Canlyniadau 3201–3220 o 4000 ar gyfer speaker:Vaughan Gething

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch am y sylwadau. Cyfarfûm â Chris Ruane beth amser yn ôl ynghylch y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn y grŵp trawsbleidiol yn San Steffan. Roedd consensws yno am ymagwedd ehangach, ac mae'r gwleidyddion eu hunain wedi canfod defnyddioldeb ymagwedd ymwybyddiaeth fyfyriol. Rwy'n falch eich bod yn cydnabod ei fod yn cael ei grybwyll yn ffurfiol yn y cynllun cyflawni hefyd. Yr her bob amser...

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Ydw, rwy’n cytuno’n llwyr. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod y Cynulliad a'r Comisiwn yn dangos arweiniad yn y maes hwn hefyd, nid yn unig drwy ymrwymo i'r addewid Amser i Newid Cymru, ond drwy gydnabod bod gallu mynd yn ôl i'r gwaith, a gallu aros mewn gwaith, yn wirioneddol bwysig ar gyfer cynnal ymdeimlad pobl o hunanwerth a lles. Rwy’n credu bod y rhan fwyaf ohonom ni yma yn cael...

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Dechreuaf gyda CAMHS. Rwy’n cydnabod ein bod wedi cael gwelliant o tua 21 y cant mewn amseroedd aros ar gyfer pobl ledled Cymru. Fodd bynnag, mae'r nifer yn dal yn rhy uchel, ac mae llawer gormod o bobl yn aros yn rhy hir. Mae hyn yn mynd yn ôl o hyd at wneud yn siŵr bod gan bobl nad ydynt angen y gwasanaeth arbenigol lwybr gwahanol ar gyfer cymorth...

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Byddaf yn cadw at ymdrin â'r cwestiynau. Mae eich cwestiwn am therapïau seicolegol—nodais yn fy natganiad ac yn rhannol wrth ateb Rhun ap Iorwerth a'i gyfres o gwestiynau, wrth gwrs, fod yr arian yr ydym yn sôn amdano yn mynd i gael ei fuddsoddi yn bennaf mewn staff i ddarparu'r therapïau, a dyna'r pwynt ynglŷn â sut yr ydym yn dymuno...

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am geisio mynd drwyddynt yn fyr ac yn gyflym, gan gadw mewn cof y gyfarwyddeb a gawsom yn gynharach. O ran y pwynt am adeiladu cydnerthedd a rhagnodi cymdeithasol, nid wyf yn credu bod unrhyw wrthdaro rhwng y cynllun cyflawni hwn a thelerau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwy’n credu y gallai fod her o ran y ffordd y mae pobl...

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch am y tri chwestiwn. Rwyf yn hapus i ymateb. Rwyf am ateb yn gyntaf eich cwestiwn am ofalwyr. Mewn gwirionedd, wrth gwrs, rydym yn sôn am ofalwyr ym mhob rhan o’n gwahanol strategaethau ac nid dim ond yn yr un yma ychwaith. Maen nhw’n cael eu crybwyll yn benodol yn rhan o faes blaenoriaeth 4, ond nid dyna'r unig un o'r 10 maes blaenoriaeth lle mae gofalwyr yn berthnasol. Byddwn yn...

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Felly, mae llawer yn ymwneud â chael y staff cywir wedi’u sefydlu. Rydym yn cydnabod bod bylchau yn dal i fod o ran ble yr ydym eisiau bod. Mae'n un o'r ychydig feysydd a gaiff ei herio, er enghraifft, mewn gwasanaethau cyhoeddus, fel y meant gennym erbyn hyn, lle mae arian yn dynnach, ond mae galw yn dal i fod am fwy o staff yn y GIG mewn gwahanol arbenigeddau. Ein her ni bob amser...

6. 5. Datganiad: ‘Law yn Llaw at Iechyd Meddwl’ (11 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Gorffennaf, bydd yr Aelodau'n cofio i mi gyflwyno drafft Llywodraeth Cymru ar yr ail gynllun cyflawni i gefnogi ein strategaeth traws lywodraethol 10 mlynedd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl'. Lansiais y cynllun cyflawni terfynol ddoe i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Mae cynllun cyflawni 2016-19 yn nodi 10 maes blaenoriaeth ar gyfer gwella gwasanaeth,...

3. Cwestiwn Brys: Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Ni fydd yr adroddiad ar yr ymchwiliad ar fy nghyfer i, mater i’r bwrdd iechyd fydd hwnnw, ond byddwn yn disgwyl y byddant yn gwneud yn siŵr fod Aelodau’r Cynulliad yn cael eu briffio. Yn wir, fe gafodd Aelodau’r Cynulliad eu briffio ar y mater hwn, ac unwaith eto, mae’n glod i’r bwrdd iechyd—aethant ati’n rhagweithiol i ddweud wrth bobl am y broblem, yn...

3. Cwestiwn Brys: Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Rhan o’r her wrth ymdrin â mater penodol yw fy mod yn credu bod gennym gyfrifoldeb i beidio â siarad fel pe bai’r ofnau hynny’n ffeithiau. Mae’r camau a gymerwyd wedi bod yn gwbl briodol yn yr ystyr eu bod yn gwahardd staff o’u gwaith fel gweithred niwtral i ganiatáu i ymchwiliad ddigwydd. Bydd person allanol o’r tu allan i Betsi Cadwaladr yn cynnal yr ymchwiliad, ac mae’n...

3. Cwestiwn Brys: Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Nid wyf yn credu ei bod yn ddefnyddiol cyfeirio’n ôl at y digwyddiadau penodol yn Nhawel Fan fel rheswm i ladd ar y gwasanaeth yn gyffredinol yng ngogledd Cymru. Gwnaed honiad difrifol am ofal cleifion, ac rwy’n falch, mewn gwirionedd, fod yr aelod o staff wedi teimlo y gallai dynnu sylw at y mater. Gweithredodd y bwrdd iechyd yn gywir ac yn briodol. Rwy’n credu bod hynny’n arwydd...

3. Cwestiwn Brys: Uned Iechyd Meddwl Bryn Hesketh ( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Gwnaf. Roedd Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am y sefyllfa hon gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos diwethaf. Rwyf wedi cael fy sicrhau bod y bwrdd iechyd wedi rhoi camau ar waith i sicrhau diogelwch cleifion, ac mae ymchwiliad i’r honiadau wedi dechrau.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Llanharan a Phencoed
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Mae byrddau iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf yn gweithio gyda’i gilydd ar wasanaethau gofal sylfaenol ym Mhencoed a Llanharan. Maent yn sefydlu gweithgor ar y cyd i edrych ar ffyrdd newydd o ddiwallu angen lleol yn well.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Tiwmorau Niwroendocrin
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Ar y rhan benodol ar diwmorau niwroendocrin, mae gennym lwybr ymlaen lle ceir arweinyddiaeth glinigol a chydnabyddiaeth o’r hyn sydd angen i ni ei wneud. Rydym yn disgwyl y canlyniad gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Rwy’n credu eich bod yn gofyn cwestiwn ehangach o lawer am wasanaethau canser yn gyffredinol. Wrth gwrs, nodais ddoe—nid wyf yn siŵr a oeddech yn ôl ar y...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Tiwmorau Niwroendocrin
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Yng ngogledd Cymru, mae pobl yn gwneud defnydd o wasanaeth arbenigol yn Lerpwl ac nid oes problem benodol gyda mynediad. Yr her yma yn ne Cymru yw sut—. Mae modd i bobl gael mynediad at wasanaethau yn Lloegr os ydynt yn dymuno gwneud hynny wrth i ni weithio ar fodel yma. Mae’n wasanaeth arbenigol ac mae’n gymharol brin. Yr her oedd gweithio drwy’r argymhellion...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gwasanaethau Iechyd yn Nhorfaen
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Mae’n bwysig deall barn y bobl sy’n defnyddio gwasanaeth, o ran yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio hefyd; mae’n rhan bwysig o wella gwasanaethau. Felly, mae angen i ni wrando ar lais defnyddwyr y gwasanaeth i ddeall yr hyn nad yw’n gweithio. Fe grwpioch chi’r bobl hynny sy’n ystyried bod y gwasanaeth yn gymedrol, gyda’r rhai sy’n ei ystyried yn llai na...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Tiwmorau Niwroendocrin
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella darpariaeth gwasanaethau tiwmorau neuroendocrin yng Nghymru. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal adolygiad trylwyr o wasanaethau de Cymru ac mae bellach yn gweithio ar weithredu gwelliannau.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gwasanaethau Iechyd yn Nhorfaen
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn, ac rwy’n cydnabod ei bod wedi dod â’r mater hwn yn daer ac yn gyson i sylw’r Siambr ers mwy nag un tymor, yn ogystal ag yn y cyfarfodydd rwyf wedi bod yn hapus i’w cael gyda chi ac amryw o Aelodau etholaethau eraill yng Ngwent sydd wedi trafod y mater gyda chi. Dywedais yn y pwyllgor iechyd fy mod yn cydnabod bod angen sicrwydd, fy mod yn cydnabod yr...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Datblygiad Telefeddygaeth
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Pan fyddaf yn edrych ar ddatblygiadau ar gyfer telefeddygaeth a theleiechyd, nid wyf yn ei rannu’n syml yn ôl y llinellau penodol hynny yn y gyllideb. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud a pha seilwaith sydd ei angen i wneud yn siŵr y gall pobl ddefnyddio’r gwasanaeth hwnnw. Er enghraifft, mewn gofal llygaid, mae gennych angen penodol am gamerâu, ond os ydych yn siarad am...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Gwasanaethau Iechyd yn Nhorfaen
( 5 Hyd 2016)

Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a phartneriaid eraill i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel i bobl Torfaen sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i bobl Torfaen.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.