Canlyniadau 301–320 o 4000 ar gyfer speaker:Vaughan Gething

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau (28 Meh 2022)

Vaughan Gething: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am bolisi Llywodraeth y DU ar reolaethau ffiniau ar gyfer Prydain Fawr, y goblygiadau i Gymru a'n hamcanion allweddol fel Llywodraeth. Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU dros Gyfleoedd Brexit ac Effeithlonrwydd y Llywodraeth, Jacob Rees-Mogg AS, mewn datganiad gweinidogol ysgrifenedig ar 28 Ebrill...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi'r Nos yng Ngorllewin De Cymru (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Rwy'n credu bod y cliw yn y geiriau 'troseddau busnes'. Nid yw troseddu a'r system cyfiawnder troseddol wedi'u datganoli i'r lle hwn, neu ddim eto, o leiaf. Felly, bydd angen inni ymgysylltu ag asiantaethau'r DU. Rydym yn gweithio'n rheolaidd gyda heddluoedd, oherwydd mae heddluoedd yn cydnabod bod angen iddynt ymgysylltu'n rhagweithiol ag asiantaethau datganoledig a Llywodraeth Cymru mewn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Economi'r Nos yng Ngorllewin De Cymru (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr lletygarwch, twristiaeth, digwyddiadau ac economi'r nos drwy'r fforwm economi ymwelwyr. Sefydlwyd y fforwm i drafod amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r cyfleoedd a'r heriau sy'n wynebu'r sector. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â hwy yr wythnos nesaf.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Busnesau yn Sir Benfro (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Wel, mewn gwirionedd, roedd datblygu'r gwesty yn rhywbeth a drafodwyd mewn cyfarfod yn gynharach heddiw gyda swyddogion, wrth edrych ar arallgyfeirio'r economi, nid yn unig yng ngorllewin Cymru, ond rhai o'r heriau sy'n gysylltiedig â buddsoddi mewn porthladdoedd hefyd, oherwydd ceir cyfleoedd ar gyfer buddsoddi mewn porthladdoedd hefyd. Felly, rydym yn edrych ar yr hyn y mae hynny'n ei...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Busnesau yn Sir Benfro (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Diolch. Ein blaenoriaethau o hyd yw cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes drwy wasanaethau Busnes Cymru a'r tîm cymorth rhanbarthol. Rydym wedi darparu cefnogaeth helaeth drwy'r pandemig a'r realiti masnachu ar ôl Brexit. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu economi wyrddach, fwy cyfartal a ffyniannus i bob rhan o Gymru.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Strategaeth Ofod Genedlaethol (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Ydw, yn sicr. Cofiaf y sylwadau a wnaed gan y tsar symudedd cymdeithasol, a rhaid imi ddweud nad yw nifer o'r sylwadau y mae wedi'u gwneud yn ymddangos yn arbennig o ddefnyddiol, hyd y gwelaf i, ar gyfer creu symudedd a chynhwysiant cymdeithasol gwirioneddol. Mae consortiwm Ein Gofod, Ein Dyfodol yn enghraifft dda iawn o gydweithio o'r radd flaenaf sydd wedi'i ariannu, er enghraifft, drwy...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Strategaeth Ofod Genedlaethol (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Gwnaf. Ers i mi lansio 'Cymru: gwlad ofod gynaliadwy' ym mis Chwefror eleni, mae Gofod Cymru wedi bod yn datblygu fel sefydliad, dan oruchwyliaeth ein corff partner, Awyrofod Cymru. Mae gweithgorau wedi'u sefydlu i fanteisio ar gyfleoedd penodol, gan gynnwys y cyflymydd gofod cynaliadwy a chymhwyso gweithgynhyrchu uwch i'r sector gofod.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cyflogadwyedd a Sgiliau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Fel bob amser, mae gennym her mewn perthynas â chynlluniau cymhorthdal cyflog cyffredinol ar draws y sector cyfan. Mewn gwirionedd, yn fy nhrafodaethau gyda phobl yn yr economi ymwelwyr—ac rwy'n cyfarfod â'r grŵp economi ymwelwyr yr wythnos nesaf—maent yn tynnu sylw'n rheolaidd at y ffaith bod ganddynt her o ran sgiliau yn y sector, ond maent hefyd yn tynnu sylw at y ffaith bod...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cyflogadwyedd a Sgiliau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch o ddweud bod y rhaglen ReAct+ newydd yn darparu cymorth personol i bobl sy'n wynebu rhwystrau i gyflogaeth. Felly, mae mynd â'r gwasanaeth gam ymhellach a rhoi cymorth i hyfforddi unigolion i mewn i waith yn rhan o'r hyn y disgwyliwn iddo ei gyflawni. Yn fwy penodol, yn ddiweddar cyfarfûm ag Anabledd Dysgu Cymru, sy'n cynrychioli'r sector anabledd dysgu,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cyflogadwyedd a Sgiliau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Gwnaf. Rydym yn gwneud cynnydd da ac rydym eisoes wedi gweithredu nifer o gamau gweithredu allweddol yng nghynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys lansio Twf Swyddi Cymru+ yn llwyddiannus a lansiad mwy diweddar ReAct+.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Strategaeth Economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Wel, bu heriau gwirioneddol yn y sector adeiladu, ac mae Dawnus ac eraill wedi dioddef trallod gwirioneddol yn sgil hynny. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, cafwyd diwydrwydd dyladwy priodol mewn perthynas â'r holl benodiadau, ac nid oes gennyf unrhyw reswm dros gefnogi'r honiadau a'r ymosodiadau a wneir, drwy ensyniadau, yn sylwadau'r Aelod. Os oes ganddi dystiolaeth wirioneddol am yr unigolyn, ac...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Strategaeth Economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Gallaf gadarnhau'r gyllideb honno. Mae heriau, fel y gŵyr yr Aelod, gyda'n hamlen ariannol ehangach, ond rydym yn dal i ddisgwyl y byddwn yn gallu gwario'r arian hwnnw ar ddatblygu a darparu Cymoedd Technegol, sydd, hyd y gwelaf, yn gatalydd ar gyfer datblygiad ehangach yn ardal Blaenau'r Cymoedd. Gwn fod rhai pryderon ynglŷn ag a fyddai'r arian hwnnw'n cael ei wastraffu. Mewn gwirionedd,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Strategaeth Economaidd ar gyfer Blaenau'r Cymoedd (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a bargen ddinesig Caerdydd i gyd-ddatblygu rhaglen o ymyriadau economaidd a fydd yn cryfhau’r economi ym Mlaenau’r Cymoedd a’r cyffiniau.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Llwyddiant Cwmni Egino (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Nid wyf yn cytuno ag asesiad yr Aelod nad oes unrhyw ddyfodol i adweithyddion modiwlar bach yn Nhrawsfynydd. Serch hynny, rydym hefyd wedi bod yn edrych nid yn unig ar bosibiliadau adweithyddion modiwlar bach, ond mewn gwirionedd, ar yr angen gwirioneddol am y potensial ar gyfer ymchwil, ac yn wir, cynhyrchu radioisotopau, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol ar gyfer ystod o feysydd yn ein...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Llwyddiant Cwmni Egino (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Diolch. Yn y pen draw, bydd llwyddiant hirdymor Cwmni Egino yn dibynnu ar wireddu prosiectau allweddol ar safle Trawsfynydd sy'n sicrhau manteision lleol. Bydd y rhain yn cael eu hasesu drwy fframwaith buddion cymunedol a fydd yn cael ei ddatblygu dros y 12 mis nesaf mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol o dan siarter gwerth cymdeithasol y cwmni. Mae hyn oll, wrth gwrs, yn dibynnu ar...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Credaf y byddwn yn awyddus i edrych ar y modelau hyblygrwydd sy'n bodoli a sut y gallant fod o fudd i weithwyr a busnesau. A dweud y gwir, yn ystod yr amgylchiadau gorfodol dros y ddwy flynedd ddiwethaf a mwy, canfuom fod gweithio hyblyg wedi gweddu i lawer o weithwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac mae hynny wedi gwneud—. Rhai o’r pryderon blaenorol ynghylch gweithio hyblyg oedd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Nid wyf yn cydnabod hynny o gwbl, ac rwy’n siarad fel rhywun sydd nid yn unig yn aelod o undebau llafur, ond rhywun a fu'n stiward llawr gwaith yn y gweithle, yn cynrychioli fy nghydweithwyr, rhywun sydd wedi bod yn gyfreithiwr undeb llafur, yn cynrychioli gweithwyr ym mhob rhan o’n heconomi, ac yn falch o wneud hynny, ac yn gyn-lywydd TUC Cymru. Fe welwch aelodau balch o undebau llafur...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Rwy’n fwy na pharod i roi sicrwydd i’r Aelod y bydd y strategaeth newydd, a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, yn canolbwyntio eto ar y modd y cynhyrchwn fuddion economaidd yn sgil fy mlaenoriaethau ar gyfer mwy o swyddi a swyddi gwell ledled Cymru, ac mae'r economi ymwelwyr a chyfleoedd cyflogaeth sy'n seiliedig ar ddigwyddiadau yn rhan o hynny hefyd. Bydd hefyd yn nodi'n glir iawn ei...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Mae’r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y cyfleoedd a ddaw yn sgil y digwyddiad WWE. P'un a oeddech yn cefnogi'r byd adloniant chwaraeon yn blentyn neu wedi parhau i gefnogi—. Rwy'n credu y byddent yn cydnabod nad yw’n gamp wirioneddol yn y ffordd y byddem yn ei chydnabod, ond mewn gwirionedd, mae’n ddigwyddiad ac yn gyfle economaidd enfawr i Gymru oherwydd y cyrhaeddiad sylweddol sydd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Meh 2022)

Vaughan Gething: Credaf fod yr Aelod yn iawn i nodi bod effaith digwyddiadau mawr a’u gwariant nid yn unig ar y digwyddiadau eu hunain, ond o’u cwmpas hefyd, yn rhywbeth yr ydym eisoes yn canolbwyntio arno yn ein strategaeth digwyddiadau ac ymwelwyr rhyngwladol, yn ogystal â'r hyn y bwriadwn ei wneud yn fwy cyffredinol ac mewn mannau eraill—felly, nid yn unig yng Nghaerdydd ac Abertawe, ond ledled...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.