Canlyniadau 301–320 o 10000 ar gyfer speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth

7. Dadl Plaid Cymru: Niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae'r nifer gynyddol o achosion o gamddefnydd alcohol, wrth gwrs, yn bryderus iawn. Mae o'n rhywbeth ddylai boeni pob un ohonom ni. Y gred ydy mai yfwyr risg uchel sydd wedi bod yn gyrru'r cynnydd diweddar mewn yfed alcohol, a hynny wedi arwain at y lefel uchaf ers 20 mlynedd o gamddefnydd alcohol. Rydyn ni'n gwybod am yr effaith niweidiol y gall camddefnydd alcohol ei gael ar ein hiechyd...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae yna gynnig digon syml o'n blaenau ni heddiw. Dwi a'r meinciau yma'n sicr yn cytuno nad oes gan Lywodraeth Cymru gynllun digonol i fynd i'r afael ag ôl-groniadau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Dŷn ni newydd, yn yr wythnosau diwethaf, weld y cynllun, ac mae yna elfennau, wrth gwrs, sydd yn bositif. Un, bod gennym ni gynllun o'r diwedd, ar ôl aros yn rhy hir amdano fo, ac...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: 'A gaf fi… longyfarch Swyddfa Dramor yr Undeb Sofietaidd ar ei medrusrwydd yn cuddio’r sefyllfa go iawn yn Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd? Nid Rwsia yw Moskva (Moscow), ac mae gweld pobl sy'n cael eu bwydo'n dda yno yn tueddu i guddio'r Rwsia go iawn'.

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mi wnaeth y Llywodraeth Sofietaidd wadu bodolaeth y newyn yma tan ddiwedd y 1980au, ond mae o wedi ei selio ar gof pobl Wcráin ers 90 mlynedd. Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio hefyd. I gloi, y tristwch, wrth gwrs, y tu hwnt i eiriau, ydy nad rhywbeth sydd wedi ei gladdu am byth yn hanes ydy hyn. Dyma ni yn 2022. Yr wythnos diwethaf, mi adroddodd swyddog o'r Cenhedloedd Unedig bod lluoedd...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: 'Roedd yr hyn a welais y bore hwnnw... yn anhraethol o erchyll. Ar faes y gad, mae dynion yn marw'n gyflym, maent yn ymladd yn ôl, cânt eu cynnal gan eu cyfeillion ac ymdeimlad o ddyletswydd. Yma, gwelais bobl yn marw'n araf ar eu pen eu hunain, yn marw'n erchyll, heb yr esgus eu bod yn aberthu dros achos. Roeddent yn sownd ac wedi'u gadael i newynu, pob un yn ei gartref ei hun, gan...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Ond, wrth gwrs, doedd hon ddim yn stori oedd yn gallu cael ei hadrodd yn gyhoeddus. Mi wnaeth y wasg Sofietaidd, fel rydyn ni wedi clywed, wadu bod unrhyw newyn wedi digwydd o gwbl. Yn anffodus, mi oedd yna ddigon yn y wasg orllewinol yn barod i gredu hynny hefyd. Un dyn, wrth gwrs—rydym ni wedi clywed ei enw o droeon yma heddiw—wnaeth geisio tynnu sylw at y sefyllfa go iawn oedd y...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Holodomor (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch, Dirprwy Lywydd, i bawb sydd wedi gwneud sylwadau mor feddylgar heddiw, a diolch am yr ymrwymiad yna gan y Gweinidog. Dwi'n falch ein bod ni fel Senedd yn gallu mynegi mewn ffordd mor unedig ein cydymdeimlad a'n solidariaeth ni efo pobl Wcráin wrth inni nodi 90 mlynedd ers yr Holodomor, sy'n cael ei alw'r 'newyn mawr' yn aml, ond, wrth gwrs, mae'r defnydd o'r gair 'newyn' yna'n...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Alwminiwm Môn (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae'n anodd iawn gorbwysleisio pwysigrwydd y safle. Darparodd Alwminiwm Môn swyddi da iawn i filoedd o bobl dros bedwar degawd. Rhaid inni sicrhau bod gweithgarwch economaidd cynaliadwy—cyfnod newydd o swyddi da, os hoffech—yn dod i'r safle. Yn gwbl briodol, blaenoriaeth pob un ohonom ar ôl methiant Orthios oedd cefnogi'r rhai a gollodd eu swyddi, ac mae'n rhaid i'r gefnogaeth honno fod...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Dwi'n gwerthfawrogi hynny. Mi oedd y nyrs yma yn sicr yn poeni am lefelau staffio yn gyffredinol, ac yn amlwg y gor-ddibyniaeth ar staff asiantaeth. Mi ddywedwyd wrthyf i bod y rhan fwyaf o'r nyrsys ddaeth o Sbaen ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl ymgyrch recriwtio, wedi dychwelyd i Sbaen erbyn hyn. Mae yna dyllau mawr yn y gweithlu. Mi fydd y Gweinidog, dwi'n gwybod, wedi cael copi o'r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Mae'n Ddiwrnod y Nyrsys yfory, a dwi eisiau diolch i nyrsys ymhob cwr o Gymru am eu gofal a'u hymroddiad. Ond dwi am dynnu sylw'r Gweinidog at bryderon sydd wedi eu codi efo fi gan nyrs, sy'n dweud ei bod hi'n cynrychioli nifer sylweddol o staff nyrsio Ysbyty Gwynedd. Mi gefais fy nhristau o wrando ar y nyrs yn disgrifio'r awyrgylch gwaith, yn disgrifio bwlio, y pwysau ac...

2. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Alwminiwm Môn (11 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i achub a chreu swyddi ar hen safle Alwminiwm Môn? OQ58028

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: 'Mae angen ymgorffori gwaith atal ar bob cam yn ein gweithredoedd'.

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae hynny mor, mor wir, ond dydw i ddim yn gweld yr arwyddion o'r math o chwildro y buaswn i'n licio ei weld. Dwi'n cofio, ar ôl datganiad diweddar, gwnes i gyhuddo'r Gweinidog o fod wedi colli nought oddi ar ddiwedd rhyw ffigur oedd yn cael ei wario ar fesurau ataliol, a dwi'n ei feddwl o. Hynny ydy, mae'n rhaid inni anelu yn y pen draw at allu gwario llai ar ofal iechyd, a'r ffordd o...

5. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Fframwaith Canlyniadau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (10 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch, Weinidog, am y datganiad yma. Dwi ddim yn anghytuno efo'r cynnwys—efo cynnwys y geiriau—a dydw i ddim yn anghytuno efo'r nod yn fan hyn. Pwy fyddai'n anghytuno efo'r nod o drio creu cenedl fwy iach? Beth sy'n fy mhoeni i braidd ydy y gallwn ni gael ein clymu yn fan hyn yn siarad mwy eto am beth rydyn ni'n trio ei gyflawni ond dydyn ni ddim yn gweld y camau cadarn hynny sydd yn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (10 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: —ysgrifennais at y Prif Weinidog ar 27 Ebrill, yn gofyn iddo gywiro'r Cofnod, Cofnod y Senedd, ar ôl iddo ddweud bod y cyfrifoldeb am ymchwiliad cyhoeddus i COVID 'wedi symud i ddwylo'r barnwr annibynnol a benodwyd i'w arwain.'  Roedd yn ateb cwestiwn a ofynnodd Heledd Fychan. Nawr, fel rhywun sydd wedi galw'n gyson am ymchwiliad i Gymru yn unig i sicrhau bod materion yn cael eu hystyried...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (10 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch am y datganiad. Ryw dri chwestiwn, dwi'n meddwl, gen i. Prin ydy'r newidiadau erbyn hyn, mewn difri. Dwi'n falch bod y dystiolaeth—nid yn gymaint y profion, wrth gwrs, erbyn hyn, ond tystiolaeth yr ONS a dŵr gwastraff ac ati—yn awgrymu bod y sefyllfa yn gwella. Mae'r cwestiwn cyntaf ynglŷn ag ysgolion a cholegau, sy'n gweld y newid mwyaf yn fan hyn, am wn i, efo gorchuddion wyneb...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hepatitis C (10 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch am yr ymateb yna. Mae gan o leiaf 8,000 o bobl yng Nghymru heintiad cronig hepatitis C, ond mi allwn ni gael gwared ar hepatitis C yn llwyr. Dyna'r newyddion da mewn difrif. Ond er bod gwaredu yn bosib a bod Cymru yn y gorffennol wedi cymryd camau breision tuag at ddileu erbyn 2030, y gwir amdani yw ein bod ni rŵan wedi llithro yn ôl a dydyn ni ddim ar y trywydd iawn i daro'r targed,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hepatitis C (10 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: 3. A wnaiff y Prif Weinidog rannu’r wybodaeth ddiweddaraf am darged Llywodraeth Cymru i ddileu hepatitis C yng Nghymru? OQ58030

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffin ( 3 Mai 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ni allwn i gredu fy mod i'n cael y briff hwnnw gan y Gweinidog a'i swyddogion yr wythnos diwethaf, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y briff hwnnw. Ond a bod yn deg, nid wyf i'n credu y gallai'r Gweinidog gredu ei fod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am newid meddwl mor sydyn pan ddaeth i gyfleusterau ffin. Rwy'n digwydd cynrychioli'r ail borthladd fferi gyrru i...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Twristiaeth (27 Ebr 2022)

Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.