Lesley Griffiths: Wel, soniais yn fy ateb i Simon Thomas y byddaf yn mynychu’r expo bwyd môr ym Mrwsel. Rwyf wedi darparu cyllid ar gyfer hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn fy mod yn mynychu’n bersonol, er mwyn sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’n diwydiant bwyd môr gwych yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cael y strategaeth bwyd môr a helpais i’w lansio gyda’r diwydiant oddeutu tri neu bedwar mis yn ôl.
Lesley Griffiths: Diolch. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym yn buddsoddi £26.5 miliwn yn rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru i wella effeithlonrwydd ynni ein stoc dai ac er mwyn helpu i drechu tlodi tanwydd. Ar hyn o bryd, rwy’n ystyried opsiynau ariannu ar gyfer y pedair blynedd nesaf a byddaf yn gwneud cyhoeddiad cyn diwedd mis Mawrth.
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, gobeithiaf eich bod wedi derbyn fy mod wedi dweud, yn fy ateb i Neil Hamilton, fy mod yn credu bod y rhagdybiaeth y bydd yn rhywbeth cadarnhaol braidd yn gynnar. Ond fel y dywedais, mae cyfleoedd i’w cael, a chredaf fod angen yr ymagwedd fwy hyblyg honno arnom. Rydych yn sôn yn benodol am gregyn bylchog a chregyn gleision, a sut y dylem fynd yn ein blaenau, yn enwedig mewn...
Lesley Griffiths: Credaf ei bod braidd yn gynnar i gymryd yn ganiataol y bydd Brexit mor gadarnhaol i’r diwydiant pysgota yn gyffredinol ag y mae’r Aelod yn ei awgrymu. Ond rwy’n derbyn yn llwyr—ac rwyf wedi dweud sawl tro—er y bydd gadael yr UE yn peri llawer o risgiau a heriau, y bydd yna gyfleoedd yn y dyfodol. Credaf fod mynediad at y farchnad yn gwbl hanfodol, ac fel y dywedais, bydd gennym...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae llawer o gwestiynau ac ansicrwydd ynghlwm wrth ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol mewn perthynas â dyfodol diwydiant pysgota Cymru. Er mwyn diogelu ffyniant y diwydiant a’n cymunedau arfordirol, bydd fy adran yn datblygu polisi pysgodfeydd sy’n edrych tua’r dyfodol, fel y nodir yn y Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru’.
Lesley Griffiths: The Welsh Government continues to fund Fly-tipping Action Wales, an initiative co-ordinated by Natural Resources Wales and which aims to secure a long-term reduction in fly-tipping through a combination of measures. We are also currently consulting on the introduction of fixed penalty notices for small scale fly-tipping.
Lesley Griffiths: National planning policy provides a comprehensive framework for protecting the countryside from overdevelopment. At the same time, national planning policy encourages an approach towards rural areas that supports living and working communities that are economically, socially and environmentally sustainable.
Lesley Griffiths: Environmental vandalism is an issue the Welsh Government takes very seriously and is committed to continue tackling. Our Well-being of Future Generations Act encourages us to focus on prevention, to involve people in well integrated measures and for collaboration across organisations as we work for long term, sustainable solutions.
Lesley Griffiths: Plans for woodland management are guided by the Welsh Government’s forestry strategy, ‘Woodlands for Wales’, and will in future be shaped by the national natural resources policy. The strategy establishes the long-term vision for the sustainable management of Wales’s woodlands and trees to provide benefits for future generations.
Lesley Griffiths: Na, yn hollol. Roeddwn yn gwneud pwynt cyffredinol yn unig fod yna safleoedd da iawn bellach sy’n derbyn deunydd ailgylchu, ac mae’n rhaid eu hystyried. Ond rydych yn llygad eich lle—yn amlwg, ni all busnesau eu defnyddio. Felly, er gwaethaf yr heriau y credaf fod Powys yn eu hwynebu, maent yn gwneud cynnydd rhagorol ar ailgylchu, ac unwaith eto, maent wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i chi, Russell George, am gyflwyno’r pwnc hwn ar gyfer y ddadl heddiw. Fel y dywedoch yn eich sylwadau agoriadol, rwy’n meddwl mewn gwirionedd ein bod wedi gosod ein cyfeiriad fel arweinydd ym maes ailgylchu a rheoli gwastraff. Ni yw’r uchaf yn y DU, a’r pedwerydd uchaf yn Ewrop. Credaf yn wir y bydd ein huchelgeisiau a’n targedau yn mynd â ni...
Lesley Griffiths: Starbucks, ie. [Chwerthin.] Roedden nhw'n dweud wrthyf am gynllun treialu sydd ganddyn nhw yn Llundain, lle mae biniau ar gael i bobl wagio unrhyw beth sydd ar ôl yn y gwpan, a bin arall wedyn lle mae modd ailgylchu eu cwpan. Felly, mae gwaith yn digwydd. Dywedais y byddem yn hapus iawn i gael cynllun treialu yma yng Nghymru, yn y dyfodol. Felly, credaf ei fod yn glir iawn, o'r consensws...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am y ddadl adeiladol iawn, ac mae'n dda cael cefnogaeth pawb. Mae'n rhaid i mi ddweud, ers i mi ddechrau yn y swydd, mae’n debyg mai ansawdd yr aer sy’n llenwi’r rhan fwyaf o fy mag post gan Aelodau’r Cynulliad eu hunain. I droi yn gyntaf at welliant y Ceidwadwyr Cymreig, rwy'n hapus iawn i gefnogi hwnnw. Soniodd Gareth Bennett am yr Ardaloedd...
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ddadl hon yn ymwneud â sut y gallwn sicrhau gwelliannau hanfodol i ansawdd bywyd pobl ac i'w lles. Rwyf eisiau tynnu sylw at y cysylltiadau rhwng llawer o faterion amgylcheddol lleol sy'n cyfuno i wneud lleoedd yn ddigalon ac yn afiach. Gall y materion hyn gael effaith hefyd ar gydlynu cymunedol, rhagolygon buddsoddi a’r gallu ar gyfer buddsoddiant a’r...
Lesley Griffiths: A wnewch chi gymryd ymyriad?
Lesley Griffiths: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi dweud wrthyf fod y treial yn mynd yn dda iawn. Os gallwch ddarparu tystiolaeth yn erbyn hynny, rhowch wybod i mi.
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud droeon fod amlder casgliadau gwastraff gweddilliol yn fater i awdurdodau lleol unigol, ac mae hyn yn caniatàu iddynt ystyried anghenion lleol ac adlewyrchu blaenoriaethau lleol. Gwyddom fod y Blaid Geidwadol yn frwd ynglŷn â lleoliaeth ac ymreolaeth mewn llywodraeth leol, ond fel eu...
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.
Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r testun ar gyfer y ddadl heddiw ac i’r Aelodau am eu cyfraniadau. Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n deall fy mod wedi fy nghyfyngu o ran yr hyn y gallaf ei ddweud am brosiectau neu gynigion penodol, o gofio fy rôl statudol o dan gyfundrefnau cynllunio gwlad a thref a thrwyddedau morol. Y mis diwethaf yn y Siambr hon,...
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.