Canlyniadau 3201–3220 o 4000 ar gyfer speaker:David Rees

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Anghenion Dysgu Ychwanegol (13 Tach 2018)

David Rees: Prif Weinidog, un o'r heriau mwyaf i blant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg mewn gwirionedd yw cael cydnabyddiaeth ar gyfer yr anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf i wedi gweld llawer o deuluoedd sy'n wynebu brwydrau diflino dim ond i gael y gydnabyddiaeth honno i'w plant fel y gallan nhw fynd drwy'r prosesau. Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol yn rhoi...

6. Brexit a Chydraddoldebau — Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ( 7 Tach 2018)

David Rees: Mis Chwefror. Diolch. Mae hynny'n beth da, oherwydd mae gennym o leiaf—. Bellach mae gennym syniad mewn gwirionedd y bydd yn digwydd cyn inni adael yr UE. Mae hynny'n bwysig iawn i ni. Nododd Jane hefyd ei bod hi'n bwysig fod hawliau'n dod i'r amlwg, ac yn arbennig ein bod yn nodi hawliau sy'n dod i'r amlwg yn ystod y cyfnod pontio, os oes un, oherwydd byddwn yn gweithredu o dan yr amodau...

6. Brexit a Chydraddoldebau — Canfyddiadau ar y cyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ( 7 Tach 2018)

David Rees: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniad i'r ddadl heddiw? Credaf mai dyma'r tro cyntaf efallai i ni gael adroddiad ar y cyd yn dod gerbron y Cynulliad gan bwyllgorau yn y Cynulliad hwn. Mae hefyd yn dangos, efallai, fod y ffordd rydym yn gweithio yn esblygu wrth inni symud ymlaen. A gaf fi hefyd gofnodi diolch y ddau bwyllgor i'w staff, clercod y pwyllgorau a'u timau, ac...

4. Datganiadau 90 Eiliad ( 7 Tach 2018)

David Rees: Diolch, Lywydd. Ar 10 Tachwedd 1925, 93 o flynyddoedd yn ôl, ganwyd Richard Walter Jenkins yr ieuengaf yng nghartref y teulu yng Nghwm Afan. Rydym yn ei adnabod fel Richard Burton. Nawr, heddiw, nid wyf am dynnu sylw at ei fywyd, gan fy mod yn gobeithio bod yma ar adeg canmlwyddiant ei eni i wneud hynny, ond yn hytrach, rwyf am ddathlu 36ain ras y Richard Burton 10K. Cynhaliwyd y ras ffordd...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru ( 7 Tach 2018)

David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Ymddengys mai cyni yw ideoleg y blaid Dorïaidd yn San Steffan o hyd, ac mae'n parhau i effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. Nawr, ers i mi fod yn Aelod o'r Cynulliad, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi llwyddo i sicrhau bod cyn lleied â phosibl o effaith ar lywodraeth leol. Os cymharwch hynny â Lloegr, gallwch weld yr...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Insiwleiddio Waliau Ceudod ( 7 Tach 2018)

David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n siŵr fod y nifer fach o bobl y cyfeiriwch atynt i gyd yn fy etholaeth i yn ôl pob golwg, oherwydd mae gennyf nifer fawr o bobl sydd wedi wynebu problemau o ganlyniad i fethiant gwaith inswleiddio waliau ceudod, ac felly, maent bellach yn wynebu biliau mawr oherwydd y gwaith sy'n rhaid ei wneud. Nawr, fel y dywedasoch yn eich...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Insiwleiddio Waliau Ceudod ( 7 Tach 2018)

David Rees: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl sy'n wynebu anawsterau yn dilyn insiwleiddio waliau ceudod o dan gynlluniau Llywodraeth Cymru? OAQ52882

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru ( 7 Tach 2018)

David Rees: 4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol yng Ngorllewin De Cymru sy'n wynebu heriau o ganlyniad i galedi? OAQ52876

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Achos Wightman yn Llysoedd yr Alban (24 Hyd 2018)

David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, mae'r golygfeydd di-drefn a welsom yn San Steffan o ganlyniad i fethiant Llywodraeth y DU i gael unrhyw beth yn debyg i gytundeb ar hyn o bryd yn gwneud hyn yn llawer tebycach i: beth y gallwn ei wneud i ymestyn neu hyd yn oed i ddirymu erthygl 50? A gwn fod yr achos hwn yn ei roi'n ôl mewn sefyllfa Llys Cyfiawnder Ewrop, ond nid...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Hawliau Dinasyddion yr UE yng Nghymru (24 Hyd 2018)

David Rees: Gwnsler Cyffredinol, mae'r cwestiynau wedi canolbwyntio llawer iawn ar ddinasyddion yr UE. Ddydd Llun, aeth aelodau o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i lysgenhadaeth Norwy, ac fe'n hatgoffwyd hefyd mai dinasyddion Ardal Economaidd Ewropeaidd sydd angen inni feddwl amdanynt. Felly, a gaf fi ofyn i chi sicrhau, pan fyddwch yn cael trafodaethau gyda'ch cymheiriaid yn San...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Achos Wightman yn Llysoedd yr Alban (24 Hyd 2018)

David Rees: 2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r goblygiadau ar gyfer Cymru o achos Wightman yn llysoedd yr Alban ynghylch Erthygl 50? OAQ52826

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (24 Hyd 2018)

David Rees: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i wella'r system drafnidiaeth yng Ngorllewin De Cymru?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (16 Hyd 2018)

David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud mewn perthynas â'r newidiadau i'r ffin rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf?

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (10 Hyd 2018)

David Rees: Pa drafodaethau y mae Arweinydd y Tŷ wedi'u cael gyda'r Cwnsler Cyffredinol ynghylch y camau y mae angen i Lywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod yr hawliau a nodir yn siarter hawliau sylfaenol Ewrop yn cael eu hymgorffori o fewn cyfraith Cymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynlluniau Adfywio yng Ngorllewin De Cymru ( 9 Hyd 2018)

David Rees: Prif Weinidog, mae adfywio economaidd yn amlwg yn dibynnu ar nifer o faterion yn y saith etholaeth ar draws y de, gan gynnwys Aberafan. Mae trafnidiaeth yn fater pwysig i sicrhau y gallwn ddenu busnesau a dod â buddsoddiad. Nawr, bu adroddiad i Lywodraeth Cymru ar faterion llygredd yr M4 sy'n gwneud cynnig i Lywodraeth Cymru ystyried cau cyffordd 41. Y tro diwethaf y gwnaeth hynny, roedd...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 9 Hyd 2018)

David Rees: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael â Llywodraeth y DU am y fargen sector dur?

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot ( 3 Hyd 2018)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, er fy mod yn gwerthfawrogi'r datganiad ddoe a oedd yn n nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu'r cynnydd mewn cyflogau athrawon, mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn dal i wynebu diffyg enfawr yn eu cyllideb, a byddant yn wynebu'r heriau y mae'n rhaid iddynt eu hwynebu er mwyn gwneud toriadau nad oes unrhyw un am eu gwneud i'n gwasanaethau cyhoeddus. A wnewch chi...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Gwasanaeth Prawf ( 3 Hyd 2018)

David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, yn 2014, penderfynodd Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd breifateiddio'r gwasanaeth prawf gan ei hollti'n ddwy ran: y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a'r cwmnïau adsefydlu cymunedol, sydd hefyd i’w cael yma yng Nghymru. Nawr, fis Rhagfyr diwethaf, cawsom adroddiad gan brif arolygydd Arolygiaeth Prawf Ei Mawrhydi, y Fonesig Glenys...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y Gwasanaeth Prawf ( 3 Hyd 2018)

David Rees: 2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ynghylch dyfodol y gwasanaeth prawf yng Nghymru? OAQ52694

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ( 3 Hyd 2018)

David Rees: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth baratoi'r setliad dros dro ar gyfer awdurdodau lleol yn y gyllideb sydd i ddod?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.