Sioned Williams: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch strategaeth y Llywodraeth i daclo creulondeb at anifeiliaid yng Ngorllewin De Cymru? OQ57190
Sioned Williams: —rydym eisiau i'n merched dyfu i fyny ynddi heb ofn. Geilw hyn am fyw na lliniaru risgiau; rhaid anelu at bolisi i ddileu'r risgiau hynny'n gyfan gwbl. Diolch.
Sioned Williams: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch hefyd o siarad yn y ddadl bwysig hon, oherwydd mae hwn yn fater sydd, yn llythrennol, yn fy nghadw'n effro yn y nos oherwydd bod gennyf ferch 19 oed. Mae'n dweud wrthyf, bob tro y bydd yn mynd allan i far neu glwb, neu i barti yn nhŷ myfyriwr arall, ei bod yn ymwybodol, yn anffodus, fod yn rhaid iddi geisio diogelu ei hun a'i ffrindiau rhag iddynt gael eu...
Sioned Williams: Weinidog, mae cwm Tawe yn ardal o bwysigrwydd ieithyddol. Yn gynt eleni, mewn ymateb i bryderon gan ymgyrchwyr ac arbenigwyr iaith, fe wnaethoch chi gydnabod bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot heb ystyried yn iawn effaith eu cynlluniau i godi ysgol enfawr cyfrwng Saesneg newydd yng nghanol y cwm ym Mhontardawe ar y Gymraeg drwy gomisiynu adroddiad ac oedi y broses gyllido ar gyfer y cynllun....
Sioned Williams: Diolch, Dirprwy Weinidog. Pythefnos yn ôl, gan ddatgan bod yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd rŷn ni'n teithio, fe gyhoeddoch chi ddiweddariad ar gyfer cynllun metro bae Abertawe a gorllewin Cymru, a hynny gan nodi bod 17 y cant o allyriadau carbon Cymru yn dod o drafnidiaeth, a bod angen felly i gael pobl i newid i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth. Fel rhan...
Sioned Williams: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r system drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57145
Sioned Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch ymdrechion y Llywodraeth i gefnogi'r Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
Sioned Williams: Gweinidog, ar ddechrau eich datganiad, fe wnaethoch chi amlinellu'r cyfraddau achosion uchel iawn sydd gennym yma yng Nghymru o hyd yn anffodus, ac mae'r cyfraddau hyn yn parhau i effeithio ar addysg. Dros fis yn ôl, gofynnais i'r Gweinidog addysg a fyddai Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer profion poer anymwthiol mwyhau isothermol dolen-gyfryngol ar gyfer y dysgwyr ag anghenion dysgu...
Sioned Williams: Diolch, Brif Weinidog. Gwelwn yn glir yn ein gweithleoedd y modd y mae anghydraddoldebau economaidd yn cyfuno gydag anghydraddoldebau eraill, megis rhywedd, ac mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi yn ddiweddar yn datgelu bod y bwlch cyflog ar sail rhywedd yn 12.3 y cant yng Nghymru—ffigur y mae Chwarae Teg wedi’i ddisgrifio fel un siomedig ac sydd yn uwch yng Nghymru na’r llynedd o 0.7 y...
Sioned Williams: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch y bwlch cyflog ar sail rhywedd yng Ngorllewin De Cymru? OQ57167
Sioned Williams: Mae llawer am y Bil yma rŷn ni'n ei groesawu, ond fe godwyd nifer o bryderon gan randdeiliaid ynghylch y Bil, sy'n amrywio o ansicrwydd ynghylch y comisiwn newydd a'i berthynas â'r Llywodraeth a darparwyr dysgu, cynllunio a chyllido, lles a llais dysgwyr, sicrhau ansawdd a rhyddid academaidd. O ystyried nifer ac amrywiaeth y pryderon yma a drosglwyddwyd gan randdeiliaid, byddai'n berthnasol...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog, am y datganiad.
Sioned Williams: Cyflawnir sero-net drwy leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae effeithlonrwydd ynni adeiladau, fel y gŵyr y Gweinidog, yn un llwybr yn unig tuag at y targed hwnnw, ac mae ffactorau eraill hefyd yn bwysig, soniwyd am rai ganddo, megis bod teithio llesol a diogel i'r ysgol yn bosibl ac na ddylai rhaglen ysgolion newydd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gynyddu'r defnydd o geir nac achosi mwy...
Sioned Williams: Diolch, Prif Weinidog. Bythefnos yn ôl, cyd-gyflwynais gynnig gwrth-hiliaeth yma yn y Senedd a gwnes i ddadlau bod angen i'n holl sefydliadau, gan gynnwys yr heddlu, fod yn rhagweithiol yn eu hymdrechion gwrth-hiliaeth. Fodd bynnag, daeth i'r amlwg yn ddiweddar fod Heddlu De Cymru wedi ceisio recriwtio Lowri Davies, myfyriwr o Brifysgol Abertawe ac ymgyrchydd Mae Bywydau Du o Bwys, fel...
Sioned Williams: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion gwrth-hiliaeth y Llywodraeth yng Ngorllewin De Cymru? OQ57100
Sioned Williams: Diolch am hynny.
Sioned Williams: Rwy'n gofyn y cwestiwn hwn yn sgil ymholiad a gefais gan un o fy etholwyr ynghylch cynllun pensiwn yr Aelodau, sy'n cael ei reoli'n rhannol, fel y dywedwch, gan fwrdd pensiynau'r Senedd. Mae gwleidyddiaeth a moeseg wedi'u cydblethu'n llwyr, ac felly mae'n hanfodol nad yw'r Senedd fel sefydliad yn cynnwys ei hun, hyd yn oed yn anuniongyrchol, mewn unrhyw beth sy'n amheus yn foesegol, er...
Sioned Williams: 2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad ynghylch ei berthynas â bwrdd pensiynau cynllun pensiwn Aelodau o’r Senedd? OQ57041
Sioned Williams: —sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.
Sioned Williams: Ar ein taith tuag at statws cenedlaethol llawn, mae'n hanfodol ein bod ni'n wynebu'r hiliaeth yn ein gorffennol—ein bod ni'n pasio deddfwriaeth ac yn datblygu arferion diwylliannol, sefydliadol ac addysgol sy'n mynd i'r afael â hiliaeth yn y presennol, a'n bod yn clywed ac yn gwrando ar leisiau hanesyddol a chyfoes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig wrth i ni ymdrechu i feithrin...