Lynne Neagle: 6. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o oblygiadau Brexit i GIG Cymru? OAQ54797
Lynne Neagle: Diolch. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Cynulliad o bob ochr i'r Siambr sydd wedi cefnogi'r digwyddiad a gynhaliwyd heddiw i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas a'r rheini a gyflwynodd y ddadl hon ar y cyd. Rwy'n falch iawn y bydd Cadeirydd y pwyllgor iechyd, Dr Dai Lloyd, yn cloi'r ddadl heddiw. Gwn y bydd Dai yn lleisio'r pryderon sydd gan lawer ohonom am y modd y dynodir gwahanol...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelodau Cynulliad ar draws—
Lynne Neagle: Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i wella cymorth iechyd meddwl i ddysgwyr mewn addysg bellach?
Lynne Neagle: Diolch am eich ateb, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod yr angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy o ran gwariant ataliol wedi bod yn thema gyson yng ngwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o graffu ar y gyllideb, ac yn wir, yng ngwaith craffu'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Ac mae'r ffigurau y cyfeirioch chi atynt—a chlywais eich ateb i Llyr Gruffydd hefyd—yn...
Lynne Neagle: 5. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn bwriadu eu cymryd i sicrhau bod cyllideb arfaethedig Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu gwariant ataliol? OAQ54726
Lynne Neagle: Wrth gwrs, rydym i gyd yn cytuno ein bod yn awyddus i weld gostyngiad diogel yn niferoedd y plant sy'n cael eu derbyn i'r system ofal. Ond mae gwahaniaethau sylweddol yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â hynny, ac rwy'n siŵr eich bod chi'n ymwybodol bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon sylweddol ynghylch presenoldeb targed o ran niferoedd. Ac, mewn gwirionedd,...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Gweinidog. Roeddwn i'n falch iawn o gael ymweld â'r ganolfan cymorth ACE sef Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod yr wythnos diwethaf a chyfarfod â'r tîm bychan yn y fan honno sy'n gwneud gwaith mor bwysig a thrawsnewidiol i sicrhau bod ymwybyddiaeth dda o ymarfer sy'n rhoi ystyriaeth i drawma yng Nghymru. Serch hynny, rwy'n ymwybodol iawn bod y cyllid ar gyfer y ganolfan yn...
Lynne Neagle: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Canolfan Gymorth ACE yng Nghymru? OAQ54703
Lynne Neagle: Diolch am eich ateb clir iawn, Weinidog. Mae'n gwbl amlwg fod y cytundeb ymadael diweddaraf yn arwydd o wanychu pellach ar ymrwymiad Llywodraeth y DU tuag at hawliau gweithwyr. Mae Frances O'Grady, ysgrifennydd Cyngres yr Undebau Llafur, wedi dweud: Byddai'r cytundeb hwn yn drychineb i weithwyr. Byddai’n ergyd i'r economi, yn arwain at golli swyddi ac yn troi cefn ar hawliau gweithwyr. A...
Lynne Neagle: 8. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y cytundeb ymadael diweddaraf ar hawliau gweithwyr yng Nghymru? OAQ54615
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiolrwydd Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008?
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Cynhaliwyd cyfarfod sylweddol cyntaf y grŵp trawsbleidiol newydd ar atal hunanladdiad gennym yn ddiweddar, gan ganolbwyntio ar brofedigaeth yn sgil hunanladdiad. Cawsom gyflwyniad grymus iawn gan Angela Samata, ar sut y datblygwyd, gan weithio gyda'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth yn sgil hunanladdiad, amrywiaeth o brosiectau arloesol yn Lloegr, i gefnogi'r rhai...
Lynne Neagle: 2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwella'r cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru ? OAQ54616
Lynne Neagle: Yn hollol. Rwy'n credu bod hynny wedi'i dderbyn—ei fod yn ymwneud â chyllido ysgolion, cost rhedeg ysgol, cost addysgu disgyblion unigol a chost y diwygiadau hefyd. A gaf fi ddiolch i David Rowlands am ei gefnogaeth i adroddiad y pwyllgor? Cododd David fater cyllid uniongyrchol i ysgolion, fel y gwnaeth Alun Davies. Fel y nododd y Gweinidog, ceir safbwyntiau amrywiol iawn ar hynny. Cawsom...
Lynne Neagle: Diolch, Siân. Roeddwn yn mynd i barhau i ddweud eich bod wedi gwneud y pwynt yn eich araith nad oeddech yn credu y dylai'r adolygiad fod yn rheswm dros aros cyn rhoi mwy o adnoddau tuag at addysg, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac rwy'n siŵr bod y Gweinidog hefyd yn cytuno â hynny. Nid oes unrhyw reswm dros aros. Pwrpas yr adolygiad, a amlygwyd hefyd gan Dawn Bowden, yw fod y pwyllgor...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma a diolch i'r Gweinidog am ei chyfraniadau? Fe geisiaf ymateb i rai o'r pwyntiau a wnaeth yr Aelodau yn y ddadl. Suzy Davies, yn amlwg, fe gefnogoch chi ragosodiad yr adroddiad. Bu ychydig o anghydweld ynghylch faint o arian sydd gennym yn dod i ni yng Nghymru. Fy nealltwriaeth i yw ei fod...
Lynne Neagle: Addysg dda yw un o'r blociau adeiladu pwysicaf y gall plentyn ei gael. Fodd bynnag, yn llawer rhy aml clywn am y pwysau enfawr y mae ysgolion yn ei wynebu wrth geisio rheoli eu cyllidebau lle nad yw'r cyllid a gânt yn ddigonol. Mae hyn yn amlwg yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth addysg, gan gynnwys ysgolion yn gorfod cwtogi ar nifer y staff er mwyn mantoli eu cyllidebau. Roedd...
Lynne Neagle: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllido ysgolion yng Nghymru. Mae mynediad at addysg o ansawdd uchel yn hawl sylfaenol i'n plant a'n pobl ifanc i gyd. Ni ddylai ddibynnu ar ble rydych yn byw, eich cefndir cymdeithasol na'r iaith rydych yn dysgu ynddi.
Lynne Neagle: Weinidog, bûm yn lleisio pryderon wrthych am y broses gyllido cleifion unigol drwy gydol eich amser fel Gweinidog. Bûm yn gwneud yr un peth â'ch rhagflaenydd a'r un peth gyda'i ragflaenydd yntau hefyd. Mae gan fy etholwr, Gemma Williams, mam ifanc â dau o blant ifanc, ganser y fron cam 3. Mae ei honcolegydd yn awyddus i'w thrin gyda Kadcyla i atal y clefyd rhag gwaethygu. Fel y rhan fwyaf...