Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. Yn ystod dadl Plaid Cymru fis diwethaf ar y sector ynni a’r argyfwng hinsawdd, cafwyd ymateb gan eich Llywodraeth a oedd yn awgrymu newid cadarnhaol o ran sicrhau bod y cyfoeth a gynhyrchir gan ynni adnewyddadwy yn cael ei gadw yng nghymunedau Cymru. Cyfeiriwyd at, ac rwy'n dyfynnu, 'astudiaeth ddofn' y diwrnod canlynol, i weld pa rwystrau y gellir eu goresgyn i gynyddu...
Peredur Owen Griffiths: 6. Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi'r economi werdd yn Nwyrain De Cymru? OQ57088
Peredur Owen Griffiths: Mae'r adeg hon o'r flwyddyn yn un gyffrous i blant ac oedolion fel ei gilydd. Er nad yw golwg a sŵn tân gwyllt ym mis Tachwedd yn rhywbeth newydd yn union, mae'r cyfnod y mae tân gwyllt yn cael eu cynnau wedi ymestyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r hyn a arferai fod yn un noson o bryder i bobl ac anifeiliaid sy'n ofni synau uchel wedi mynd yn llawer hirach. Gydag arddangosfeydd...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Weinidog. Roedd adroddiad Coleg Brenhinol y Meddygon ar brofiadau staff ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn annifyr iawn i'w ddarllen. Mae'n annerbyniol fod meddygon ymgynghorol a meddygon dan hyfforddiant, a dyfynnaf, 'yn ofni dod i'r gwaith'. Aeth Andrew Goddard, llywydd Coleg Brenhinol y Meddygon mor bell â dweud, 'Yn ystod ein hymweliad rhithwir dywedodd rhai gweithwyr dan...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, a diolch am fwrw ymlaen â hynny. Yn ddiweddar, cyflwynais ddadl ar gamddefnyddio sylweddau. Yn ystod y ddadl honno, nododd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant fod dull y Llywodraeth o ymdrin â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn canolbwyntio ar iechyd a lleihau niwed. O gofio hyn, sut y mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r comisiynwyr heddlu a throseddu ac yn ymgysylltu...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr. I symud ymlaen at rywbeth y mae gennyf ddiddordeb ynddo: dros y misoedd diwethaf, mae Cymru wedi croesawu ffoaduriaid, yn dilyn cwymp sydyn Llywodraeth Affganistan. Mae'n anodd dychmygu'r ofn a deimlent wrth ffoi o'u cartrefi, ac mae'n iawn fod Cymru wedi chwarae ei rhan wrth fod yn hafan ddiogel i rai o'r teuluoedd hyn. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae WARD neu gynllun...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn dilyn y cwestiwn blaenorol, efallai y byddwch yn cofio fy mod wedi ysgrifennu atoch yn gynharach yr haf pan ddaeth y newyddion gyntaf am y codiadau mewn tariffau tanwydd. Rhybuddiais bryd hynny am yr effeithiau y byddai hyn yn eu cael ar gyllidebau aelwydydd, yn enwedig yng ngoleuni penderfyniad y Llywodraeth Dorïaidd i fwrw ymlaen â chael gwared ar yr...
Peredur Owen Griffiths: 2. Sut mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â phryderon a morâl staff o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn dilyn cyhoeddi adroddiad beirniadol gan Goleg Brenhinol y Meddygon? TQ573
Peredur Owen Griffiths: Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod etholiadau'n cael eu cynnal yn deg yng Nghymru?
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr am yr ymyriad. Rwy'n credu y gellir priodoli hynny i'r diffyg fframweithiau a chymorth i'w hannog i gymryd rhan yn yr ochr honno i bethau. Mae'r sector wedi gofyn am fynediad at gymorth, adnoddau a chyllid angenrheidiol. At hynny, maent wedi gofyn am alluoedd pellach i gynhyrchwyr werthu eu hynni'n lleol, boed drwy ofynion caffael i gyrff cyhoeddus neu wella capasiti grid. Mae...
Peredur Owen Griffiths: I gloi, hoffwn amlinellu rhai o'r camau y mae'r sector wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru eu cymryd, a byddwn yn sicr yn gwerthfawrogi ymateb gan y Gweinidog—[Torri ar draws.] Yn sicr.
Peredur Owen Griffiths: Mae ein cymunedau yn bwysig i holl Aelodau Plaid Cymru ledled Cymru, ond maen nhw'n arbennig o bwysig i mi gan eu bod yn rhan o fy mhortffolio. Felly, hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad i'r ddadl hon ar gynhyrchu ynni cymunedol, ac rydyn ni wedi clywed rhywfaint am hynny y prynhawn yma yn y ddadl flaenorol. Mae'n bosib y bydd y prosiectau hyn ddim ond yn rhan fach o'r system ynni yn y...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Weinidog. Mae gennym rai gwarchodfeydd anhygoel yma yng Nghymru sy'n gwneud gwaith hanfodol i achub anifeiliaid sydd wedi cael eu gadael neu eu hanafu. Mae'r mwyafrif llethol o warchodfeydd a chanolfannau achub yn fodelau o arfer da. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reoleiddio arnynt. Gall unrhyw un eu sefydlu, ni waeth a oes ganddynt brofiad a gwybodaeth ai peidio. Barn yr RSPCA, un o'r...
Peredur Owen Griffiths: 7. Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod gwarchodfeydd anifeiliaid yn cymryd camau digonol i fodloni safonau lles? OQ57014
Peredur Owen Griffiths: Pan godais y mater o lai o ddarpariaeth canolfannau gofal dydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer oedolion anabl a goblygiadau hyn i gleientiaid, eu teuluoedd a'u staff, fe wnaethoch chi gyfeirio'r mater at Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Wel, efallai ei fod yn gyd-ddigwyddiad, ond penderfynodd y weinyddiaeth Lafur yno gymryd cam yn ôl ac ymgynghori yn iawn ar y mater....
Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau yn Nwyrain De Cymru?
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae Luke Fletcher a Jenny Rathbone wedi gofyn i gael munud o fy amser i, so dwi wedi cydsynio i hynny. Diolch yn fawr.
Peredur Owen Griffiths: Aeth dros 40 mlynedd heibio ers i'r Unol Daleithiau ddatgan eu rhyfel yn erbyn cyffuriau. Ers hynny, mae gwahanol weinyddiaethau ar draws y byd wedi copïo'r uwch-bŵer ac wedi dilyn polisi o fabwysiadu dull llym o fynd i'r afael â chyffuriau, ond heb fawr o dystiolaeth ei fod yn trechu dibyniaeth, neu'n trechu'r gafael sydd gan gangiau troseddol ar yr ardaloedd lle maent yn gweithredu....
Peredur Owen Griffiths: Un agwedd ar iechyd sy'n fwy tebygol o effeithio ar bobl hŷn, ond sydd hefyd yn gallu taro pobl o unrhyw oed, yw gwasanaethau canser. Mae lle i wella yn y gwasanaethau hyn os ydym am sicrhau'r canlyniad gorau i gleifion. Byddai'n ddefnyddiol cael y wybodaeth ddiweddaraf am y camau nesaf ar gyfer y datganiad ansawdd ar ganser. Mae angen inni weld arweinyddiaeth gref ar gyfer canser yng...
Peredur Owen Griffiths: Mae pobl hŷn yn rhan fawr a phwysig o'm portffolio i ar gyfer Plaid Cymru. Yn ystod yr wythnos diwethaf, ces i gyfle i wneud webinar gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Roedd yn sesiwn ar-lein a lansiodd adroddiad cyflwr y genedl gan y comisiynydd. Un o'r prif bwyntiau oedd yn cael ei wneud yn ystod y webinar oedd y dirywiad sylweddol yn iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn oherwydd y pandemig....