Janet Finch-Saunders: —ar gyfer cyllid yng nghenedlaethau'r dyfodol. Pleidleisiwch yn erbyn hyn heddiw, newidiwch Lywodraeth Cymru yfory, ac yn sicr fe gaiff pob un ohonom ddyfodol llawer gwell a mwy disglair.
Janet Finch-Saunders: Gan mai chi sy'n gofyn, gwnaf.
Janet Finch-Saunders: Yn y pen draw, dylem geisio rhoi cyfle cyfartal i bobl, gan eu helpu i ddod o hyd i waith, a hybu potensial pawb, nid dweud, 'Wyddoch chi beth, fe fyddwn yn wladwriaeth faldodus ac fe rown arian i chi beth bynnag.' Ble mae'r cymhelliad i unrhyw un feddwl y gallant fod yn greadigol? Mae wedi mynd. Ond eto, ble roeddent pan gawsant fandad ar ôl mandad i ddatrys y problemau yr ydym i gyd yn...
Janet Finch-Saunders: Wel, cawsom ddatganoli ers 24 mlynedd, gyda Llafur, a Phlaid Cymru yn eu cynnal. Dyna lle'r aeth o'i le.
Janet Finch-Saunders: Nac ydw. Byth. Ni welaf Gymru annibynnol—
Janet Finch-Saunders: Ein hacademyddion—[Torri ar draws.] Allforiodd ein hacademyddion syniadau rhyddfrydiaeth ac ideoleg geidwadol, gan ymladd dros hawliau eiddo tir, hunanbenderfyniad crefyddol a chydnabyddiaeth ddiwylliannol a threftadaeth, a'r hawl i siarad mamiaith y genedl. Ni wnaethom gyflawni hyn drwy demilad o hawl, na thrwy'r syniad fod rhywbeth yn ddyledus i ni fel pobl. Fe wnaethom ddyfalbarhau...
Janet Finch-Saunders: Diolch am y cyfraniad hwnnw, ond bydd yn rhaid inni anghytuno. O'm rhan i, rydych wedi gwneud cam â phobl Cymru mewn perthynas â Deddf aer glân. Mae gennym y lefelau tlodi uchaf erioed ymhlith babanod a phlant a lefelau isel o fuddsoddiad yn ein trefi a'n dinasoedd. Mae draen dawn wedi lledu ar draws y wlad, gan adael ein diwydiannau, ein gwasanaeth sifil a'n hysbytai yn brin o staff a...
Janet Finch-Saunders: Er gwaethaf yr holl gwyno yma ynghylch pa mor brin o arian ydych chi gan Lywodraeth y DU, y mis diwethaf, ar gost o £20 miliwn, cyhoeddwyd y byddai tua 500 o bobl sy'n gadael gofal yng Nghymru bellach yn cael swm penodol o arian: £1,600 bob mis am ddwy flynedd, yn yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn cyfeirio ato fel arbrawf radical. Nid ydym fis i mewn i'r gofynion hyn hyd yn oed ac maent...
Janet Finch-Saunders: Rydym wedi cael £8.4 biliwn yn ystod y pandemig.
Janet Finch-Saunders: Byddaf yn cyfeirio'r Aelodau at fy ffurflen datgan buddiant fy hun o ran perchnogaeth eiddo. Diolch. Fe wnaf i ddechrau drwy gyfeirio at ddarpariaethau sylfaenol tenantiaethau cymdeithasau tai. Nawr, er fy mod yn nodi nad oedd unrhyw faterion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, rydw i’n eithaf siomedig na fu llawer o ymgynghori â'n cymdeithasau...
Janet Finch-Saunders: Ar nodyn llawer ysgafnach o optimistiaeth, hoffwn gytuno â nodau craidd Cwmni Egino, sef helpu i fanteisio ar fuddion economaidd adweithyddion modiwlaidd bach a thechnolegau cysylltiedig yn Nhrawsfynydd. Nawr, efallai eich bod yn ymwybodol, Prif Weinidog, fy mod wedi bod yn amheus ynghylch cynnydd hyn. Fe'i cyhoeddwyd ar 30 Medi 2020, ac eto, ni osodwyd targedau cerrig milltir ymarferol ar...
Janet Finch-Saunders: Da iawn. [Chwerthin.] Mae ein hundeb o bedair gwlad yn ymgymryd â thasg aruthrol ar hyn o bryd wrth geisio diogelu dyfodol ein plant rhag grymoedd Rwsia sy'n ymosod ar Wcráin. Rydym wedi teimlo difrifoldeb y rhyfel ym mhob cartref yma yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud hynny hyd nes y caiff Putin ei hel ymaith. Mae canlyniadau'r rhyfel wedi gwaethygu argyfwng costau byw a diogeledd...
Janet Finch-Saunders: 2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth yr Alban ynghylch y goblygiadau i Gymru o'r penderfyniad i geisio dyfarniad Goruchaf Lys ar gyfreithlondeb cynnal refferendwm newydd ar annibyniaeth i'r Alban? OQ58323
Janet Finch-Saunders: Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i roi i Lywodraeth Cymru ar y camau y gallai eu cymryd i fynd i'r afael â throseddau gwledig?
Janet Finch-Saunders: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddiogelu hawliau pobl hŷn?
Janet Finch-Saunders: Diolch. Wel, yn wahanol i'r hyn a ddywed fy nghyd-Aelod mewn perthynas â pha mor dda yw Llywodraeth y DU wrth ddyrannu arian, mae Llywodraeth Cymru, yn sicr yn fy nghyfnod i—rwyf wedi bod yma ers 11 mlynedd—a chyn hynny, ers datganoli, wedi gwastraffu miliynau a miliynau o bunnoedd: £221 miliwn ar ardaloedd menter anghystadleuol; £9.3 miliwn ar gyllid cychwynnol diffygiol—[Torri ar...
Janet Finch-Saunders: 6. Pa strwythurau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i fonitro'r defnydd o arian grant a ddyfernir i brosiectau yng Nghymru? OQ58252
Janet Finch-Saunders: Diolch, Dirprwy Lywydd. Wrth gwrs, mae'n anodd sylweddoli, Gweinidog, on'd yw hi, bum mlynedd yn ddiweddarach wedi trasiedi Grenfell, fod trigolion yng Nghymru yn dal i wynebu baich ariannol cladin a risgiau diogelwch tân eraill, oherwydd, rwy'n credu, weithiau, mae'r agenda newydd fod yn sôn am gladin, ac rydych chi wedi tynnu sylw'n briodol at y ffaith bod agweddau eraill ar rai adeiladau...
Janet Finch-Saunders: Mae prisiau gwrtaith, tanwydd ac, wrth gwrs, porthiant yn cynyddu, ac maen nhw'n poeni'n fawr y gallai fod prinder porthiant aruthrol dros y gaeaf. Felly, pa gefnogaeth a pha ddeialog sy'n dod gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ein ffermwyr, sy'n amlwg yn poeni—[Torri ar draws.] Mae'n swnio fel bod gennyf adlais—am hyn? Diolch.
Janet Finch-Saunders: A gaf i ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, Trefnydd? Mae un ar COVID hir. Amcangyfrifir bod tua 30 y cant o'r rhai a gafodd COVID-19 yn y DU bellach yn dioddef o COVID-19 hir. Yn wir, mae nifer o bobl sy'n bryderus iawn wedi cysylltu â mi yn fy swyddfa'n ddiweddar oherwydd na allan nhw ddod o hyd i wasanaethau. Yn fy mwrdd iechyd fy hun, Betsi Cadwaladr, maen nhw wedi addo darparu ystod o...