Lesley Griffiths: Dosbarthwyd y llythyr i Aelodau’r Cynulliad. Rwy’n credu mai David Melding a wnaeth gais i’r Prif Weinidog yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf. Fel y dywedodd Simon Thomas, roedd yn nodi’r terfynau drwyddo draw. Bu gostyngiad, ond rydych yn gywir fod angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod Aberddawan yn gallu gweithredu o dan y terfyn uchaf o 500 mg /cu m ar...
Lesley Griffiths: Gwnaf, rwy’n fwy na pharod i drafod gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet os yw hynny’n briodol.
Lesley Griffiths: Diolch. Fel rheoleiddiwr amgylcheddol Aberddawan, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am ostwng y terfyn uchaf ar gyfer allyriadau ocsidau nitrogen yn nhrwydded amgylcheddol Aberddawan, yn unol â dyfarniad y llys. Bydd yn rhaid i Aberddawan gydymffurfio â’r terfyn diwygiedig wedyn. Bydd fy swyddogion yn parhau i fonitro’r cynnydd a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac RWE tuag at...
Lesley Griffiths: Wel, gobeithiaf mai cwestiwn rhethregol oedd hwnnw ac nad oeddech yn gofyn i mi roi ffigur i chi. Ydw, rwy’n fwy na pharod i longyfarch Parc Pont-y-pŵl. Efallai yr hoffai’r Aelod fy ngwahodd ar ymweliad.
Lesley Griffiths: Wel, na; ni fuaswn yn gallu cyfiawnhau hynny.
Lesley Griffiths: Mae’n bwysig iawn fod gan yr awdurdodau lleol yr arbenigedd hwnnw’n fewnol, neu os nad oes, gallant gydweithio ag awdurdod lleol cyfagos er mwyn sicrhau eu bod yn ei gael. Ni chredaf ein bod yn dymuno gweld tagfeydd. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y cynlluniau hyn yn cael eu sefydlu a’u rhoi ar waith cyn gynted â phosibl. Soniais yn fy ateb i Dai Lloyd fod rhai o’r bobl y cyfarfûm...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae argaeledd mannau gwyrdd a pharciau o safon yn bwysig i iechyd a lles pobl. Maent yn darparu cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau hamdden iach, yn cefnogi bioamrywiaeth ac yn cyfrannu at leihau perygl llifogydd a llygredd aer. Dylai pawb gael mynediad at fannau gwyrdd o safon yn agos at eu cartrefi.
Lesley Griffiths: Credaf fod yna gyfleoedd gwych i allu gwneud arbedion yn y meysydd yr ydych wedi’u trafod. Rwyf wedi annog pob corff cyhoeddus yng Nghymru i wneud y gorau o’r cyfle, ac yn sicr, bydd ein menter twf gwyrdd Cymru yn helpu i gyflawni’r prosiectau hyn drwy ddarparu nifer o wasanaethau, a chyllid sylweddol hefyd.
Lesley Griffiths: Rwy’n fwy na pharod i gefnogi cynlluniau ynni lleol. Rwyf wedi bod yn ffodus iawn, gan fy mod wedi agor cynllun ynni dŵr bychan ym Merthyr Tudful, ymwelais â’r un y cyfeiriwch ato, a soniais yn fy ateb cychwynnol i chi fod gennym 11 o gynlluniau ar waith o ganlyniad i waith y gymuned leol. Credaf fod yna rai pobl ddygn iawn sy’n teimlo’n hynod o angerddol ynglŷn â hyn. Mae’n...
Lesley Griffiths: Yn sicr, credaf fod angen i ni edrych ar y mater, ac rwy’n fwy na pharod i wneud hynny a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelod.
Lesley Griffiths: Mae gan Lywodraeth Cymru hanes llwyddiannus o gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol. O ganlyniad i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae 11 o gynlluniau wedi eu sefydlu ac ar waith, ac yn darparu budd i’r ardal leol, ac mae pump arall wrthi’n cael eu datblygu.
Lesley Griffiths: Wel, nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda’r datblygwr. Byddaf yn holi fy swyddogion a ydynt wedi gwneud hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod.
Lesley Griffiths: Fferm wynt fasnachol yn ardal chwilio strategol E yw datblygiad Mynydd y Gwair. Mae wedi cael pob caniatâd angenrheidiol a deallaf y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau y mis nesaf. Bydd y datblygwr yn buddsoddi £50 miliwn ac yn darparu cyflogaeth yn ystod y gwaith adeiladu, gan gynhyrchu digon o ynni glân i bweru hyd at 22,600 o gartrefi.
Lesley Griffiths: Mae fy swyddogion yn gwneud gwaith sylweddol ar hyn o bryd mewn perthynas â’r Ddeddf Tiroedd Comin, felly byddaf yn sicr yn edrych ar y pwynt penodol hwnnw, ac os yw’n briodol, byddaf yn cyhoeddi datganiad.
Lesley Griffiths: Gallaf, rwy’n fwy na pharod i edrych ar hynny. Gwn ein bod wedi gohebu ar y mater hwn, a buaswn yn fwy na pharod i edrych ar hynny hefyd i weld a oes unrhyw beth arall y gallwn ei wneud. Ond byddaf yn edrych ar y canllawiau, ac os oes angen eu diweddaru, rydym yn fwy na pharod i wneud hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae tir comin a reolir yn dda yn darparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sylweddol i bobl Cymru. Mae hawliau pori yn rhan bwysig o’r drefn reoli ar dir comin. Mae Deddf Tiroedd Comin 2006, sydd mewn grym yma ar hyn o bryd, yn darparu proses sefydledig ar gyfer sicrhau eu bod yn cael eu gwarchod.
Lesley Griffiths: Mae hynny’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni ei ystyried. Mae’n debyg mai mynediad at ddyfroedd yw’r mater mwyaf dadleuol i ddeillio o’r ymgynghoriad. Mae’r cyngor gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dweud bod y cytundebau mynediad gwirfoddol presennol—. Oddeutu 4.6 y cant yn unig o gyfanswm hyd prif afonydd Cymru sydd ar gael ar gyfer canŵio a cheufadu, felly mae angen i ni edrych ar...
Lesley Griffiths: Gwnaf, yn sicr. Credaf ei fod yn fater emosiynol iawn. Pan oeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd, rwy’n cofio bod fy mag post yn llawn o lythyrau gan bysgotwyr a chanŵ-wyr, ac mae pethau’r un fath yn union fel Gweinidog. Mae’n fater hynod o emosiynol. Mae’n ymwneud, rwy’n credu, ag ystyried nid yn unig pysgotwyr, nid yn unig canŵ-wyr—mae’n ymwneud â cherddwyr, mae’n...
Lesley Griffiths: Wel, roeddwn yn aelod o’r Pwyllgor Cynaliadwyedd yn ôl yn 2009; credaf mai yn 2010 y cawsom ein hymchwiliad i fynediad at ddyfroedd mewndirol mewn gwirionedd. A’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud hyd yma mewn gwirionedd yw dilyn argymhellion adroddiad y pwyllgor. Ond rydym wedi cael adolygiad o’r ddeddfwriaeth ar fynediad i’r awyr agored, ac rydym wedi cael...
Lesley Griffiths: Bydd, yn sicr. Credaf fod hynny’n un o’r cyfleoedd, yn hytrach na’r risgiau a’r heriau, ac rydych yn llygad eich lle. Soniodd David Melding am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol. Mae gennym gyfarwyddebau natur yr UE. Mae gennym ein cyfarwyddebau ein hunain, fel y dywedwch, ac mae gennym ein deddfwriaeth ein hunain ar waith bellach, yn Neddf yr Amgylchedd (Cymru)...