Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: O blaid.
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Dwi yn meddwl ei bod hi yn amserol iawn inni gael y drafodaeth yma cyn i'r Bil ddechrau ar ei daith drwy'r Senedd. Ac, yn sicr, mi fydd gennym ni faterion eraill y byddem ni hefyd eisiau edrych arnyn nhw wrth i'r cwricwlwm fynd yn ei flaen, gan gynnwys y materion roedd Darren Millar yn eu codi ynglŷn ag addysg yn ymwneud...
Siân Gwenllian: Mae'r Llywodraeth eisoes wedi derbyn bod yn rhaid gwneud rhai elfennau o'r cwricwlwm yn statudol mewn deddfwriaeth er mwyn gwarantu bod materion yn cael sylw haeddiannol ac yn cael eu cyflwyno i bob disgybl yn ddiwahân. Mae'n sefyll i reswm mai cyfrifoldeb llywodraeth gwlad ydy rhoi trefniadau cadarn ar waith mewn deddfwriaeth i ddiogelu plant. Ac mae'r Gweinidog i'w llongyfarch felly am ei...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’r misoedd diwethaf wedi gorfodi bob un ohonom ni i gymryd golwg o’r newydd ar yr hyn sydd bwysicaf i ni. Mae hefyd, yn anffodus, wedi amlygu’r anghyfiawnder a’r anghyfartaledd sydd wrth wraidd ein cymdeithas ni o hyd. Cyn hir, mi fyddwn ni, fel deddfwrfa, yn ymgymryd â’r gwaith pwysig o graffu ar un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i ddod...
Siân Gwenllian: Dwi'n gwybod mai'r peth olaf yr ydych chi eisiau ei weld ydy fod y cwricwlwm newydd yn cael effaith andwyol o ran uchelgais eich Llywodraeth chi i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr, neu, yn wir, yn tanseilio eich ymdrechion chi mewn unrhyw ffordd. Yn wir, byddai unrhyw Weinidog y Gymraeg am edrych am gyfleon i gryfhau'r Gymraeg drwy'r ddeddfwriaeth newydd yma. Ond os profir i chi y bydd gan y Bil...
Siân Gwenllian: Dwi'n siŵr y bydd rhieni di-Gymraeg yn benodol yn gwerthfawrogi gweld y datblygiadau yna. Rydym ni'n gwybod bod yna bryder, onid oes, nad ydyn nhw yn gallu cefnogi'u plant yn llawn yn ystod y cyfnod yma. Felly, i fynd â'r drafodaeth yna yn bellach, pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael efo'r Gweinidog Addysg ynglŷn â hyn, ynglŷn â'r pryderon penodol sydd yna ynghylch y sector cyfrwng...
Siân Gwenllian: Wel, dwi'n falch iawn eich bod chi'n cydnabod ei bod hi yn argyfwng gwirioneddol ar y sector penodol yma a bod y sector cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod ohono fo hefyd, ac y byddwch chi'n ymdrechu yn ddi-flino i wneud yn siŵr bod y sector yma yn cael cefnogaeth, boed yr arian yn dod o San Steffan ai peidio. Dwi'n credu bod angen buddsoddi yn y sector yma yn uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru...
Siân Gwenllian: Prynhawn da. Mae effaith economaidd y pandemig ar y diwydiant creadigol cyfrwng Cymraeg wedi bod yn anferthol, efo nifer o'r diwydiannau creadigol yn dibynnu ar ddod â pobl at ei gilydd. Rhain oedd y sectorau cyntaf i gau lawr, ac mae'n debyg maen nhw fydd ymhlith y rhai olaf i allu dychwelyd i lefel o weithgaredd sy'n fasnachol hyfyw. Mae o'n sector sylweddol iawn yma yn y gogledd, efo...
Siân Gwenllian: Mi ydym ni'n gwybod y bydd rhyw ffurf ar gyfyngiadau'r cyfnod clo yn parhau mewn grym am sbel eto, efallai tan y flwyddyn nesaf. Sut mae'r Llywodraeth felly'n bwriadu lliniaru effaith y rheoliadau ar y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau? A pa ran fydd y sector yma yn ei chwarae yn eich fframwaith adfer ôl COVID? Wedi'r cyfan, mae'r celfyddydau'n allweddol, fel maen nhw bob tro mewn...
Siân Gwenllian: 4. Pa gyngor cyfreithiol mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddarparu ar effaith y rheoliadau Covid-19 ar allu Llywodraeth Cymru i gylfawni ei pholisiau? OQ55383
Siân Gwenllian: 7. Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o effaith Bil y cwricwlwm arfaethiedig ar y Gymraeg? OQ55382
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: O blaid.
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: Byddwn ni yn pleidleisio yn erbyn y cynnig.
Siân Gwenllian: Yn erbyn.
Siân Gwenllian: O blaid.