Jack Sargeant: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn Alun a Glannau Dyfrdwy? OQ56720
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Llywydd, ac mae'n anrhydedd i mi fod yn is-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddur. Mae'n sector eithriadol o bwysig i Gymru a ledled y Deyrnas Unedig ac rwy'n diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw. Bydd y Gweinidog yn gwybod bod gennym ni draddodiad balch o gynhyrchu dur yn fy etholaeth i, sef Alun a Glannau Dyfrdwy, ac rydym ni'n dathlu 125 mlynedd o...
Jack Sargeant: Diolch, Lywydd, ac fe fyddwch yn gwybod fy mod yn llysgennad Rhuban Gwyn balch iawn, ac rwy'n angerddol ynglŷn â lledaenu'r neges y dylai pob dyn wneud, ac yn bwysig, y dylai pob dyn gadw addewid y Rhuban Gwyn. Gwn eich bod chi eich hun, ac aelodau eraill o'r Comisiwn, yn y gorffennol a'r presennol, yn hyrwyddo'r achos hwn yn frwd, ac fel rydych wedi'i ddweud, rydych yn aml yn cefnogi'r...
Jack Sargeant: Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb hwnnw, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymrwymiad amlwg—a'ch ymrwymiad hirsefydlog—i gyfiawnder cymdeithasol. Yn eich sgyrsiau â'r proffesiwn cyfreithiol yng Nghymru, pa gyfeiriadau a wnaed at y toriadau i gymorth cyfreithiol, ac a ydych yn cytuno bod toriadau Llywodraeth y DU yn golygu ei bod yn llawer anos i'r rhan fwyaf o bobl, yn enwedig pobl...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r Aelod dros Dde Clwyd am ei eiriau caredig—Ken Skates—a hefyd am ei waith fel Gweinidog hyd yma ar y banc cymunedol, a'r Gweinidog sy'n gyfrifol yn awr, Jane Hutt, am ei hymrwymiad hyd yma? Weinidog, fel y gwyddoch, rwyf wedi bod yn dadlau dros gael banc cymunedol ym Mwcle yn fy etholaeth ers amser maith. A allwch chi roi'r...
Jack Sargeant: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran agor banc cymunedol yng Nghymru? OQ56671
Jack Sargeant: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ar ffyrdd y gellid hyrwyddo cyfiawnder cymdeithasol drwy ddeddfwriaeth? OQ56672
Jack Sargeant: 4. Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i gefnogi'r ymgyrch rhuban gwyn? OQ56673
Jack Sargeant: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Cyfarfûm yn ddiweddar â chomisiynydd heddlu a throseddu newydd y gogledd, Andy Dunbobbin, a chroesawodd y ddau ohonom swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ychwanegol Llywodraeth Cymru, ar ben y rhai a ariannwyd eisoes gan eich Llywodraeth chi, ond roedd y ddau ohonom ni'n pryderu'n fawr am fethiant Llywodraeth y DU i ddarparu'r 62 o swyddogion yr...
Jack Sargeant: Mi wnaf i eilio Mike Hedges.
Jack Sargeant: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am darged Llywodraeth Cymru i ariannu swyddogion cymorth cymunedol heddlu ychwanegol? OQ56683
Jack Sargeant: Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweld ein cymunedau a'n gweithwyr yn cyd-dynnu i helpu ei gilydd a chadw ein gilydd yn ddiogel, gweithwyr mewn cynifer o feysydd yn gwneud aberth enfawr: yn ein hysbytai a'n cartrefi gofal, yn ein canolfannau brechu, yn darparu bwyd ac eitemau hanfodol, yn cadw ein cymunedau'n lân a'n cartrefi'n ddiogel a chymaint mwy. Ddirprwy Lywydd, yn y mudiad...
Jack Sargeant: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddatgan buddiant fel aelod hynod falch o undebau Unite a Community? Lywydd, rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-gadeirydd grŵp Unite yn y Senedd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, Sarah Murphy, a hefyd i fy nghyd-Aelodau Carolyn Thomas a Mike Hedges.
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hateb a'r cymorth hyd yn hyn? Mae hi wedi bod yn 18 mis anodd dros ben i blant ledled Cymru. Fodd bynnag, bydd y gwahaniaeth rhwng profiadau plant o’r pandemig yn sylweddol. Mae'n amlwg i mi y bydd plant sydd wedi cael sawl profiad niweidiol yn ystod plentyndod wedi wynebu mwy o heriau na llawer o'u cyfoedion. Mae cryn dipyn o waith wedi'i wneud eisoes...
Jack Sargeant: 1. Pa adnoddau sydd wedi'u dyrannu yng nghyllideb 2021-22 Llywodraeth Cymru i helpu pobl â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru? OQ56620
Jack Sargeant: Dirprwy Weinidog, fe wyddoch y bydd cynnwys y datganiad hwn yn cael effaith fawr ar drigolion yn fy etholaeth i, yn enwedig y plant, y mae'r llygredd aer yr oedd y buddsoddiad hwn i fod mynd i'r afael ag ef yn effeithio'n sylweddol arnyn nhw. A gaf i ofyn ichi, Gweinidog, pa mor ffyddiog ydych chi y bydd canlyniad yr adolygiad yn mynd i'r afael â hyn ac y bydd unrhyw fesurau yn y dyfodol yn...
Jack Sargeant: Rwy'n mwynhau'r ddadl hon yn fawr. Fel y dywedodd ein cyfaill Sam Rowlands, rwy'n gefnogwr chwaraeon angerddol. Cefais fy atgoffa ganddo o'r dyddiau pan oeddwn yn cefnogi Clwb Pêl-droed Newcastle United, ac rwy'n dal i wneud hynny. Mae gennyf atgofion melys o'r diweddar Gary Speed yn gwneud pethau hudolus i fy nghlwb. Mae'r Llywydd yn gwybod fy mod i'n un i hyrwyddo rhagoriaeth mewn...
Jack Sargeant: Roeddwn yn falch iawn o weld y Gweinidog yn parhau gyda’r cyfrifoldeb am gynllunio yn ei phortffolio newydd, a phwysig iawn bellach, ac ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog; roeddwn yn falch o weld y weinyddiaeth bwysig honno’n cael ei sefydlu. Weinidog, am amryw o resymau, mae'n cymryd mwy o amser nag yr oeddent wedi'i obeithio i gynghorau gwblhau CDLlau. Mae hyn yn aml yn golygu nad oes...
Jack Sargeant: A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi dymuniadau gorau'r Senedd i'n tîm cenedlaethol cyn y gêm yfory, a hefyd i gynnig ein dymuniadau gorau a'n gweddïau ar ran Aelodau'r Senedd i Christian Eriksen o Ddenmarc, i'w deulu a'i ffrindiau yn y tîm, ar ôl y golygfeydd trasig dros y penwythnos? Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig ar y cyfle i fanteisio ar gyllid drwy Gyllid...
Jack Sargeant: Weinidog, mae economi gogledd-ddwyrain Cymru yn cael ei gyrru gan weithgynhyrchu. Ddydd Gwener, cefais y pleser a’r cyfle i gyfarfod ag eXcent UK a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer twf sy’n seiliedig ar gyflogi peirianwyr lleol hyfedr ar gyflogau da. Roedd eu neges yn glir: gyda’r cymorth cywir, gall y sector gweithgynhyrchu uwch yng ngogledd Cymru gystadlu am waith yn fyd-eang a...