Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn. Rwy’n falch iawn o ddechrau’r drafodaeth hon ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, 'Taro'r Tant', ar ariannu addysg cerddoriaeth a gwella mynediad ati. Waeth beth fo ein cefndiroedd, ein proffesiynau, neu ein teyrngarwch, rwy’n siŵr ein bod ni oll, ar ryw adeg, wedi cael boddhad a balchder mawr yn statws ein gwlad fel 'gwlad y gân'. Mae...
Bethan Sayed: Mewn cyfweliad gyda'r BBC ym mis Rhagfyr 2016, eglurodd Dr Owain Arwel Hughes, sylfaenydd Proms Cymru, a chyn arweinydd Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru, fod y toriadau i wasanaethau cerddoriaeth ysgol, a'r diffyg cyfleoedd dysgu o ganlyniad i hynny, yn peri'r hyn a ddisgrifiodd fel argyfwng mewn addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Adlewyrchwyd pryderon Dr Hughes hefyd yn arolwg cyhoeddus...
Bethan Sayed: Ewch ymlaen, John. [Chwerthin.]
Bethan Sayed: Yn wahanol i Russell George a Julie James, rwyf i'n gymharol newydd i'r maes hwn ar hyn o bryd, felly byddwch yn amyneddgar â mi, ond rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi yn y maes arbennig hwn, arweinydd y tŷ. Rwy'n dal sylw y nodwyd mewn diweddariadau blaenorol ar gyflymu a chysylltedd mai ymyrraeth â'r farchnad yw hyn, ac rwy'n cytuno, mewn gwirionedd, y byddai'n haws i gael cynnydd...
Bethan Sayed: Os yw'n wir nad yw pobl yn cael eu hysbysu, credaf mai dyna pam fod pobl yn codi'r mater yma, er mwyn iddynt gael y wybodaeth gennych chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono yma. O siarad â Vertex, rwy'n deall bod rhywfaint o rwystredigaeth wedi bod wrth ymdrin â chaffael meddygol ar sail Cymru gyfan, a arweiniodd at oedi sylweddol yn y...
Bethan Sayed: Hoffwn ddiolch i chi am y datganiad hwn, ac mae'n galonogol i mi. Mae'n amlwg y bydd y cynlluniau a ddewiswyd yn ychwanegu hyd at 657 o gartrefi newydd, yn hytrach na'r 276 a adeiladwyd y llynedd, ac mae'r gyllideb ar gyfer hyn wedi cynyddu'n sylweddol. Yn y gorffennol, rwyf i a fy nghyd-Aelod, Siân Gwenllian wedi gofyn i'r cynllun fod yn fwy uchelgeisiol o ran targed a maint, ac mae mwy na...
Bethan Sayed: Mi wnaeth e'n well na fi. [Chwerthin.]
Bethan Sayed: Roeddwn i'n meddwl tybed a allwn ni gael dadl am draffig cyffredinol a mesurau rheoli llygredd ar brif ffyrdd Cymru, os gwelwch yn dda? Mae hyn yng nghyd-destun y ffaith fy mod i, neithiwr, wedi trefnu cyfarfod cyhoeddus gorlawn i drafod y bwriad o gau cyffordd 41 tua'r gorllewin. Nawr, bydd hyn yn cael effaith niweidiol ar bobl Port Talbot. Ac mae yna ffyrdd eraill yng Nghymru lle rwy'n...
Bethan Sayed: Fel yr ydych chi wedi sôn, yn rhan o'r ymadawiad â'r cynllun hwn yn 2015, rhoddwyd cyfyngiad benthyg o £1.85 biliwn ar gynghorau a gadwodd stoc tai. O gofio bod Theresa May wedi cyhoeddi na fydd gan gynghorau yn Lloegr gyfyngiad ar eu gallu i fenthyg er mwyn adeiladu cartrefi newydd, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i aildrafod y cytundeb presennol gyda'r Trysorlys? Wedi'r cyfan,...
Bethan Sayed: Mae adroddiad canllawiau gwerthuso trafnidiaeth Cymru sy'n cynnig cau cyffordd 41 tua'r gorllewin yn dweud bod nod o geisio lleddfu tagfeydd yn yr ardal benodol honno, ac maen nhw'n ceisio dweud bod angen i bobl gael allan o'u ceir, rhywbeth y byddwn i'n cytuno ag ef. Ond yn yr ardal benodol honno, rydym ni wedi gweld amseroedd bysiau yn cael eu hisraddio ar hyd dyffryn Afan, ac nid yw...
Bethan Sayed: 8. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ddiwygio'r cynllun cymhorthdal cyfrif refeniw tai? OAQ52800
Bethan Sayed: Edrychaf ymlaen at glywed gan y grŵp arbenigol hwnnw, oherwydd cefais fy anesmwytho gan y ffaith bod swyddogion y cyngor wedi dweud wrthym nad oeddent wedi bod allan ar safle ers 20 mlynedd, pan oeddent yn arfer mynd allan drwy'r amser. Felly, hoffwn i'r neges rydych yn ei rhoi yma heddiw atseinio drwy bob cyngor lleol yma yng Nghymru. Mae fy nhrydydd cwestiwn, a'r olaf, yn ymwneud â'r...
Bethan Sayed: Diolch i chi am yr ateb, ond nid wyf mor dawel fy meddwl â chi a dweud y gwir. Yn ein pwyllgor llywodraeth leol yr wythnos diwethaf clywsom dystiolaeth gan y gwasanaeth tân, a dywedasant fod yna bobl yn cyflawni asesiadau risg tân nad ydynt yn gymwys i wneud hynny, fod pobl yn tynnu drysau tân o fflatiau ac yn gosod rhai nad ydynt yn ddiogel yn eu lle, ac nad oes unrhyw arian ar gael i...
Bethan Sayed: Weinidog, a allwch chi nodi pa mor hyderus ydych chi, os bydd tân yn dechrau mewn bloc uchel o fflatiau yma yng Nghymru, na fyddwn yn gweld yr un drasiedi ag a welsom yn Llundain?
Bethan Sayed: Cwpwl o wythnosau nôl, fe wnaethom ni glywed gan brif weithredwr cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dweud y byddai'n rhaid iddyn nhw wneud pobl yn ddiwaith pe na byddai'r arian yn dod ar gyfer codiad cyflog athrawon o Lywodraeth San Steffan yn ganolog. Wrth gwrs, rydw i'n browd i ddweud bod Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru, wedi gofyn am yr arian hynny i ddod o Lywodraeth San Steffan yn...
Bethan Sayed: Rhywbeth sy'n cynhyrfu llawer o bobl leol yw'r ffaith nad oes unrhyw fandad yn y system gynllunio ar gyfer cyfleusterau ar gyfer llawer o'r ystadau newydd hynny. Felly, weithiau mae gennych ystadau tai sy'n cael eu cadw'n dda ac mae ganddynt ddarpariaeth yn hynny o beth, ond nid oes ganddynt barciau, nid oes ganddynt unrhyw feddygfeydd, nid oes ganddynt y pethau a fyddai'n creu cymuned. Mae'r...
Bethan Sayed: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu blaenoriaethau setliad ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot? OAQ52690
Bethan Sayed: Yn amlwg, ceir cysylltiad rhwng camddefnyddio cyffuriau a phroblemau iechyd meddwl, ac, o waith ymchwil yr wyf i wedi edrych arno heddiw, byddai'n costio tua £500 miliwn i ymdrin â throseddu sy'n gysylltiedig â chyffuriau ar gyfer yr unigolion dan sylw yma yn y DU. Nawr, ceir llawer o gynlluniau atgyfeirio ar ôl arestio, ond mae'r nifer sy'n manteisio arnyn nhw yn eithaf isel. Maen nhw'n...
Bethan Sayed: Croesawaf y penderfyniad a wnaed ac roeddwn am longyfarch y Gynghrair yn erbyn Chwaraeon Creulon ar y gwaith a wnaethant ar yr ymgyrch benodol hon. Rwyf eisiau deall beth fydd eich ymgysylltiad, fel Gweinidog, gyda Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â grwpiau sy'n ymwneud â hyn o bob sector yn y gymdeithas yng ngoleuni’r penderfyniad hwn, oherwydd mae gennyf bryderon difrifol am y...
Bethan Sayed: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu strategaeth economaidd a diwydiannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin De Cymru?