Canlyniadau 301–320 o 400 ar gyfer speaker:Samuel Kurtz

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Diogelu Bywyd Morol (13 Hyd 2021)

Samuel Kurtz: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch y flaenoriaeth a roddir i ddiogelu bywyd morol wrth benderfynu ar bolisi pysgodfeydd Llywodraeth Cymru? OQ57001

9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl ( 6 Hyd 2021)

Samuel Kurtz: Diolch i bob un Aelod am gyfrannu i'r ddadl ac i'r Dirprwy Weinidog am ymateb.

9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl ( 6 Hyd 2021)

Samuel Kurtz: Diolch i'r holl Aelodau am gymryd rhan, ac i'r Dirprwy Weinidog am ei hymateb a'i phenderfyniad diwyro i sicrhau'r newid angenrheidiol yn hyn o beth. Rydym yn sefyll yma ar adeg dyngedfennol, ac o ystyried bod y pwnc sy'n cael ei drafod heddiw mor berthnasol, byddwn ar fai pe na bawn yn rhannu fy stori bersonol fy hun. Fel yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, rwyf finnau hefyd yn ystadegyn....

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2021)

Samuel Kurtz: Diolch. A phan wnaethoch eich datganiad ar 'Cymraeg 2050' cyn toriad yr haf, gofynnais y cwestiwn hwn i chi, ond yn anffodus ni chefais ateb iddo. Dywedoch chi eich bod am annog siaradwyr Cymraeg ifanc i ddychwelyd o brifysgol i helpu i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ein hysgolion. Tynnais sylw at y ffaith bod hyn yn ei wneud yn fwy anodd i recriwtio athrawon o'r tu allan i Gymru, felly yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2021)

Samuel Kurtz: Diolch. Rydym i gyd yn cytuno ein bod am weld cynnydd yn nifer y siaradwyr Cymraeg ym mhob cornel o'r genedl. Yn aml, mae Dinbych-y-Pysgod, sydd yng nghanol fy etholaeth, yn cael ei ystyried yn gymuned draddodiadol Gymraeg ei hiaith, ond mae'r ysgol cyfrwng Cymraeg, Ysgol Hafan y Môr, wedi cael ei disgrifio gan y cynghorydd lleol fel 'bursting at the seams', ac mae Ysgol Caer Elen yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 6 Hyd 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Llywydd. Weinidog, cysylltodd mudiad Mercher y Wawr â mi yn ddiweddar, yn mynegi pryder bod siaradwyr Cymraeg yn wynebu heriau o ran cynnal busnes bancio wyneb yn wyneb ac ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg. Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod busnesau ar draws Cymru yn gweithredu'n ddwyieithog? A pha gymorth ychwanegol sy'n cael ei gynnig i'r busnesau hynny sy'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Hyd 2021)

Samuel Kurtz: Rwy'n cyfeirio'r Aelodau at fy nghofnod yn y gofrestr buddiannau. Yn gyntaf, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog Newid Hinsawdd am roi o'i hamser i ateb fy nghwestiynau ysgrifenedig ynglŷn â gwrthbwyso carbon a chyfrif allyriadau net Cymru—yr NWEA. Ac rwy'n siŵr y bydd y Trefnydd yn rhannu fy nychryn ynglŷn â'r ffaith bod busnesau rhyngwladol yn gwrthbwyso eu hallyriadau carbon eu hunain ar...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Twf Diwydiannol yng Ngorllewin Cymru (29 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Rwy'n ymwybodol o'r cyfleoedd cyffrous niferus sy'n gysylltiedig â'r daith sero-net sy'n bodoli o fewn fy ardal i yn sir Benfro, ac yn arbennig y cyfle enfawr sydd gan Ddyfrffordd y Ddau Gleddau i gefnogi datgarboneiddio diwydiannau yn ne Cymru, a de'r DU yn gyfan hefyd. Mae clwstwr diwydiannol de Cymru yn elfen allweddol o ddarparu'r cyfleoedd hyn, a deallaf fod y clwstwr...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Twf Diwydiannol yng Ngorllewin Cymru (29 Med 2021)

Samuel Kurtz: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog twf diwydiannol yng ngorllewin Cymru? OQ56910

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Troseddau Gwledig (28 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Prif Weinidog. Mae troseddu yng nghefn gwlad yn achosi gofid difrifol i'n cymunedau gwledig, ac mae dwyn cerbydau amaethyddol, aflonyddu defaid a fandaleiddio ardaloedd nythu bywyd gwyllt i gyd wedi cael eu hadrodd yn ystod y misoedd diwethaf. Fel aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Cymru, mae'r rhain yn faterion yr wyf i'n ymwybodol iawn ohonyn nhw, ac, fel yr ydych chi'n sôn, rydym ni'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Troseddau Gwledig (28 Med 2021)

Samuel Kurtz: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu i leihau troseddau gwledig? OQ56909

3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (21 Med 2021)

Samuel Kurtz: Fe hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gael gweld datganiad heddiw ymlaen llaw, ac mae'n un amserol iawn hefyd, Llywydd, gan fy mod i wedi gofyn i'r Gweinidog am eglurder ynghylch dyfodol cyllid Glastir ddydd Mercher diwethaf, ac er na chynigiwyd unrhyw ymrwymiad bryd hynny, mae'r gymuned ffermio a minnau'n croesawu'r cyhoeddiad heddiw yn fawr. Serch hynny, fe fydd yna rai sy'n...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad at ddiffibrilwyr (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau, a'r Gweinidog, sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma. Ar ôl y golygfeydd erchyll a welwyd ar y teledu rhyngwladol yn ystod gêm Denmarc yn erbyn y Ffindir fis Mehefin diwethaf yn ystod yr Ewros, cefais fy ysgogi, fel cynifer o rai eraill, i weithio gydag Aelodau o bob rhan o'r Siambr i hyrwyddo'r angen am fynediad cyffredinol at...

4. Datganiadau 90 Eiliad (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Heddiw yw diwrnod blynyddol Cefnogi Ffermwyr Prydain Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, sy'n gyfle gwych i gydnabod, cefnogi a diolch i'n ffermwyr gweithgar o bob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ffermio yng Nghymru yw conglfaen diwydiant y gadwyn gyflenwi bwyd a diod yng Nghymru sy'n werth £7.5 biliwn, ac mae'n cyflogi dros 229,500 o weithwyr ac yn cyfrannu miliynau o bunnoedd i...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bridio Cŵn (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Rwy'n croesawu'r rheolau newydd, a elwir yn anffurfiol yn gyfraith Lucy, a ddaeth i rym ddydd Gwener diwethaf, mewn perthynas â bridio cŵn a chathod bach yng Nghymru, ac rwy'n talu teyrnged i’r nifer fawr o sefydliadau, unigolion, gan gynnwys fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, a llawer ar draws y Siambr hon sydd wedi ymgyrchu dros y gwelliannau a'r newidiadau hyn. Er...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: Bydd hynny'n siom i ffermwyr ledled Cymru. Yn olaf, Weinidog, rwy'n disgwyl y byddai llawer o Aelodau ar draws y Siambr hon wedi derbyn cryn dipyn o ohebiaeth gan etholwyr ynghylch pryderon ynglŷn â bylchau yn neddfwriaeth adnabod ceffylau Cymru. Er bod fy nghyd-Aelodau a minnau wedi croesawu'r gofyniad gorfodol i ficrosglodynnu ceffylau yng Nghymru, ceir pryderon o hyd ynghylch cywirdeb y...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Do, fe sonioch chi am y brechlyn a allai fod ar gael ymhen pedair blynedd, ond mae'r prawf newydd hwn, Enferplex, eisoes yn cael ei ddarparu ar lawr gwlad, felly mae hynny o ddifrif yn dangos bod y gymuned amaethyddol yn awyddus i ddatrys y mater hwn unwaith ac am byth. Fodd bynnag, ceir nerfusrwydd yn y diwydiant o hyd ynghylch dyfodol cytundebau Glastir Organig, Tir Comin...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Weinidog, roedd yn dda eich croesawu i orllewin Cymru ym mis Awst ar gyfer Sioe Sir Benfro. Gwn y bydd pwyllgor y sioe a'r arddangoswyr wedi gwerthfawrogi eich presenoldeb, ac rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi i longyfarch y tîm ar eu llwyddiant yn cynnal y sioe, ar ôl iddi gael ei gohirio y llynedd. Rwy’n siŵr hefyd y bydd y Gweinidog yn dymuno talu teyrnged i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Hysbysiadau Cosb Benodedig (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Caiff nifer o hysbysiadau cosb benodedig eu cyhoeddi gan awdurdodau lleol nad ydynt o'r farn fod unrhyw rwymedigaeth i fuddsoddi arian a godir drwy ddirwyon er mwyn atal troseddau o'r fath rhag digwydd eto. Mae tipio anghyfreithlon yn drosedd sydd ar gynnydd yn ddiweddar ledled Cymru ac mae wedi bod yn broblem mewn sawl rhan o fy etholaeth i, Gorllewin Caerfyrddin a De Sir...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Hysbysiadau Cosb Benodedig (15 Med 2021)

Samuel Kurtz: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am awdurdodau lleol yn defnyddio hysbysiadau cosb benodedig? OQ56836


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.