Joel James: Iawn. Yr unig beth yw, oni bai ei fod trwy'r meicroffon, ni fyddaf yn gallu clywed yr hyn y byddwch chi'n ei ddweud. Beth bynnag, a ddylwn i ddechrau o'r dechrau?
Joel James: Diolch, Gweinidog. Fel y byddwch yn gwybod, Cymru oedd y Genedl Masnach Deg gyntaf erioed yn 2008, ac, ers 2015, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid drwy raglen Cymru ac Affrica i Masnach Deg Cymru hyrwyddo sefydliadau i ddod yn bartneriaid masnach deg a darparu allgymorth addysgol ar fanteision masnach deg. Mae Masnach Deg Cymru yn adrodd ar hyn o bryd eu bod yn gweithio gyda dim ond...
Joel James: 2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o sut y mae rhaglen Cymru-Affrica wedi cryfhau masnach ag Affrica? OQ56759
Joel James: Weinidog, mae'r sgwrs ynghylch deallusrwydd artiffisial yn aml wedi canolbwyntio ar ei effaith ar y gweithlu a sut y gall arwain at lai o swyddi. Fodd bynnag, y gwir amdani yw bod dros 96 y cant o'r holl weithgynhyrchu yng Nghymru yn dod o fentrau busnes bach, ac rydym ni fel gwlad ar ei hôl hi o ran cynhyrchiant o gymharu â chystadleuwyr ledled y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Mae technoleg...
Joel James: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ynghylch yr effaith y bydd yr adolygiad o adeiladu ffyrdd yng Nghymru yn ei chael ar economi Cymru?
Joel James: Hoffwn achub ar y cyfle i gyfleu fy nghydymdeimlad â'r Prif Weinidog a'i deulu yn ystod y cyfnod hwn. Gweinidog, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae bron i 27 y cant o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew, ac mae hon yn gyfradd sydd 4 y cant yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban. Mae'r pryder iechyd hwn yn waeth mewn ardaloedd o amddifadedd uwch, lle mae plant yn llawer mwy tebygol o fod yn...
Joel James: Weinidog, yn ystod y cyfrif etholiadol ym mis Mai, bu swyddogion cynghorau a gwirfoddolwyr yn gwirio ac yn cyfrif pleidleisiau ar gyfer pleidlais etholaethol y Senedd, pleidlais ranbarthol y Senedd, etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu, a phleidleisiau ar gyfer isetholiadau cynghorau a chynghorau cymuned. Yn y dyfodol, nid yw'n afrealistig i ddisgwyl senario lle gallai pob un o'r...
Joel James: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion ar gyfer ffordd gyswllt Porth Gogledd Cwm Cynon?
Joel James: Diolch i chi, Weinidog. A hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch a fy ngwerthfawrogiad i bawb sy'n gweithio yn y maes hwn ac sydd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i helpu i ddiogelu a gwasanaethu eu cymunedau yn ystod y pandemig ofnadwy hwn. Fel yr amlygwyd ddoe yn y Siambr, ac mewn sesiwn friffio ddiweddar gan Gymdeithas Feddygol Prydain, roedd rhai meddygfeydd yng Nghymru mewn...
Joel James: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y rôl y mae cyfleusterau meddygol cymunedol wedi'i chwarae yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ56565
Joel James: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ym 1936, gadawyd Tŷ'r Cymry gan Lewis Williams, ffermwr o Fro Morgannwg, i siaradwyr Cymraeg Caerdydd. Yn ystod y blynyddoedd mae wedi datblygu i fod yn esiampl ddisglair o gefnogaeth i'r iaith, ond hefyd yn ganolfan ddiwylliannol. Yn anffodus, fel y dangosodd adroddiadau newyddion diweddar, mae dyfodol yr adeilad hwn yn ansicr ac nid yw bellach yn rhan o...
Joel James: Prif Weinidog, nid yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyrraedd ei dargedau ar gyfer cyd-astudiaethau tai a'r tir sydd ar gael am nifer o flynyddoedd, ac, o ganlyniad, mae hyn wedi arwain at gyflwyno llawer o geisiadau hap-fasnachol i'r cyngor eu hystyried, a llawer o'r rhain yn flaenorol yn cael eu gwrthod ar gyfer eu cynnwys yn ei gynllun datblygu lleol. Ymhlith y ceisiadau...
Joel James: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y mae'r Gymraeg wedi'i chwarae yn natblygiad Caerdydd fel prifddinas Cymru? OQ56567
Joel James: Diolch, Llywydd, ac a gaf i achub ar y cyfle hwn i'ch llongyfarch ar eich ailethol ac, yn yr un modd, i'r Prif Weinidog. Prif Weinidog, y llynedd, cafodd Stryd Fawr Treorci ei henwi yr orau yn y DU a chafodd ei chanmol am ei siopau annibynnol a'i hysbryd cymunedol. Fodd bynnag, mae'n peri siom nad yw'r llwyddiant hwnnw wedi'i wasgaru'n gyfartal ar draws Canol De Cymru. Yn ddiweddar, cafodd...