Dawn Bowden: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu i fynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern? OAQ54686
Dawn Bowden: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Gwn, wrth gwrs, fod hwn yn faes gwaith sydd heb ei ddatganoli i raddau helaeth, ond rwy'n cydnabod, dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, oherwydd methiant Llywodraeth y DU i ddarparu buddsoddiad digonol lle na fydd y farchnad fasnachol yn darparu'r gwasanaeth hanfodol hwn i’n cymunedau a’n busnesau, fod Llywodraeth Cymru wedi camu i’r adwy ac...
Dawn Bowden: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am seilwaith cysylltedd digidol ar gyfer cymoedd de Cymru? OAQ54618
Dawn Bowden: Trefnydd, gwn fod llawer o'r Aelodau yn y Siambr yn cefnogi gwaith gwerthfawr Tŷ Hafan a mudiadau hosbisau yn gyffredinol ledled Cymru, Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod, yn drawsbleidiol, pa mor werthfawr yw'r cymorth y maen nhw'n ei roi i unigolion a theuluoedd, ar safleoedd yr hosbisau eu hunain ac allan yn y gymuned hefyd. Rwy'n siŵr hefyd y bydd llawer o'r Aelodau wedi gweld...
Dawn Bowden: Ond yn y ddadl hon, ac o blith y llu o atebion, rwyf am dynnu sylw at y cyfleoedd ar gyfer atebion cydweithredol er mwyn helpu i ddiwallu'r anghenion tai yn ein cymunedau. A byddaf yn canolbwyntio ar hynny yn awr yn ail ran fy nadl. Oherwydd rwy'n ffodus o gael sefydliad o'r enw Cartrefi Cymoedd Merthyr yn fy etholaeth. A deilliodd y Gymdeithas hon o'r ddadl ynghylch trosglwyddo stoc mewn...
Dawn Bowden: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos mai heddiw yw'r diwrnod ar gyfer dadleuon ar dai. Mae'n ddrwg gennyf nad oeddwn o gwmpas i gymryd rhan yn llawer o ddadl y Ceidwadwyr yn gynharach, oherwydd rwy'n cefnogi llawer o'r hyn a gyflwynwyd yn y ddadl honno, a chredaf ein bod yn y broses o ddod i ryw fath o gonsensws ynghylch rhai o'r materion y mae angen inni roi sylw iddynt ym maes...
Dawn Bowden: Wel, rwy'n rhagdybio y bydd y Llywydd yn rhoi rhywfaint o amser ychwanegol i mi yn awr yn fy nghyfraniad oherwydd fy mod wedi cael llond bol ar sefyll yn y Siambr hon wythnos ar ôl wythnos yn clywed y Torïaid yn galw am fwy o wariant ar ein holl wasanaethau cyhoeddus a chithau wedi llywodraethu dros 10 mlynedd o gyni. Ni chymerwn unrhyw wersi gan y Ceidwadwyr ar wariant. Yn ail,...
Dawn Bowden: —a'r toriadau i wariant rydych wedi eu gorfodi ar Gymru. Fe gymeraf eich ymyriad.
Dawn Bowden: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r rhai a gymerodd ran yn yr ymchwiliad, a diolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb cadarnhaol iawn i argymhellion y pwyllgor? Yn anochel, rwy'n credu y byddwn i gyd, mae'n debyg, yn trafod nifer o'r un meysydd, felly byddwch yn amyneddgar. Ond i mi, roedd yr ymchwiliad hwn yn dangos yn glir nad yw ariannu ysgolion mor syml ag yr hoffai rhai ei awgrymu. Felly,...
Dawn Bowden: Er fy mod bellach yn aelod o'r pwyllgor, nid oeddwn yn aelod ar yr adeg y cynhaliwyd yr ymchwiliad, ond hoffwn ddiolch i bawb a fu’n casglu'r dystiolaeth a chyflwyno'r adroddiad ar fater mor bwysig i gynifer o bobl sy'n defnyddio'r cynllun bathodyn glas. Ac fel Aelodau eraill, rwy'n gweld llawer o'r rhain yn dod trwy fy swyddfa’n rheolaidd, ac mewn gwirionedd, mae'r staff yn fy swyddfa...
Dawn Bowden: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Wrth gwrs, rydych yn gyfarwydd iawn â fy etholaeth. Rydych wedi ymweld lawer gwaith, ac rydych eisoes wedi sôn am atyniadau rhagorol BikePark Wales a Rock UK, ac wrth gwrs, mae gennym Reilffordd Mynydd Brycheiniog, castell Cyfarthfa, a gallwn barhau. Nid yn unig eu bod yn rhoi Merthyr Tudful ar y map twristiaeth, maent yn rhoi'r Cymoedd ar y map...
Dawn Bowden: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo twristiaeth ym Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54540
Dawn Bowden: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Gwn fod nifer o'r blaenoriaethau craidd hynny'n bwysig i les fy etholwyr, yn enwedig ym meysydd iechyd, tai a gofal cymdeithasol, ond a gaf i ganolbwyntio fy nghwestiwn atodol ar anghenion yr economi leol? Rydym ni'n gwybod y bu rhywfaint o newyddion economaidd drwg yn ddiweddar am golli swyddi yn y dref, ond gwn hefyd am gwmnïau sy'n parhau i recriwtio...
Dawn Bowden: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau gwario Llywodraeth Cymru ar gyfer Merthyr Tudful a Rhymni? OAQ54537
Dawn Bowden: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae cau'r cwmni hwn a cholli 250 o swyddi yn amlwg yn newyddion drwg i fy etholaeth, ond mae'n sicr yn newyddion drwg iawn i'r unigolion hynny a'u teuluoedd ac i economi leol Merthyr Tudful. Yn anffodus, daw hyn ar ben colli swyddi eraill, gan gynnwys y rhai yn Hoover, a'r bwriad i symud 250 o swyddi'r Adran Gwaith a Phensiynau o Ferthyr Tudful. Ond a gaf fi...
Dawn Bowden: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae'n amlwg nad wyf yn wyddonydd nac yn beiriannydd traffig, felly caf fy arwain gan arbenigwyr a'u gwybodaeth am hyn a'r hyn y maent wedi'i ddweud wrthym am lefelau niweidiol ac effaith llygredd yn y cymunedau ar hyd yr A470. Ond yn ddealladwy, ers i'r camerâu cyflymder ddod yn weithredol, cafwyd trafodaeth fwy cyffredinol ar y mater, yn enwedig gan...
Dawn Bowden: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ynghylch mynd i'r afael â llygredd aer ar hyd yr A470? OAQ54495
Dawn Bowden: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gwymp Triumph Furniture ym Merthyr Tudful? 349
Dawn Bowden: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Ac, yn y fan yma, a gaf i ddweud eto fy mod yn cydymdeimlo ac yn meddwl am y teuluoedd yr effeithiwyd arnyn nhw gan y methiannau yn y bwrdd iechyd hwn gan orfod byw gyda'r trychinebau hynny ers hynny? A gaf i hefyd ategu'r diolch i aelodau'r panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth am eu gwaith, ac yn arbennig i Mick Giannasi, a...
Dawn Bowden: Diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gyflwyno'r adroddiad hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor, ond yn amlwg, mae gennyf ddiddordeb ac rwy'n parhau i bryderu bod nifer o agweddau ansicr ynghlwm wrth gylch gwariant diweddar y DU o hyd—er enghraifft, y ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd i'r afael, unwaith eto, ag ateb hirdymor i ariannu gofal cymdeithasol. Tra'n bod yn ceisio canfod ein...