Carl Sargeant: Wel, efallai y bydd hyn yn syndod i’r Aelod, ond byddwn yn fwy na pharod i ymuno â’r Aelod yng Nghaerdydd neu ble bynnag, i ddod gyda chi. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn deall profiadau’r bobl sy’n gweithio neu sydd allan ar y strydoedd. Ychydig nosweithiau yn ôl, efallai y bydd yr Aelod yn falch o glywed fy mod wedi treulio 10 munud yn eistedd yn ‘Chippy Alley’ yng...
Carl Sargeant: Yn wir, ac mae’r Aelod, fel nifer o bobl eraill, yn iawn i grybwyll y mater hwn. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â Shelter Cymru y bore yma ynglŷn â’r mater hwn. Mae’n peri cryn bryder i ni, ac rydym yn edrych ar ymatebion cyflym iawn i broblem bosibl digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Ni allwn ganiatáu i bobl ifanc gael eu rhoi ar strydoedd Cymru. Mae’n gwbl anghywir ar ran Llywodraeth y DU.
Carl Sargeant: Ystadegau, ystadegau, ystadegau. Yr hyn sy’n fy mhoeni yw beth sy’n digwydd ar lawr gwlad yn ein cymunedau, pan fyddwch chi a minnau’n derbyn llu o lythyrau gan bobl sy’n cael trafferth gyda chredyd cynhwysol a diwygio credyd. Fe’i cyflwynwyd gyntaf yn Sir y Fflint yn fy etholaeth i, felly rwyf wedi gweld cynnydd yn y pwysau yno. Ond ni allaf weld unrhyw un yn yr ystafell hon, waeth...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am gwestiwn difrifol iawn. Fel y cyfryw, ni fydd unigolion sengl rhwng 18 a 21 oed sydd heb blant yn gymwys i gael cymorth gyda’u costau tai pan ddaw credyd cynhwysol i rym, o 1 Ebrill ymlaen—yr wythnos hon. Ceir sawl eithriad, gan gynnwys pobl sy’n anabl neu bobl nad ydynt yn gallu byw gartref gyda’u rhieni. Effeithir ar oddeutu 1,000 o bobl yng Nghymru, ond nid yw...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Orllewin Casnewydd am ei chwestiwn. Rydym wedi cwblhau asesiad cynhwysfawr o effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU, gan gynnwys credyd cynhwysol. Mae’r asesiad hwn yn cwmpasu ystod o effeithiau, gan gynnwys nifer yr aelwydydd yr effeithir arnynt, effeithiau ar gymelliadau incwm a gwaith ac effeithiau ehangach sy’n gysylltiedig ag un taliad misol i aelwydydd a...
Carl Sargeant: Mae canllawiau eisoes wedi mynd at yr awdurdodau. Byddaf yn cael sgwrs gyda fy nghyd-Aelod, y Gweinidog, ynglŷn â’r mater penodol hwn. Mae’r Llywodraeth yn awyddus iawn i ni symud tuag at atal ac ymyrryd yn gynnar, gan fod hynny’n atal problemau, fel y nododd yr Aelod, megis effeithiau iechyd hirdymor a symud pobl i mewn i eiddo a addaswyd, na fyddai’n angenrheidiol, mewn...
Carl Sargeant: Mae’r rhain yn gyfleoedd technolegol syml iawn a gallwn eu cyflwyno ledled Cymru. Cyhoeddwyd fframwaith gweithredu iechyd a gwasanaethau cymdeithasol integredig newydd ym mis Chwefror ar gyfer pobl sy’n fyddar neu sy’n colli eu clyw, gan adeiladu ar ein buddsoddiad parhaus mewn offer a thechnolegau cynorthwyol. Mae fy nghyd-Aelod Rebecca Evans, y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol,...
Carl Sargeant: Credaf ei bod yn amherthnasol o ble y daw’r ffrwd gyllido, boed hynny drwy wasanaethau cymdeithasol neu drwy’r grant cyfleusterau i’r anabl neu fel arall yn y portffolio hwn. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni ganolbwyntio ar yr unigolyn a’u hanghenion, ac os hoffai’r Aelod ysgrifennu ataf yn benodol ynglŷn â hyn, mae’n rhywbeth y byddwn yn fwy na pharod i fynd ar ei...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Ynys Môn am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Cefnogir yr ymrwymiad gan gyllid ar gyfer offer ac addasiadau lle y bo’n briodol.
Carl Sargeant: Data is collected across communities’ programmes in order to measure performance and outcomes. We are particularly focusing on measurable improvements in outcomes for people, including in Communities for Work and Lift.
Carl Sargeant: Our package of support makes clear our commitment to supporting armed forces veterans in Wales.
Carl Sargeant: I have had discussions with the UK prisons’ Minister regarding the proposed site for development of a new prison at Port Talbot. My officials are also working with Ministry of Justice officials regarding this proposal.
Carl Sargeant: We support the work of the third sector across all our communities, providing over £6 million funding for 2017/18 for county voluntary councils across Wales and the Wales Council for Voluntary Action. This ensures help is available to local organisations, focusing on fundraising, good governance and placing volunteers.
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am arwain y ddadl hon heddiw. Ceir cydnabyddiaeth glir o’r manteision y gall undebau credyd eu dwyn i unigolion a chymunedau. Mae undebau credyd mewn sefyllfa ddelfrydol, drwy eu perthynas ag awdurdodau lleol, cyflogwyr lleol, ysgolion a sefydliadau cymunedol, i helpu i gryfhau cadernid ariannol cymunedau drwy wella mynediad at gredyd...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r adroddiad a diolch i’r pwyllgor am yr ymchwiliad. Yn sicr, mae wedi helpu i symud y dull gweithredu ei flaen. Yn ystod yr ymchwiliad, clywodd y pwyllgor gan ddarparwyr a Chomisiynydd Plant Cymru ynglŷn â phwysigrwydd eiriolaeth ac ategaf eu teimladau. Mae’n rhaid i’n plant ifanc a’n pobl ifanc, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed,...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. Ceisiaf ymdrin yn fanwl â phob un ar wahân. Rwy'n cydnabod bod yr Aelod wedi defnyddio’r ffigurau—rwy’n tybio o’r ffigurau gan a roddwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydym wedi edrych ar y rheini’n ofalus iawn ar sail yr hyn a oedd wedi'i gynnwys yn y niferoedd. Roedd y ffigurau a ryddhawyd yn wallus wrth adrodd fel hyn, ac nid oes unrhyw fai ar yr...
Carl Sargeant: Yn sicr rwyf yn cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr Aelod. Ac mae'n peri pryder i mi bod nid yn unig diffoddwyr tân a chymunedau yn cael eu rhoi mewn perygl, ond mae lles anifeiliaid yn cael ei beryglu hefyd, a chymunedau yn cael eu rhoi mewn perygl gan y weithred anghymdeithasol o gynnau tân yn ein cymunedau. Mae'r ymgyrch sydd wedi dod â’r holl asiantaethau ynghyd wedi cael cryn...
Carl Sargeant: Wel, mae’r Aelod yn iawn i godi mater y tanau hyn—nifer ohonyn nhw dros y penwythnos. Rydym wedi gweithio gyda'r gwasanaeth tân, yr heddlu, awdurdodau lleol, Adnoddau Naturiol Cymru ac eraill er mwyn sefydlu dull o weithredu cydlynol a strategol ar gyfer atal ac ymateb i danau glaswellt. Mae’r ffigurau dechreuol yn dangos bod y dull hwn, gan weithio gyda phartneriaid, wedi bod yn...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy'n gweld bai mawr ar y rhai sy'n cychwyn tanau glaswellt. Maen nhw’n distrywio ein cymuned, ein hamgylchedd, ac yn peri dychryn yn ein cymunedau, gan beryglu ein diffoddwyr tân. Rydym wedi lleihau nifer y tanau glaswellt yn sylweddol, ond rwyf yn gobeithio gweld y sefyllfa yn parhau eleni.
Carl Sargeant: Dyna gwestiynau da iawn gan yr Aelod, ond rwy’n gobeithio bod ei ymweliadau â’r carchar yr un fath â fy rhai i, drwy fynedfa’r ymwelwyr, er mwyn iddo allu gadael. Ond proses bwysig. Nid wyf wedi cael y manylion, a chefais sgwrs gyda Sam Gyimah AS ddoe a oedd yn brin o fanylion, gan fod yn rhaid gweithio ar y pethau hyn, ond yr hyn y byddwn yn awgrymu yw bod y model, er yn ddadleuol ar...