Heledd Fychan: Drefnydd, wythnos diwethaf, cyhoeddodd bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg y byddant wythnos yma yn cau dwy ganolfan frechu—un yn y Rhondda ac un yng Nghwm Cynon. Bydd disgwyl i bawb bregus fydd yn cael booster yn y gwanwyn deithio i Ben-y-bont, Llantrisant neu Ferthyr Tudfil. Mae hyn yn golygu, os nad oes gennych gar neu ffordd o gael lifft, fod rhaid gwneud taith o ddwy awr, gan ddal tri bws,...
Heledd Fychan: Mae ymosodiad Rwsia ar Wcráin a hawl Wcráin i benderfynu drosti ei hun yn fygythiad i bob un ohonom. Mae'r ymosodiadau hyn yn tramgwyddo egwyddor ganolog cyfraith ryngwladol ac mae angen gweld honiad Putin ei fod yn dadfilwreiddio neu'n dadnatsieiddio Wcráin am yr hyn ydyw: dibwyllo ar raddfa fyd-eang ac erchyll. Heb amheuaeth, mae'r gwrthdaro hwn yn cynyddu'r risg o ryfel niwclear,...
Heledd Fychan: Hoffwn ddatgan ar ddechrau fy nghyfraniad fy mod yn aelod o CND Cymru. Felly, ni fydd o unrhyw syndod heddiw fy mod felly yn siarad o blaid gwelliant sy'n gofyn i bob gwladwriaeth lofnodi a chadarnhau Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Wahardd Arfau Niwclear.
Heledd Fychan: Rwy’n ddiolchgar i Rhun am agor y ddadl heddiw ac am amlinellu pam ein bod ni fel grŵp yn awyddus i gyflwyno’r cynnig pwysig hwn heddiw. Ac fel y crybwyllwyd eisoes, mae'n amserol ein bod yn gallu gwneud hynny yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta, sydd unwaith eto yn rhoi sylw i fater sy'n effeithio ar gynifer o bobl. Hoffwn gofnodi hefyd fy ngwerthfawrogiad o waith Beat,...
Heledd Fychan: Diolch, Weinidog, am y datganiad. Hoffwn innau ategu eich teyrnged i Aled Roberts. Mi fynychais y British-Irish Parliamentary Assembly gyda Sam Kurtz dros y dyddiau diwethaf yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud yr oedd yna cymaint o deyrngedau twymgalon ar draws y ddwy ynys hyn—pobl oedd wedi gweld Aled pan oedd yn rhoi tystiolaeth ger eu bron nhw yn 2019 ac a oedd yn edmygu'n aruthrol yr hyn...
Heledd Fychan: Diolch am y datganiad hynod o bwysig hwn. Hoffwn ddatgan fy mod i'n gynghorydd ar gyngor Rhondda Cynon Taf, ac mi oeddwn i'n rhan o'r gweithgor a edrychodd ar hyn. Roeddwn i'n falch o glywed Sioned yn sôn am Elyn Stephens. Mi oedd hi'n ddewr aruthrol, fel merch ifanc, yn dod i mewn i gyngor ac yn dechrau sôn am fislif. Byddech chi wedi gweld y sioc ar wynebau'r cynghorwyr ac roedden nhw'n...
Heledd Fychan: Rwy'n falch o nodi, drwy'r cytundeb cydweithredu rhwng fy mhlaid i a'ch Llywodraeth chi, y byddwn ni'n gallu dechrau darparu ar gyfer plant a phobl ifanc ledled Cymru, boed hynny drwy'r ddarpariaeth estynedig o brydau ysgol am ddim a gofal plant i fynd i'r afael â newid hinsawdd, neu drwy addysg. Mae Cymru a'r byd yn wynebu llu o argyfyngau, ac fe fydd effaith yr argyfyngau hyn yn pwyso yn...
Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Ddirprwy Weinidog, am y datganiad. Ydy, mae Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddo fo, ond, wrth gwrs, mae yna anghyfartaledd aruthrol ar y funud, a dydy hynny ddim yn wir ar gyfer pob plentyn. Rydyn ni'n rhannu'r uchelgais angenrheidiol yna fod hyn yn wir i bawb, lle bynnag y bôn nhw yng Nghymru.
Heledd Fychan: Diolch, Brif Weinidog. Yn ddiweddar, cysylltodd y Cynghorydd Larraine Jones, sy'n cynrychioli Gelli ac Ystrad, â mi, i dynnu sylw at y ffaith bod yna brinder milfeddygon yn y Rhondda. Mae wedi rhannu degau o straeon torcalonnus, gan gynnwys ci yn marw gartref ac mewn poen oherwydd bod eu milfeddygfa leol wedi cau'n barhaol a bod neb arall â lle ar gyfer anifeiliaid newydd. Mae problem...
Heledd Fychan: —i wneud y pethau mawr, nid y pethau bychain.
Heledd Fychan: Cadarnhaodd Llywodraeth yr Alban yr wythnos hon y byddai'n darparu £4 miliwn gychwynnol o gymorth dyngarol i Wcráin, yn ogystal â chyflenwadau meddygol, yn rhan o'r ymdrech ddyngarol fyd-eang. Rydych chi wedi awgrymu hyn, ond hoffwn i ofyn am sicrwydd gennych chi, Prif Weinidog, o ran beth fydd ein hymateb yma yng Nghymru. A wnewch chi ymrwymo hefyd i ddarparu cymorth ariannol a...
Heledd Fychan: Diolch am gyflwyno'r cwestiwn brys hwn heddiw, a hoffwn i adleisio 'mae Putin yn droseddwr rhyfel'. Rydym ni'n cytuno ar hynny. Hoffwn i ddweud hefyd heddiw fod Plaid Cymru yn sefyll mewn undod llwyr â phobl Wcráin. Rydym yn condemnio yn ddiamod ymosodiad anghyfreithlon gwladwriaeth Rwsia ar Wcráin, ac rydym yn gwrthod haeriad Rwsia bod yr ymosodiad yn ymateb mewn unrhyw ffordd i...
Heledd Fychan: 3. Pa gefnogaeth sy'n cael ei roddi gan Lywodraeth Cymru i gefnogi milfeddygon? OQ57708
Heledd Fychan: Rwy'n cytuno hefyd, fel Jenny Rathbone, â'r Ceidwadwyr yn y ddadl hon. Rwy'n gwybod, eiliad hanesyddol: y tro cyntaf i mi ddweud y geiriau hynny. [Chwerthin.] Ond rwy'n credu bod hyn yn dangos y gallwn fod yn unedig pan fydd pethau'n bwysig, ac mae gormod o'n treftadaeth wedi diflannu. Mae adeiladau hardd ledled Cymru wedi cael eu gadael i bydru tan y bydd datblygwyr, yn anochel, yn dweud...
Heledd Fychan: Fel y soniodd Rhys ab Owen wrth agor y ddadl hon, mi gefais brofiad o system fwy cyfrannol pan oeddwn i'n byw yn Iwerddon ac yn sefyll mewn etholiadau yno ar gyfer etholiadau swyddogion sabothol undeb myfyrwyr fy mhrifysgol a hefyd undeb myfyrwyr cenedlaethol Iwerddon. System STV oedd honno, oedd yn golygu bod yn rhaid ymgyrchu mewn modd hollol wahanol i sut rydym yn arfer ymgyrchu mewn...
Heledd Fychan: Credaf mai’r cwestiwn allweddol i mi yn y ddadl hon yw: a yw ein democratiaeth yn gweithio yn awr? [Torri ar draws.] Byddwn yn dadlau nad ydyw, gan nad yw’n gynrychioliadol o’r boblogaeth. Credaf fod angen inni ofyn beth y mae’r system yn ei olygu os yw'n atal pobl rhag sefyll. Sam, rydych wedi siarad yn nhermau 'a fyddai hyn yn gwneud gwahaniaeth?' Wel, mewn gwirionedd, pan ofynnwch...
Heledd Fychan: Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yng ngeiriau Raymond Williams, mae diwylliant yn gyffredin a gwn eich bod chi a minnau, Ddirprwy Weinidog, yn rhannu’r gred gyffredin y dylid cael mynediad teg at gyfranogiad diwylliannol. Er ein bod wedi gweld rhai prosiectau diwylliannol digidol gwych ac arloesol yn dod i’r amlwg o ganlyniad i’r pandemig, mae ymchwil wedi dangos bod y newid i brofiadau...
Heledd Fychan: Fe ddechreuaf eto, ac fe arhosaf amdanoch.
Heledd Fychan: Do, roeddwn yn meddwl eich bod yn rhugl. [Chwerthin.]
Heledd Fychan: Ddirprwy Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi, fel rhan o'r cyhoeddiad ynglŷn â'r ffi drwydded, eu bod yn cau'r gronfa cynnwys cynulleidfaoedd ifanc, sef y young audiences content fund. Mae 5 y cant o'r gronfa wedi ei thargedu ar gyfer creu cynnwys mewn ieithoedd brodorol, gan gynnwys y Gymraeg, ac wedi cefnogi nifer o gynyrchiadau o...