Canlyniadau 301–320 o 10000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies OR speaker:Andrew RT Davies

3. Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 (12 Mai 2021)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy eich llongyfarch ar fod yn Llywydd y chweched tymor seneddol, a hefyd David Rees ar fod yn Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r ddau Aelod arall o'r Senedd a sicrhaodd fod pleidlais yn digwydd, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gweithredu democrataidd yn gosod y cywair o ran sut rydym am i'r trafodion hyn fynd rhagddynt yr holl ffordd...

1. Teyrngedau i'w Uchelder Brenhinol Dug Caeredin (12 Ebr 2021)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd. Rwy'n siŵr na fyddai yr un ohonom yn dymuno bod yma heddiw, ond mae'n wirioneddol briodol ein bod yn talu teyrnged i Ddug Caeredin ar achlysur trasig ei farwolaeth. Byddai'n llawer gwell gennym ni fod yn ymgyrchu'n frwd, rwy'n siŵr, a Dug Caeredin, yn amlwg, yn dal gydag Ei Mawrhydi y Frenhines, yn ei chefnogi yn ei swydd fel y gwnaeth am gynifer o flynyddoedd a...

21. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Dyfodol Cymru (24 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a chyn imi ddechrau a gwneud y cynnig yn ffurfiol, a gaf fi gofnodi fy niolch i chi fel Dirprwy Lywydd, gan mai dyma'r ddadl olaf, am y gwasanaeth rydych wedi'i roi i'r Cynulliad, yn rhinwedd eich swydd fel yr Aelod dros Ddyffryn Clwyd, ond hefyd yn eich rôl fel Cadeirydd gwahanol bwyllgorau ac yn awr fel Dirprwy Lywydd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf? Mae bob...

21. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Dyfodol Cymru (24 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Rwy'n gwneud y cynnig sydd ar y papur trefn heddiw yn ffurfiol yn enw Mark Isherwood. Rwyf am ymdrin â'r gwelliannau i ddechrau, os caf. Mae'n amlwg na fyddwn yn derbyn gwelliant 1, sydd, yn ôl arfer yr hen Lywodraeth, yn un 'dileu popeth a rhoi hunanganmoliaeth i'r Llywodraeth a'i hamser mewn grym yn ei le', sydd, a dweud y gwir, os edrychwch ar y ffordd y mae pethau'n edrych ar hyn o bryd...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: COVID-19: Flwyddyn yn Ddiweddarach (23 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r teimladau a fynegwyd yn y datganiad hwn. Flwyddyn i heddiw, yn amlwg, fe osodwyd y cyfyngiadau cyntaf arnom ni, a phrin iawn y gellir dychmygu maint y drasiedi sydd wedi digwydd i 7,000 a mwy o deuluoedd oherwydd colli aelod annwyl o'u teulu, ac mae'r cariad a'r cydymdeimlad sy'n cael eu harddangos gan y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (23 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Sylwais na wnaethoch chi gadarnhau pa un a oedd profion yn y maes awyr. O'r bore yma, mae 45 o bobl wedi archebu lle ar hyn o bryd i hedfan i Gaerdydd o Alicante ddydd Iau, a 32 o bobl i hedfan y ffordd arall. Yn amlwg, mae'r penderfyniadau cytbwys a fydd yn cael eu gwneud ar y map ffyrdd gan San Steffan yn seiliedig ar yr adroddiad a fydd ar gael ar deithio rhyngwladol ar 12 Ebrill. Felly,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (23 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Prif Weinidog, ni all fod yn iawn, gyda'r drydedd don bresennol yn mynd drwy Ewrop, fel yr ydym ni'n ei weld, yn drasig, y gallwch chi hedfan o Gaerdydd yn haws nag y gallwch chi deithio, fel y dywedais, i Aberystwyth. Roeddwn i, y bore yma, er enghraifft, yn gallu prynu tocyn ar gyfer dydd Iau i hedfan allan o Faes Awyr Caerdydd, lle nad wyf i'n credu bod gwesty cwarantîn yn bodoli na...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (23 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Iawn, Prif Weinidog. Mae'n ddrwg gen i am hynna. Pam mae'n haws hedfan o Gaerdydd i Alicante nag yw hi i yrru i Aberystwyth ar hyn o bryd yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (23 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd, a, gyda'ch caniatâd, gan mai dyma'r cwestiynau olaf i'r Prif Weinidog yn y Senedd ar gyfer y sesiwn hon, hoffwn fyfyrio am eiliad ar y drasiedi y mae teuluoedd wedi bod drwyddi dros argyfwng COVID yr ydym ni newydd ei gweld y tu ôl i ni dros y 12 mis diwethaf. Mae colli rhywun annwyl yn ddifesur, ac mae'r galar y mae'n rhaid bod teuluoedd yn ei deimlo ledled Cymru gyfan yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (16 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n synnu braidd at y pwysigrwydd y gwnaethoch chi ei neilltuo i'r cynllun rheoli coronafeirws yn y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf, oherwydd cadarnhaodd y Gweinidog iechyd nad oedd cydymffurfiad â'r cynllun, fel y'i lluniwyd, wrth ystyried y cynlluniau a gyhoeddwyd gennych chi ddydd Gwener, a chyfeiriodd y Dirprwy Weinidog at y diweddariad hwnnw, yr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (16 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog. Ac rwy'n croesawu'r sylwadau cadarnhaol hynny, er gwaethaf y negyddoldeb sy'n dod o wledydd eraill, a gobeithio y gallwn ni ddychwelyd, yn y gwledydd hynny, at broses frechu arferol, oherwydd, fel y dywedais, oni bai ein bod ni i gyd yn glynu wrth y rhaglen frechu, byddwn ni i gyd yn dioddef cyfyngiadau symud yn y dyfodol, fel yr ydym ni'n eu gweld mewn gwledydd ledled...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (16 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd, ac rwy'n cysylltu fy hun â sylwadau arweinyddion eraill yn y fan yma y prynhawn yma wrth fyfyrio ar ben-blwydd y farwolaeth COVID gyntaf yng Nghymru. Pwy fyddai wedi meddwl, 12 mis yn ddiweddarach, y byddem ni'n dal i fod yn gweld mwy o farwolaethau trasig yn cael eu hadrodd o COVID, ac yn parhau i fynd drwy'r cyfyngiadau sy'n cael eu gosod ar ein bywydau bob dydd? Hoffwn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 9 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Wrth sôn am gymorth, Prif Weinidog, mae dydd Gwener yn ddiwrnod nodedig, gyda'r adolygiad diweddaraf o gyfyngiadau symud yma yng Nghymru. Mae eich Gweinidog iechyd a llesiant meddwl wedi dweud, gyda'r cyfyngiadau symud a phobl yng Nghymru, os byddwch chi'n rhoi modfedd, y byddan nhw'n cymryd milltir. A gaf i wirio yn gyntaf ai dyma eich asesiad chi? A ydych chi'n cytuno â hi? Neu a ydych...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 9 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Rwy'n cytuno â chi, Prif Weinidog; mae Liberty Steel yn gwmni pwysig yma yng Nghymru, a dyna'r rheswm am y cwestiwn. Mae'n bwysig deall pa gymorth ariannol a roddwyd ar gael i Liberty Steel yn y gorffennol ac a yw'r cwmni wedi gofyn am unrhyw gymorth ychwanegol, o ystyried eich bod chi wedi cyfeirio at lythyr yn cael ei anfon gan y cwmni at Weinidog yr economi, i sicrhau ei weithrediadau yng...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 9 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, beth yw eich barn chi am y sefyllfa yn ymwneud â Liberty Steel a'i gwmnïau cysylltiedig, a'i effaith debygol ar swyddi yma yng Nghymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 2 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Wel, mae gennym ni Capten Ôl-ddoethineb yn San Steffan a'r Athro Gwneud Ychydig i lawr yma yn y bae, nad yw'n barod i wneud unrhyw beth gyda'r pwerau sydd ganddo i helpu teuluoedd sydd o dan bwysau ar hyd a lled Cymru. Un cam y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig, serch hynny, yw cyflwyno parthau perygl nitradau. Dim ond yr wythnos diwethaf, soniodd eich arweinydd yn San Steffan am gynorthwyo...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 2 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Prif Weinidog. Wrth ymgyrchu i fod yn arweinydd y blaid Lafur, addawodd Keir Starmer i wrthdroi toriadau'r Torïaid i'r dreth gorfforaeth a dywedodd na fyddai unrhyw gamu yn ôl o egwyddorion craidd Llafur. Yr wythnos hon, dywedodd Keir Starmer ei fod yn gwrthwynebu cynnydd i'r dreth gorfforaeth. Pa safbwynt ydych chi'n ei gefnogi, Prif Weinidog?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 2 Maw 2021)

Andrew RT Davies: Wel, rwy'n rhyfeddu at yr ateb yna, oherwydd rydych chi'n treulio wythnos ar ôl wythnos yn trafod pwyntiau nad oes gennych chi gyfrifoldeb amdanyn nhw. Ond un maes y mae gennych chi gyfrifoldeb amdano yw'r dreth gyngor, Prif Weinidog, a cheir swm enfawr o gyllid canlyniadol sydd wedi dod i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU—gwerth £5.8 biliwn o gymorth. Mae argyfwng costau byw yn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (23 Chw 2021)

Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad os gwelwch yn dda gan y Gweinidog cynllunio ynglŷn â chanllawiau sydd wedi dod gan Cyfoeth Naturiol Cymru at awdurdodau cynllunio yng Nghymru ynghylch ffosffadau a'r cyfrifiadau y mae angen i awdurdodau cynllunio eu defnyddio wrth benderfynu ar geisiadau pan ddaw'n fater o ffosffadau ar dir ac mewn prosiectau adeiladu? Rwy'n cael fy arwain i gredu bod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (23 Chw 2021)

Andrew RT Davies: Prif Weinidog, rydych chi wedi mabwysiadu eich tôn nawddoglyd arferol. Efallai mai chi yw'r athro yn y Bae, ond chi yw'r athro heb gynllun allan o'r cyfyngiadau symud ac mae hynny yn broblem wirioneddol i'r economi ac i blant ysgol ar hyd a lled Cymru. Yr hyn y gallwch chi ei wneud gyda'r pwerau sydd ar gael i chi yw rhoi rhywfaint o gymorth i fusnesau drwy ymestyn y cynllun rhyddhad...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.