Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wel, roedd yr eitem hon ar yr agenda heddiw ar gyfer y cyngor partneriaeth llywodraeth leol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans. Mae’n ymwneud â nod cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sef bod llywodraeth leol yn gyflogwr enghreifftiol, gyda pholisïau adnoddau dynol a chyflogaeth gwrth-hiliol, gyda chyllid gwella’n cael ei ddefnyddio...
Jane Hutt: The Deputy Minister for Social Services leads on our rights-based strategy for an ageing society. Building on our co-produced guidance 'Making rights work for older people', Age Cymru is delivering a campaign through multiple channels, including a toolkit for advocates and older people that supports the protection of their rights.
Jane Hutt: The Welsh Government is committed to working with the police and other partner organisations to help ensure our communities are safe, not only in Rhondda but across Wales. We continue, for example, to provide significant funding for police community support officers in all of our Welsh police forces.
Jane Hutt: The Welsh Government continues to commit significant investment to a range of policies and programmes to promote prosperity and prevent and mitigate poverty. Thanks to the £150 cost-of-living payment, to date £6,693,000 has already reached the pockets of the eligible households in the Caerphilly area alone.
Jane Hutt: The Welsh Government is committed to advancing equality and protecting the rights of everyone in Wales, including deaf people. Work is being undertaken through the disability rights taskforce to ensure that the rights of the deaf community and other disabled people are protected.
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn i Buffy Williams, a byddai'n wych pe bai pob Aelod o'r Senedd yn gofyn yr un math o beth i mi, oherwydd rwy'n credu bod arnom ni angen y sgyrsiau bord gron fesul sir, cymuned-wrth-gymuned hynny i fynd i'r afael â'r materion hyn. A diolch i chi hefyd am dynnu sylw at Drive, sydd wedi bod yn effeithiol—yn wirioneddol effeithiol. Hefyd, nid ydym wedi trafod rhannau...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n credu bod hyn yn symud ymlaen yn rhannol, yn ogystal â'r hyn yr wyf eisoes wedi'i ddweud, i'n hymgyrchoedd a'n cyfathrebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn herio agweddau cymdeithasol i atal trais yn erbyn menywod, dynion a phlant rhag digwydd yn y lle cyntaf. Felly, yr ymgyrch Byw Heb Ofn—mae hynny'n parhau i godi ymwybyddiaeth o...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. A gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o allu siarad yn lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi' ddydd Llun? Rhoddais fy ymrwymiad y byddwn yn dychwelyd â'r argymhellion—rwy'n credu i'r Prif Weinidog wneud hynny hefyd—i fyfyrio arnyn nhw. Yr hyn sy'n ddiddorol, wrth gwrs, yw bod eich adroddiad wedi tynnu sylw at y dystiolaeth nad mater i Lywodraeth Cymru yn unig yw...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu fy mod wedi mynegi eich holl werthoedd, egwyddorion ac amcanion yn fy natganiad, a pham mae'r datganiad hwn yn gydnabyddiaeth llawer llymach a chryfach o'r gwrywdod gwenwynig a'r casineb at fenywod sy'n sail i gam-drin pŵer ymysg dynion. Am flynyddoedd lawer, ac roeddwn yn rhan ohono ddegawdau'n ôl, sefydlwyd lloches Cymorth i Fenywod gennym i...
Jane Hutt: Rwy'n credu bod y materion sy'n ymwneud â llais y goroeswr yn bwysig iawn ac yn allweddol i fy ymateb eisoes. Rhaid i leisiau goroeswyr fod wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym ni mewn gwirionedd yn datblygu panel craffu a chynnwys llais goroeswyr, ac mae'n rhaid i hwnnw fod yn grŵp amrywiol o oroeswyr, sy'n cwmpasu holl sbectrwm trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy'n croesawu ymrwymiad ac ymgysylltiad Cymorth i Fenywod Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at eu hymateb pan gyhoeddais y strategaeth ym mis Mai. Maen nhw, wrth gwrs, wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad. Maen nhw wedi helpu i gyd-gynhyrchu'r strategaeth ac, yn wir, maen nhw'n gwasanaethu ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol newydd. Mae'r bartneriaeth...
Jane Hutt: Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am gael y cyfle i wneud y datganiad hwn i nodi lansiad ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i geisio cefnogaeth y Senedd, oherwydd mae gwneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw neu'n ferch yn fater i bawb. Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis diwethaf cyhoeddais y strategaeth, ar ôl...
Jane Hutt: Wel, rydym ni wedi nodi ac rydym ni wedi cytuno yn ein cyllideb ar yr £20 miliwn. Mae'n wir—. Roeddwn i eisiau dweud mai un o'r pwyntiau nad wyf i wedi gallu tynnu sylw ato yw mai dyma un o'r taliadau mwyaf hael yn y byd i gyd yr ydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n ei wneud, mewn gwirionedd, yn rhannol oherwydd, pan wnaethom ni glywed bod Llywodraeth y DU yn mynd i'w drethu, roeddem ni'n gwybod...
Jane Hutt: Diolch. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a gallaf i ddweud 'ie'; Gallaf i ddweud 'ie' i'r yr holl bwyntiau. Hefyd, bydd cyfle i ystyried a ydyn nhw eisiau i'w rhent gael ei dalu'n uniongyrchol, yn ogystal ag edrych ar eu hanghenion o ran cyfleoedd tai â chymorth, nawr ac yn y dyfodol.
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Ken Skates. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc—y pecyn £2 filiwn hwnnw yr wyf i wedi ymateb i gwestiynau yn ei gylch eisoes, y pecyn cymorth, y cyngor ariannol a'r arweiniad, yn gyfochrog â'r cynghorwyr pobl ifanc hefyd, sy'n agweddau mwy eang efallai ar y cyngor a'r arweiniad angenrheidiol, ond ar sail un i un yn arbennig felly. Ond hefyd, mae...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun treialu incwm sylfaenol hwn yn dangos eich bod chi'n anghywir. Mae ein hawdurdodau lleol ni i gyd yn gefnogol i hyn. Rwyf i wedi cyfarfod â'r gweithwyr cymdeithasol, ein cynghorwyr pobl ifanc, fel gwnaeth Julie Morgan, a'r Prif Weinidog a minnau wythnos diwethaf. Maen nhw o'r farn bod hwn yn gyfle iddyn nhw gyflawni eu...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, ni allaf ddweud dim mwy wrth ymateb i Jane ac eithrio diolch iddi hithau am ei chefnogaeth hefyd, unwaith eto, edrychwch chi ar bwysigrwydd y dystiolaeth fyd-eang am gynlluniau treialu incwm sylfaenol. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Ceidwadwyr yn cydnabod o leiaf fod hwn yn gyfle i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac yn rhoi gobaith iddyn nhw, yn agor drysau, yn...
Jane Hutt: Wel, a gaf i ddiolch i Jack Sargeant, a diolch yn arbennig iddo ef am gadeirio'r Pwyllgor Deisebau a'r argymhellion sydd wedi dod o'r pwyllgor hwnnw? Rydym ni wedi derbyn pob un ohonyn nhw'n llawn neu'n rhannol, ac rwy'n credu'r argymhellion hynny'n arbennig—. Tâl gwarantedig diamod i'r unigolyn—yn ddiamod—ond hefyd y dylai'r rhai sy'n gadael gofal gynnwys y rhai sy'n gadael gofal o...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Luke Fletcher, a diolch yn fawr iawn i chi am groesawu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y ffaith fod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU wedi ymesgusodi—fe allwn i ddweud, 'gwrthod', ond fe wnaethant ymesgusodi rhag ymgysylltu â ni. Maen nhw wedi gwrthod diystyru'r taliad...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn i chi, Joel James. Roeddwn i'n ddiolchgar am ein bod ni wedi cael rhai sylwadau cadarnhaol ar ddechrau eich cwestiynau chi heddiw. Rwy'n credu i chi gydnabod y gallai'r cynllun treialu hwn gynnig cyfleoedd gwych i'r rhai sy'n gadael gofal yma, ac mai cynllun treialu incwm sylfaenol yw hwn. Fe hoffwn i ddechrau drwy ateb eich cwestiynau chi ynghylch pam yr ydym ni wedi...