Canlyniadau 301–320 o 10000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles OR speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Effaith Chwyddiant ar Gyllidebau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae'r cynnydd mewn chwyddiant yn cael effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus a bydd yn effeithio ar gyllidebau ysgolion. Rydym yn gwybod bod cronfeydd wrth gefn ysgolion mewn sefyllfa well ar hyn o bryd, ac rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i weithio gydag ysgolion i reoli eu cyllidebau yn sgil yr amgylchiadau presennol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Natur a Bioamrywiaeth (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Wel, fel cyn-adaregwr ifanc fy hun, rwy'n rhoi sylw manwl i'r hyn y mae'r RSPB yn ei ddweud wrthym ynglŷn â chysylltiad pobl ifanc â byd natur. Rwy'n siŵr y bydd y rhan fwyaf ohonom yn cydnabod, o'n profiad ni ein hunain, pa mor bwysig a phleserus yw hynny pan yn ifanc. Mae dwy brif raglen yr ydym yn eu hariannu ac yn parhau i'w cefnogi yng nghyswllt addysg amgylcheddol mewn ysgolion. Mae...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Natur a Bioamrywiaeth (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae addysg am yr amgylchedd yn orfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Mae'r datganiadau o'r hyn sy'n bwysig ar gyfer meysydd dysgu a phrofiad y dyniaethau a gwyddoniaeth a thechnoleg yn cynnwys cyfeiriadau penodol at yr amgylchedd i sicrhau bod dysgwyr yn ymdeimlo â phwysigrwydd natur a bioamrywiaeth.  

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Yr Amgylchedd Dysgu Gorau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Wel, bydd yr Aelod yn gwybod bod y Llywodraeth hefyd yn gobeithio y gallwn wneud mwy ym maes prydau ysgol am ddim, ond mae'r estyniad y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn yn un lle byddai angen i ni wneud y mathau o doriadau mewn rhannau eraill o'n cyllideb y mae'r Aelod yn gofyn i mi fanylu arnynt y dylai ysgolion eu gwneud yn eu cyllidebau hwy. Felly, mae'r her yn sylweddol iawn. Yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Yr Amgylchedd Dysgu Gorau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae sicrhau bod yr ystad ysgolion yn addas at y diben yn hanfodol i greu amgylchedd dysgu cadarnhaol. Dyna pam, ers 2014, ein bod wedi buddsoddi £1.22 biliwn drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, yn erbyn cyfanswm o wariant gyda'n rhanddeiliaid ar y rhaglen o £2.2 biliwn. 

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Help i Fyfyrwyr (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Wel, mae cyfraddau cymorth i fyfyrwyr mewn gwirionedd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â'n polisi, a byddaf yn gwneud datganiadau am hynny yn yr wythnosau nesaf. Eisoes yng Nghymru mae gennym y system cymorth myfyrwyr fwyaf blaengar yn unrhyw ran o’r DU, ac rwy’n falch iawn o hynny, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i hynny, system sydd, fel y gwyddoch, yn cynnwys cymysgedd o...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Help i Fyfyrwyr (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod myfyrwyr addysg uwch yn gallu cael cymorth sy'n eu galluogi i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd. Mae ein system cymorth i fyfyrwyr yn darparu cymorth sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol, gyda’r lefelau grant uchaf yn cael eu targedu at y myfyrwyr sydd â’r angen mwyaf.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymorth i Ysgolion (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae’n gywir i ddweud, wrth gwrs, fod costau gwisg ysgol yn bryder sylweddol i lawer o deuluoedd. Ysgrifennais at ysgolion dros doriad yr haf, tuag at ddiwedd y toriad, i ddweud wrthynt y byddwn yn edrych eto, fel y mae'n dweud, ar y canllawiau sydd wedi bod ar waith ers tair blynedd, i bob pwrpas, ar hyn o bryd, ond mae maint y mater yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymorth i Ysgolion (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Wel, mae hwnnw'n ateb mwy hirdymor i'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio'n gywir fel un sydd ar fin digwydd i ysgolion, ac rwy'n gobeithio, fel rwy'n siŵr y bydd ef, pan fydd y datganiad yn cael ei wneud ddydd Gwener, y bydd Prif Weinidog y DU yn glir ynghylch yr ymrwymiad y mae'n ei roi i fusnesau ac i unigolion am y cymorth tuag at gostau ynni, sy'n sicr yn angenrheidiol er mwyn sicrhau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymorth i Ysgolion (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae eisoes yn digwydd mewn rhai ysgolion yng Nghymru. Mae ysgolion yn cefnogi teuluoedd mewn pob math o ffyrdd i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad at gefnogaeth ehangach. Un o’r ystyriaethau wnaeth y Prif Weinidog sôn amdano ddoe, wrth gwrs, oedd bod angen sicrhau bod unrhyw gysylltiad rhwng teuluoedd ac unrhyw gorff cyhoeddus yn caniatáu i bobl ddeall yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymorth i Ysgolion (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion ni. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi egluro yn y Senedd ddoe mai dim ond y Llywodraeth yn San Steffan sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael gydag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau Arholiadau 2022 (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Wel, rwyf am dderbyn y gwahoddiad i ailadrodd fy llongyfarchiadau i bobl ifanc yng Nghymru, sydd wedi bod drwy gyfnod anodd iawn. Mewn rhai ffyrdd, rwy’n credu mai’r flwyddyn ddiwethaf hon oedd y fwyaf aflonyddgar o ran y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ac felly roedd dychwelyd at arholiadau yn y cyd-destun hwnnw yn dasg arbennig o heriol yn fy marn i. Ond rwy’n credu bod y...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Canlyniadau Arholiadau 2022 (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae Cymwysterau Cymru wedi ceisio darparu canlyniadau graddau ar gyfer Safon Uwch a TGAU cymeradwy sydd oddeutu hanner ffordd rhwng haf 2019 a haf 2021, ar lefel genedlaethol. Ac mae’r canlyniadau a gyflawnwyd gan ddysgwyr yn dangos eu gwytnwch, ac rwy’n eu llongyfarch i gyd ar eu cyflawniadau.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Disgyblion o Wahanol Gefndiroedd Economaidd-Gymdeithasol (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Rwy’n credu bod hynny’n rhan o’r ateb. A dweud y gwir, rwy’n credu’n gryf y bydd y cwricwlwm newydd yr ydym yn ei gyflwyno yng Nghymru, sydd wedi’i deilwra i anghenion dysgwyr unigol ac sy’n rhoi pob dysgwr yn y sefyllfa orau bosibl i gyflawni ei botensial ei hun, yn gam enfawr ymlaen i ni mewn gwirionedd. Bydd pawb ohonom yn siarad ag ysgolion yn ein hetholaethau a’n...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Disgyblion o Wahanol Gefndiroedd Economaidd-Gymdeithasol (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Wel, mae amryw o gwestiynau pwysig iawn yng nghwestiwn yr Aelod. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y cefndir cymdeithasol yng Nghymru yn wahanol i'r cefndir cymdeithasol, ar gyfartaledd, yn Lloegr—hynny yw, bod lefelau o dlodi yn uwch yng Nghymru am resymau, efallai, sydd yn rhannol hanesyddol. Nid yw'r pwerau o ran trethi ac ati a gwariant ddim gyda ni i'n galluogi ni i fynd i'r afael â'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Disgyblion o Wahanol Gefndiroedd Economaidd-Gymdeithasol (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Roedd fy natganiad llafar ar 22 Mawrth yn amlinellu fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r uchelgais hwn.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Wel, dyna yw'r risg, fel mae'r Aelod yn dweud. Dyna pam mae e mor bwysig bod y drafodaeth yn digwydd mewn ffordd gymedrol, ffeithiol, oherwydd mae amryw o heriau o flaen athrawon ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cyflwyno cwricwlwm o'r newydd ac mae angen sicrhau eu bod nhw'n cael y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn gwneud hynny mewn ffordd sydd yn llwyddiannus yn y maes hwn ac ym mhob maes arall....

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cwestiwn olaf. Rŷn ni'n gweithio gyda'n partneriaid yn gyffredinol i sicrhau bod y wybodaeth iawn ar gael a bod canllawiau ar gael i allu mynd i'r afael â hyn. Mae wir yn bwysig—ac mae'n drueni nad yw llefarydd y Ceidwadwyr yma i glywed hyn eto—mae wir yn bwysig bod y drafodaeth gyhoeddus ynghlwm â'r maes polisi hwn yn digwydd mewn ffordd sydd yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Nid yw honiadau cyffredinol gan yr Aelod yn creu realiti newydd ar lawr gwlad. Mae hi'n haeru bod yna ddryswch; mae hi'n haeru llawer o bethau yn ei chyfraniad heddiw. Gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth mewn gwirionedd. Mae’r Aelod yn ymwybodol fod y cod eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ymgysylltu â rhieni mewn perthynas â chynnwys y cwricwlwm addysg cydberthynas a rhywioldeb,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (21 Med 2022)

Jeremy Miles: Mae natur generig honiadau'r Aelod, diffyg penodoldeb, y dull bras o ymwneud â'r cwestiwn hwn yn anhygoel o ddi-fudd. Mae'r cwricwlwm wedi bod yn cael ei ddysgu ers mater o ddyddiau yn yr ysgolion mewn gwirionedd, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed ganddi naill ai yn y Siambr neu ar wahân ynghylch manylion yr hyn y mae'n cyfeirio ato. Rwy'n credu ei bod yn ddyletswydd ar bob un...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.