn cael ei defnyddio’n brydlon ac yn effeithiol er mwyn helpu ysgolion i wella; fel arall, bydd plant yn parhau i ddihoeni mewn ysgolion nad ydynt yn perfformio cystal â’r safon. A ydych yn barod i roi sicrwydd...
Michelle Brown: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i’n croesawu'r swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr ydych chi wedi eu cyhoeddi a sôn amdanyn nhw yn eich datganiad. Fodd bynnag, mae'n drueni, yn sicr yn y gogledd, bod gormod o orsafoedd heddlu yn anhygyrch erbyn hyn a’r safleoedd wedi’u gwerthu. Mae’r sicrwydd o gael gorsaf heddlu weladwy...
Michelle Brown: Mae’n ddrwg gennyf, ni chlywais yn iawn a ydych yn barod i gyflwyno tryloywder cyflogau yn y sector cyhoeddus mewn gwirionedd, oherwydd os nad ydych, a allwch esbonio i fenywod yn y sector cyhoeddus sut y maent yn mynd i orfodi eu hawliau cyflog cyfartal os nad ydych yn mynd i ddweud wrthynt beth yw’r cyfraddau cyflog cymharol yng ngweddill eu sefydliad?
Michelle Brown: Diolch i chi, Lywydd. Yn ôl Cymdeithas Fawcett, bydd merched yn colli tua £300,000 dros eu bywydau gwaith oherwydd cyflog anghyfartal. Fel y gwyddoch, mae gorfodi deddfwriaeth cyflog cyfartal yn nwylo’r gweithiwr. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y dylai sicrhau cyflog sy’n gyfartal rhwng y rhywiau fod yn ddyletswydd ar y cyflogwr, yn hytrach na’r cyflogai?