Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar. Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan fy mod yn falch o fod yn un o hyrwyddwyr y Gymdeithas Clefyd Niwronau Motor, a hoffwn ddiolch iddynt am y cymorth y maent wedi'i roi i mi i baratoi ar gyfer y ddadl hon. Aelodau, am ychydig eiliadau, dychmygwch eich bod wedi colli eich lleferydd a'ch symudedd. Dychmygwch deimlo fel pe...
Peter Fox: Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fel y gwyddom, mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar y farchnad allforio ym mhob rhan o'r byd. Yng Nghymru, er enghraifft, mae gwerth allforion nwyddau wedi gostwng £2 biliwn yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2021 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Rwy'n cydnabod y gwaith y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r farchnad allforio,...
Peter Fox: 7. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo masnach ryngwladol? OQ57282
Peter Fox: Mae'r rhan fwyaf o fy nghwestiynau wedi eu hateb, felly ni fyddaf yn gwastraffu gormod o amser, ond hoffwn i hefyd fod yn gysylltiedig â rhannu fy niolch i staff y GIG a staff gofal cymdeithasol sydd wedi gwneud cymaint ac sy'n mynd i wneud llawer iawn mwy, yn anffodus. A diolch i chi am eich datganiad heddiw. Yr hyn yr oeddwn i am roi sylw iddo, ar gefn nifer o drigolion oedrannus sy'n...
Peter Fox: A gaf fi ddiolch yn gyntaf i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl bwysig hon ac am fy ngwahodd i gefnogi ei gynnig deddfwriaethol? Rwy'n falch iawn o weld cefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, a chredaf fod hyn yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw'r mater hwn i bob un ohonom ar draws y Siambr. Mae fy nghyfraniad i'r ddadl yn canolbwyntio ar faterion sy'n wynebu nifer o fy...
Peter Fox: Diolch, Weinidog. Fel cyn-arweinydd Cyngor Sir Fynwy, ac rwy'n datgan buddiant i'r perwyl hwnnw, Lywydd, nôl yn 2017 roeddwn yn falch o benodi'r aelod cabinet cyntaf i fod yn llwyr gyfrifol am gyfiawnder cymdeithasol a datblygu cymunedol. Roeddwn wrth fy modd ein bod, gyda'n gilydd, wedi cyflawni strategaeth cyfiawnder cymdeithasol gyntaf y cyngor. Nod y strategaeth hon, sy'n cael ei...
Peter Fox: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog cyrff cyhoeddus i ystyried egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol wrth gyflawni eu dyletswyddau? OQ57231
Peter Fox: Mae'r ddadl hon, ar y cyfan, wedi bod yn gadarnhaol iawn ac wedi dangos pa mor effeithiol y gall y Siambr hon fod pan ydym yn gallu cyflwyno syniadau nad ydynt o reidrwydd yn bachu'r penawdau, ond cawsom gyfle i roi ystyriaeth ofalus i bethau sydd o ddifrif yn effeithio ar bob un ohonom, bob dydd. Fel y dywedodd Alun, mae'n ganolog i fywydau pawb yng Nghymru. Y system fwyd yw asgwrn cefn yr...
Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr hyn a fu'n drafodaeth hynod ddiddorol a phwysig iawn am ddyfodol y system fwyd yma yng Nghymru? Unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu'r cynnig hwn. Bu'n sicr yn ymdrech tîm.
Peter Fox: Nid yw fy Mil yn cynnig ateb syml a fydd yn datrys yr holl broblemau sy'n wynebu'r gymdeithas yng Nghymru. Yn hytrach, mae'n darparu fframwaith cadarn a fydd o'r diwedd yn datrys llawer o'r problemau sydd wedi bod yn ein hwynebu yn rhy hir. Yn y pen draw, hanfod y Bil yw sicrhau defnydd o fwyd lleol, gan greu swyddi lleol, ysgogi economïau lleol, ynghyd â mynd i'r afael â materion llesiant...
Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser cyflwyno'r cynnig ar y papur trefn heddiw, a gyflwynwyd yn fy enw i. Cyn imi ddechrau, hoffwn ddatgan fy mod yn ffermwr gweithredol. Ond wrth gwrs, mae'r Bil yn mynd yn llawer pellach nag amaethyddiaeth. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i ddiolch i staff y Comisiwn sydd wedi fy nghynorthwyo i baratoi'r Bil drafft hwn. Maent wedi bod yn rhagorol, fel...
Peter Fox: [Anghlywadwy.]—y Siambr hon, mae Aelodau o bob ochr wedi cytuno â'r angen i symud tuag at systemau trafnidiaeth aml-ddull i leihau ein dibyniaeth ar geir, i wneud gwasanaethau'n fwy hygyrch ac i gyflawni ein hymrwymiad newid hinsawdd. Wrth gwrs, mae ateb yr her hon yn arbennig o bwysig mewn ardaloedd mwy gwledig yng Nghymru, megis fy etholaeth i ym Mynwy, lle ceir gorddibyniaeth ar fod yn...
Peter Fox: Mae'r dyddiau nesaf yn ein galluogi i gasglu ein meddyliau a myfyrio ar y rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenedl dros y blynyddoedd, a'r rhai sy'n dal i wasanaethu heddiw, i'n cadw ni'n ddiogel. Byddwn ni'n bresennol yn ein gwasanaethau coffa yn fuan, a byddwn ni'n gwrando ar yr enwau'n cael eu darllen o'n senotaffau a byddwn ni'n ceisio dychmygu'r bobl hynny a safai yno o'n blaenau ni ac a...
Peter Fox: Diolch, Llywydd. Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar fater cladin anniogel ar adeiladau uchel? Yn ddiweddar, mae rhai etholwyr sy'n berchen ar eiddo yn ardal datblygiad Celestia wedi cysylltu â mi ynghylch eu pryderon o ran diffyg cefnogaeth uniongyrchol i lesddeiliaid. Rwy'n...
Peter Fox: Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Yn gynyddol, mae mwy a mwy o waith ac, yn wir, gweithgareddau dyddiol eraill yn symud ar-lein, sy'n golygu bod cael band eang cyflym yn gwbl hanfodol i deuluoedd. A dyna pam mae cyflwyniad band eang ffeibr llawn wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru i'w groesawu. Ond yn ddiweddar, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi i rannu eu pryderon ynghylch...
Peter Fox: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno band eang ffibr llawn? OQ57129
Peter Fox: Unwaith eto, mae angen imi ddatgan buddiant fel cynghorydd, oherwydd byddaf yn sôn am Gyngor Sir Fynwy, ond hoffwn ddiolch yn gyntaf i fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, am gyflwyno'r ddadl amserol hon. Mae newid hinsawdd eisoes yn cael effaith ar y byd; rydym i gyd yn gwybod hynny ac rydym i gyd yn gweld hynny. Yn ôl ym mis Awst, rhybuddiodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr...
Peter Fox: Diolch, Gadeirydd. Mae'n noson tân gwyllt nos Wener, adeg pan fydd pobl yn dod at ei gilydd i ddathlu, mynychu arddangosiadau tân gwyllt, neu gynnal eu digwyddiadau preifat eu hunain gyda theulu a ffrindiau. Ar ôl 18 mis mor anodd, bydd y digwyddiadau eleni yn fwy arwyddocaol nag arfer. Fodd bynnag, mae tân gwyllt a choelcerthi yn creu nifer o risgiau, a gallant fod yn arbennig o beryglus...
Peter Fox: A gaf fi ddatgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Fynwy? Roeddwn ar fai na wneuthum hynny yn fy nghyfraniad diwethaf. A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Ddirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r ymrwymiad i dalu'r cyflog byw go iawn i weithwyr gofal cymdeithasol, sydd wedi gweithio'n ddiwyd y tu hwnt i'r disgwyl drwy gydol y pandemig. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn...
Peter Fox: Hyrwyddo'r agenda werdd yw un o'r tasgau mwyaf i bob Llywodraeth yn y ganrif hon. Dyna pam yr hoffwn gofnodi hanes trawiadol Cyngor Sir Fynwy, a oedd yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf i gefnogir datganiad ar newid hinsawdd. Ond wrth hyrwyddo'r agenda werdd, mae'n hanfodol nad yw'r economi werdd, a busnesau a phrosiectau lleol yn arbennig, yn cael eu hesgeuluso, Weinidog. Rydym wedi gweld, yn...