Vaughan Gething: Gwnaf, rwy’n hapus iawn i gydnabod hynny, ac rwy’n falch fod rhywun wedi nodi lansiad y gwasanaeth 111. Mae wedi cael ei ddatblygu ar gefn yr hyn sydd wedi gweithio a’r hyn nad yw wedi gweithio yn Lloegr hefyd gan grŵp prosiect yma yng Nghymru. Rwy’n hynod o falch o gydnabod y gefnogaeth wirioneddol a gafwyd gan yr ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans, gan ofal eilaidd, ond hefyd...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y cwestiwn a’r pwynt penodol a grybwyllwyd gennych. Rydym yn cydnabod bod potensial mawr gan deleiechyd ar gyfer y dyfodol ac rydym yn meddwl ei bod yn ffordd dda o ddarparu gwasanaethau arbenigol i bobl er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal yn agosach at adref. Yn aml, nid oes angen i chi deithio, ac mae hynny’n rhan fawr o’r fantais, ac rydym wedi’i weld ym menter...
Vaughan Gething: Gwnaf. Ein strategaeth ar gyfer Cymru, ‘Iechyd a Gofal Gwybodus’, yw ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer gweithredu ffyrdd newydd o ddarparu gofal trwy fanteisio ar dechnolegau digidol, gan gynnwys telefeddygaeth, er mwyn gwella iechyd a lles cleifion.
Vaughan Gething: Rwy’n meddwl bod y rheini’n bwyntiau hollol deg a rhesymol i’w gwneud. Rydym yn cydnabod y gall y model hŷn weithio i rai pobl, ond mae gan wahanol feddygon flaenoriaethau gwahanol—newid yn y gweithlu a newid o ran yr hyn y mae pobl am ei wneud. Er enghraifft, mae’n fwy na’r ffaith fod yna fwy o fenywod sy’n feddygon—mewn gwirionedd, mae dynion sy’n feddygon eisiau treulio...
Vaughan Gething: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at y mater hwn. Deallaf mai enw’r cwmni yw Doctaly ac mae’n gweithredu yn ardal Llundain, ond maent yn bwriadu ehangu. Rwy’n rhannu eich teimladau’n llwyr—nid wyf yn meddwl bod unrhyw le i hyn yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Ni fyddai’n rhywbeth y byddem yn ei ariannu neu’n ei annog yma yng Nghymru. Rydym yn credu mewn...
Vaughan Gething: Nid yw’n fater o wadu, ac mae yna her i ni o ran sut y siaradwn am iechyd a gofal cymdeithasol mewn modd aeddfed yn y Siambr hon, a sut rydym yn deall beth sydd angen i ni ei wneud i wella canlyniadau i bobl sy’n cael gofal a gwella—nid cynyddu’r nifer yn unig—y modd y trefnir y gweithlu. Rwy’n hynod o falch o gydnabod y mentrau y mae meddygon yn y Rhondda yn eu rhoi ar waith....
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Fel yr eglurais yn fy natganiad i’r Cynulliad ar 20 Medi, byddwn yn lansio ymgyrch recriwtio genedlaethol a rhyngwladol ar 20 Hydref i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i feddygon hyfforddi, gweithio a byw ynddo.
Vaughan Gething: Rwy’n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod y gwerth sylweddol y mae gofalwyr yn ei roi, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran eu gallu i ddarparu gofal gan anwyliaid neu rywun y mae’r sawl sy’n derbyn gofal yn eu hadnabod. Bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon, wrth gwrs, wedi cael profiad o fod yn ofalwyr i ffrindiau a/neu aelodau o’r teulu. Bydd yr Aelodau hefyd yn...
Vaughan Gething: Rwyf wrth fy modd yn eich clywed yn sôn am y Bil rheoleiddio ac arolygu, sef Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 bellach, sy’n cael ei chyflwyno gan y Gweinidog ac yn wir, y gwaith y mae’n bwrw ymlaen ag ef ar ddeall anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar y gweill ac rwy’n siŵr y byddwch yn falch iawn o glywed diweddariadau...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Mewn gwirionedd rwy’n falch pan fydd gofal cymdeithasol yn cael ei grybwyll yn y cwestiynau hyn. Mae’n hawdd iawn gwneud dim mwy na siarad am y gwasanaeth iechyd a meddygon yn benodol yn y gyfres hon o gwestiynau. Nid wyf yn rhannu eich awgrym fod gofal cymdeithasol wedi dioddef toriadau enfawr yng Nghymru. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweld iechyd a gofal...
Vaughan Gething: Mae yna bob amser ragor y gallwn ei wneud i gydnabod yn wrthrychol yr hyn rydym yn ei wneud yn dda a’r hyn nad ydym yn ei wneud cystal ac sydd angen ei wella. Ond rwy’n credu ei bod braidd yn annheg awgrymu nad oes gan y gwasanaeth iechyd gwladol ddiddordeb mewn dim heblaw trin cyflyrau corfforol pobl neu’r comisiynu iechyd ar wahân. Mae angen i ni weld y person cyfan a thrin y person...
Vaughan Gething: Rydym wedi cael yr adolygiad hwn yn y gorffennol, ac rwy’n hapus i edrych eto ar y ffordd orau o ddiogelu gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr ei fod yno fel ffactor go iawn ym meddyliau’r bobl sy’n cynllunio ac yn darparu ein gwasanaeth. Ond nid y llinellau yn y gyllideb a gasglwyd o fewn iechyd meddwl yw’r unig ddangosydd, fel y nodais yn fy ateb. Mae mwy iddi na dweud yn syml...
Vaughan Gething: Mewn gwirionedd, gwariant ar iechyd meddwl yw’r bloc unigol mwyaf o wariant sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed i a’r Gweinidog blaenorol yn nodi’r adolygiadau a wnaethom, er enghraifft, ar y cyllid sydd wedi’i glustnodi, er mwyn gwneud yn siŵr fod hynny’n wir, er mwyn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario. Ac mae ein her yn fwy na dweud yn...
Vaughan Gething: Na, nid wyf yn derbyn hynny. Nid wyf yn derbyn y ffordd rydych wedi cyflwyno’r ffigurau. Rydym yn hyderus fod mwy o feddygon teulu bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, rydym yn hyderus fod mwy o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y GIG yng Nghymru yn ogystal. Rydych yn tynnu sylw at y bartneriaeth cydwasanaethau, ac mewn gwirionedd mae’n wirioneddol gadarnhaol mai’r cydwasanaethau...
Vaughan Gething: Wel, mae’n ffaith, ac nid barn, fod nifer y meddygon ymgynghorol wedi codi’n sylweddol dros y degawd diwethaf. Ein her bob amser yw hon: ym mha rifau rydym yn parhau i wynebu her a beth y gallwn ni ein hunain ei wneud ynglŷn â hynny? Oherwydd, i ateb y cwestiwn cyntaf, a ofynnwyd gan Paul Davies rwy’n credu, rydym yn cydnabod bod yna rai meysydd arbenigol lle y ceir heriau...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Rwy’n rhannu eich pryder am y sylwadau a wnaeth Jeremy Hunt yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Bydd Aelodau ar draws y Siambr hon eisiau gweld cyfleoedd i fwy o’n pobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU gael gyrfa mewn hyfforddiant meddygol ac ymarfer meddygol, ond mae gwahaniaeth go iawn rhwng hynny a dweud nad oes croeso i feddygon tramor bellach, neu eu bod yma fel...
Vaughan Gething: Diolch i’r Aelod am y cwestiwn. Rwy’n sylweddoli fod ganddo safbwynt penodol ar y mater hwn, ond nid yw’r gwasanaethau wedi cael eu colli; maent wedi cael eu symud, ac maent wedi cael eu gwella. Rydych yn dyfynnu’r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, ac rydym yn cymryd yr hyn y maent yn ei ddweud o ddifrif. Rydym yn cydnabod bod pwysau gwirioneddol ar draws y DU ac yng Nghymru...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Mae dermatoleg yn her arbennig ar draws y DU, fel rydych yn ei gydnabod. Yn ddiweddar, cafwyd ymddeoliad o’r swydd benodol hon yn ardal Hywel Dda. Yr her yw sut y maent yn gweithio gyda rhannau eraill o’r gwasanaeth hefyd, yn enwedig y bartneriaeth sy’n tyfu gyda Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, partneriaeth rydym yn ei hannog, er mwyn deall sut...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw darparu gwasanaethau iechyd i bobl Sir Benfro sy’n sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Wrth gwrs, byddwn yn cael ein harwain gan y dystiolaeth a’r cyngor clinigol gorau a mwyaf diweddar er mwyn darparu’r gofal o ansawdd uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu.
Vaughan Gething: Primary care has an excellent future in Wales as the mainstay of a sustainable health system for future generations. We continue to invest further in primary care to increase the capacity and capability of the workforce, providing better access to more services within communities including services in the Cynon Valley.