Canlyniadau 301–320 o 400 ar gyfer speaker:Gareth Davies

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Llafaredd a Darllen Plant (16 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Er fy mod yn croesawu'r camau a gymerwyd i wella cyfraddau llafaredd yn gyffredinol, mae gennyf bryderon am y rheini yn y system ofal yn ogystal â'r rhai sy'n darparu gofal. Gweinidog, gwyddom fod cyrhaeddiad addysgol ymhlith pobl ifanc mewn gofal yn llawer is na chyrhaeddiad eu cyfoedion. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: COP26 (16 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr am eich datganiad, y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog. Roedd yn dda iawn eich gweld yn Glasgow yr wythnos diwethaf ar gyfer COP26, ac rwy'n credu ichi gwrdd â'r aelod sy'n cyfateb i mi yn San Steffan, Dr James Davies, felly roedd yn braf iawn gweld hynny.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: COP26 (16 Tach 2021)

Gareth Davies: Peidiwch â bod mor negyddol. [Chwerthin.] Er nad wyf yn rhannu'r farn a fynegwyd gan rai bod COP26 yn esgus dros beidio â gwneud unrhyw beth, ofnaf y bydd glastwreiddio’r addewidion yn gweld fy etholwyr yn wir yn wynebu dyfodol dyfrllyd. Wrth i rai o lygrwyr gwaethaf y byd barhau i ddibynnu ar lo, byddwn yn gweld tymheredd a lefelau'r môr yn codi. Dirprwy Weinidog, rydych wedi'i gwneud...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Cyflog Byw Go Iawn (16 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a phrynhawn da, Prif Weinidog. Prif Weinidog, mae eich Llywodraeth yn dweud mai ei nod yw talu'r cyflog byw gwirioneddol i'r rhai sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol. Er nad oes eglurder o hyd ynghylch pryd y bydd hyn yn digwydd, nid oes amheuaeth bod wir ei angen. Fel yr ydym ni newydd ei drafod, cynyddodd y Sefydliad Cyflog Byw y cyflog byw ac mae bellach...

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sbeicio (10 Tach 2021)

Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl bwysig a pherthnasol hon y prynhawn yma. Rwy'n falch fod sbeicio wedi cael sylw yn y cyfryngau prif ffrwd o'r diwedd gan fod y malltod wedi bodoli ers blynyddoedd lawer, ond diolch byth mae ymwybyddiaeth ohono wedi codi yn ystod y misoedd diwethaf. Felly, rwy'n ddiolchgar i fy nghyd-Aelod a fy mhlaid am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, ond rwy'n anghytuno â...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain (10 Tach 2021)

Gareth Davies: Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fodd bynnag, mae budd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn dibynnu'n fawr ar ble rydych yn byw—loteri cod post yn y bôn. Mae disgyblion yn y Rhyl wedi elwa o adeiladu dwy ysgol fodern ragorol, Ysgol Uwchradd y Rhyl ac Ysgol Gatholig Crist y Gair, yn yr un dref, ac nid yw tref gyfagos Prestatyn wedi cael yr un lefel o fuddsoddiad....

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain (10 Tach 2021)

Gareth Davies: 3. Sut bydd rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain o fudd i ddisgyblion Dyffryn Clwyd? OQ57141

7. Dadl: Cynnwys Pleidleiswyr ( 9 Tach 2021)

Gareth Davies: Mae'r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon heddiw yn brawf, os oes angen prawf erioed, fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn brin o syniadau, allan o'i dyfnder ac wedi drysu. Dyma ni, yn eistedd yma chwe mis ers etholiadau'r Senedd a gallaf gyfrif nifer y dadleuon gan Lywodraeth Cymru ar fy mysedd. A ydym yn trafod y materion mawr sy'n wynebu Cymru a sut yr ydym yn mynd i'w datrys? Na. Yma...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 9 Tach 2021)

Gareth Davies: Prynhawn da, Trefnydd. Hoffwn i alw am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ynghylch tâl teg i staff y GIG, gan fod nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, o gofio bod Ysbyty Glan Clwyd yn gyflogwr mawr yn Nyffryn Clwyd, ac Ysbyty Maelor Wrecsam yn eich etholaeth eich hun yn yr un modd. Ac maen nhw wedi codi pryderon ynghylch y cynnydd o 3 y cant i gyflogau a gafodd ei gyhoeddi ar gyfer staff y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cop26 ( 9 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae fy etholwyr i, yn enwedig y rhai sy'n byw ar yr arfordir yn y Rhyl a Phrestatyn, yn agored iawn i lifogydd o lefelau'r môr sy'n codi. Yn ôl yr Asiantaeth Ynni Rhyngwladol, bydd ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud yn COP26 yn dal i arwain at gynnydd o 1.8 y cant mewn tymheredd byd-eang. Mae hyn yn newyddion ofnadwy i ranbarthau arfordirol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cop26 ( 9 Tach 2021)

Gareth Davies: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y bydd ei bresenoldeb yn COP26 o fudd i drigolion Dyffryn Clwyd? OQ57171

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adferiad gwyrdd ( 3 Tach 2021)

Gareth Davies: Nid wyf yn mynd i ailadrodd llawer o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud am faint enfawr yr argyfwng sy'n ein hwynebu. Mae fy etholwyr eisoes yn byw gyda chanlyniadau allyriadau carbon gormodol—mae llifogydd 1-mewn-100 neu hyd yn oed 1-mewn-1,000 o flynyddoedd bellach yn digwydd bob ychydig flynyddoedd. Nid yw digwyddiadau tywydd eithafol mor anghyffredin erbyn hyn; maent wedi dod yn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch eto am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. I newid cyfeiriad ychydig, ac ehangu ychydig mwy ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, y ffordd orau o fynd i'r afael â'r materion hyn fyddai cwblhau'r broses o integreiddio iechyd a gofal. Roedd creu prif swyddog gofal cymdeithasol i Gymru i fod i gyflymu'r ymdrechion integreiddio, fel y sonioch chi yn y pwyllgor iechyd yn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Bydd unrhyw oedi cyn gwella cyflog ac amodau staff yn parhau i gael effaith ar recriwtio. Teimlir yr effaith hon gan ein GIG a'n byrddau iechyd lleol, sy'n cymryd sylw ac yn gweithredu'n briodol. Mae rhai byrddau iechyd bellach yn ystyried cyflogi staff gofal yn uniongyrchol. Fodd bynnag, yn hytrach na helpu i fynd i'r afael â'r broblem,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 3 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Mae gennym argyfwng ym maes gofal cymdeithasol, onid oes, a chredaf fod hynny'n ffaith—argyfwng a achoswyd gan ddiffyg staff. Ni allwn recriwtio digon o bobl i weithio yn y sector gofal, oherwydd, a dweud y gwir, nid yw'r cyflog a'r amodau'n ddeniadol. Ddirprwy Weinidog, fe wyddoch fy marn am gyflog gweithwyr gofal a'r ffaith y...

7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y rhaglen ddatgarboneiddio ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol ( 2 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch am y datganiad heno, Gweinidog. Rwyf i eisiau datgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd sir yn sir Ddinbych ac rwy'n mynd i sôn am awdurdodau lleol. Felly, ar hyn o bryd mae gofal cymdeithasol yn cael ei gynnal a'i weithredu gan ein 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Beth yw'r ysgogiad i ddatgarboneiddio'r sector gofal cymdeithasol pan nad yw pob cyngor...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 ( 2 Tach 2021)

Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma, yn ogystal â chaniatáu i Dr Atherton friffio aelodau'r pwyllgor iechyd amser cinio heddiw, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn am hynny. Gweinidog, mae hi'n gwbl eglur na fyddwn ni fyth yn gallu atal ymlediad COVID yn llwyr. Wedi'r cwbl, gennym ni y mae'r mesurau rheoli caethaf yn y DU, ond gennym ni y mae'r cyfraddau uchaf o...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon (20 Hyd 2021)

Gareth Davies: Hoffwn gofnodi fy niolch i'r proffesiwn addysgu am eu hymdrechion i gynnal safonau addysg yn ystod y cyfnod heriol hwn. Yn anffodus, nid yw athrawon a staff ysgolion wedi gallu gwneud eu gwaith yn iawn yn ystod y pandemig hwn. Er gwaethaf diffyg arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig COVID-19, nid yw safonau addysgol wedi dioddef i'r graddau y byddai llawer wedi'i ddisgwyl. Ond...

5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (19 Hyd 2021)

Gareth Davies: Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Cwnsler Cyffredinol. Ond fy nghwestiwn mwyaf a mwyaf perthnasol i chi yw: pam nawr? Mae ein cenedl yn wynebu argyfyngau lluosog, heriau enfawr, ac eto dyma ni unwaith eto'n neilltuo amser i'r cyfansoddiad. Y bore yma, cyhoeddodd WalesOnline ganlyniadau'r 10 mater mwyaf sy'n wynebu Cymru, fel y pleidleisiodd pobl Cymru, eich meistri cyflog. Nid oedd y...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer y Gaeaf 2021-22 (19 Hyd 2021)

Gareth Davies: Diolch am eich datganiad y prynhawn yma, Gweinidog, ac am ddarparu swyddogion i friffio aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn y datganiad hwn. Rwy'n edrych ymlaen at graffu'n fanwl ar eich cynlluniau, ond, cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn ateb un neu ddau o gwestiynau yn ymwneud ag ochr gofal y paratoadau. Mae Fforwm Gofal Cymru wedi rhybuddio bod...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.