David Rees: Diolch i chi am yr atebion hynny. Credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod mewn sefyllfa i ddeall goblygiadau senario ‘dim bargen’ ar gyfraith Cymru ac rydym, yn llythrennol, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 30 Mawrth 2019 heb unrhyw amddiffyniadau, ar un ystyr, ac rydym wedi colli llawer o amddiffyniadau a roddodd yr UE ni. Felly, a allwch chi gadarnhau eich bod mewn trafodaethau gyda...
David Rees: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol, oherwydd rhan o'r hyn yr oeddwn am ei sicrhau oedd ein bod yn cael cyfle, wedi inni gael yr ystyriaeth a phenderfyniad gan y Goruchaf Lys, i'ch holi am eich barn a'ch dehongliad o'r penderfyniad hwnnw, yn enwedig gan ein bod ni, fel Cynulliad, wedi penderfynu cefnogi Bil Ymadael â'r EU, ac o ganlyniad, fod ein Bil wedi'i dynnu'n ôl o'r...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, y rhan o'r draffordd rydym yn ei thrafod yw 41 i 48, ond rwyf am ganolbwyntio ar 41 i 42 ar hyn o bryd, lle mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y terfyn 50 mya mewn ymgais i leihau llygredd a nitrogen deuocsid. Wel, adroddiad a luniwyd ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ystod cyfnod 3 yr asesiad yw'r adroddiad sydd gennyf yn fy llaw mewn gwirionedd. Ac mae'n cynnwys...
David Rees: 2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i swyddog cyfatebol yn yr Alban ynghylch yr achos gerbron y Goruchaf Lys ar Fil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban)? OAQ52640
David Rees: 3. Pa ddadansoddiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar gyfraith Cymru os na fydd cytundeb yn deillio o'r negodiadau ar Brexit? OAQ52641
David Rees: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus i gymunedau yng Nghwm Afan uchaf yn diwallu eu hanghenion?
David Rees: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad—un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, sydd wedi gadael y Siambr ar hyn o bryd, rywbryd cyn toriad mis Hydref, ar y cynnydd o ran newidiadau ffin Byrddau Iechyd Cwm Taf ac Abertawe Bro Morgannwg, fel y gallwn ni gael diweddariad ar yr hyn sy'n digwydd a lle bydd yn mynd? Oherwydd bydd yn dod i rym o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ac mae'n...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf finnau hefyd yn croesawu'r cynllun 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', yn ogystal â'r fwrsariaeth, a chroesawaf y ffaith bod y fwrsariaeth yn dal i gael ei chadw yma yng Nghymru er bod y Torïaid yn Lloegr wedi'i dileu. Mae hynny'n allweddol er mwyn sicrhau bod mwy o ddinasyddion Cymru yn dod i mewn i'r proffesiwn. Ac nid yw'n ymwneud â nyrsio yn unig, wrth gwrs; mae'n...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae pob un ohonom yn deall bod argaeledd gwelyau yn hollbwysig, yn enwedig gyda phwysau'r gaeaf, ac mae Andrew R.T. Davies wedi tynnu sylw at hynny. Ym mis Mai, cynhaliwyd ymgynghoriad gan fy mwrdd iechyd lleol ar yr hyn a alwai'n newidiadau i'r gwasanaeth, ond a oedd yn golygu cael gwared ar welyau mewn gwirionedd. Roeddent yn argymell y dylid cael gwared ar...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi darllen y cod a osodwyd ddydd Llun. Mae'n cynnwys dynodiad o ysgolion gwledig at ddibenion rhagdybiaeth yn erbyn cau, ac mae'n defnyddio dosbarthiad gwledig a threfol y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ac rwy'n derbyn hwnnw, a dyna pam fod y rhestr yno ar y cefn. Ond pan edrychwch ar y gofynion ychwanegol manwl, rwy'n gofyn y cwestiwn: pam nad ydynt yn...
David Rees: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ddarparu addysg cymunedol cadarn i blant ledled Cymru?
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Roeddwn wedi gobeithio siarad ychydig yn hwy, ond rwy'n credu bod y 10 munud a ddefnyddiwyd wedi niweidio llawer o'n cyfleoedd. A gaf i hefyd sôn am un neu ddau o bwyntiau rhesymegol? Gwnaeth Steffan Lewis ddadl glir iawn ac ni allai dim fod yn fwy amlwg na'r hyn a ddywedodd am oblygiadau Brexit 'dim bargen'. Hoffwn pe...
David Rees: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Mae'r un cyntaf yn ymwneud ag addysg ac mae'n gysylltiedig â phenderfyniad Cyngor Castell-nedd Port Talbot i gau Ysgol Gyfun Cymer Afan. Cawsom ddatganiad yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch cau ysgolion gwledig a'r ymgynghoriad yn ogystal â chanlyniad o hwnnw. Yn amlwg, hoffwn i gael diffiniad o'r hyn a...
David Rees: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n siŵr bod llawer o faterion yr ydych chi'n rhoi ystyriaeth iddynt. Canolbwyntiwyd y gwaith o fonitro ansawdd aer ar PM10s a PM2.5s—sy'n ddealladwy, gan mai dyna'r rhai a gydnabyddir sy'n cael yr effaith fwyaf ar iechyd pobl—ond rydym ni wedi gweld cynnydd mawr i'r hyn a adnabyddir fel alldafliadau llwch niwsans o waith dur Port Talbot ar draws...
David Rees: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella ansawdd aer ym Mhort Talbot a'r cyffiniau? OAQ52615
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, rydym yn agosáu at sefyllfa lle mae'r anhrefn rydym wedi'i weld yn Llundain—lle, yr wythnos diwethaf, roeddent yn rhedeg drwy'r Tŷ Cyffredin gyda'r Papurau Gwyn, am nad oedd unrhyw un wedi'u gweld, a Gweinidogion yn ymddiswyddo—yn ein gwthio tuag at ymadael heb 'ddim bargen'. Mae Mark Isherwood wedi tynnu sylw at y ffaith bod y swyddogion wedi bod...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r sector twristiaeth yn faes eang. Mae'n cynnwys lleoedd fel pyllau Glyncorrwg, neu'r beiciau mynydd yng Nglyncorrwg, ond mae rheini hefyd yn cynnwys yr unedau hunanddarpar y mae pobl yn aros ynddynt er mwyn defnyddio'r systemau hynny. Ond maeein busnesau bach hefyd yn gwasanaethu'r sector hunanddarpar hwnnw, ac maent yn gwasanaethu'r gymuned gyfan, ac yn aml iawn...
David Rees: A wnaiff Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i weithredu Siarter Hawliau Dynol Ewrop yn dilyn Brexit?
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu eich datganiad yn llawn ac rwy'n cytuno â phopeth y gwnaethoch chi ei ddweud yn y datganiad hwnnw a'r holl atebion a roesoch chi. A gaf i hefyd gytuno â sylwadau Steffan Lewis a chytuno â rhai o'r pwyntiau yr oedd yn eu gwneud? Mae'n bwysig iawn inni fynd i'r afael â'r rheini. Roedd hi'n wael i gynrychiolydd y Ceidwadwyr sôn...
David Rees: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac nid wyf am siarad am yr estyniad 50 mya, sy'n achosi anhrefn, ond rwyf am siarad am Tata Steel a'r materion sy'n ymwneud â hynny. Mae pob un ohonom yn deall bod diwydiant trwm yn arwain at ryw fath o lygredd, ond mae llawer iawn o etholwyr wedi mynegi pryderon aruthrol ynglŷn â'r lefelau llwch rydym wedi'u cael ym Mhort Talbot dros y misoedd diwethaf....