Vaughan Gething: We are working closely with the NHS to deliver a major programme of improvements in CAMHS. The additional £8 million a year investment made in 2015 is already showing benefits with a 42 per cent reduction in young people waiting over 16 weeks from its peak in September 2015, compared to July 2016.
Vaughan Gething: Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd lleol wneud y defnydd mwyaf posibl o unedau mân anafiadau, a’r holl adnoddau eraill sydd ar gael iddynt, i roi mynediad prydlon i gleifion nad oes ganddynt anaf difrifol ond y gallent fod angen cael eu hasesu a’u trin. Dylai hyn fod yn rhan o system gofal heb ei drefnu integredig.
Vaughan Gething: I expect health boards to ensure that all patients, both new and follow-up, are seen in a timely manner based on clinical need.
Vaughan Gething: Work to tackle drug and alcohol addiction is undertaken through our substance misuse delivery plan 2016-18, which was published last month. The actions in the plan support our ambitions in ‘Taking Wales Forward’. We commit nearly £50 million per annum to this agenda, with a focus on reducing the harm substance misuse causes individuals, families and communities.
Vaughan Gething: Health boards are progressing with significant investment in neonatal services in both north and south Wales. This will further support the steady improvements in every health board’s achievement of the all-Wales neonatal standards since 2008.
Vaughan Gething: Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio a threfnu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion eu pobl. Mae hyn yn cynnwys darparu digon o welyau ysbyty, y bernir eu bod yn angenrheidiol o safbwynt clinigol, i fodloni’r galw a ddisgwylir yn lleol. Dylid gwneud hyn gan gadw mewn cof bod y galw yn codi ac yn syrthio gydol y flwyddyn.
Vaughan Gething: Bydd y cynllun gweithredu dementia yn cael ei lunio eleni. Felly, bydd ar gael eleni, ac mae gwaith ar y gweill mewn gwirionedd i wneud hynny. Bûm mewn digwyddiad bythefnos yn ôl ym Mhrifysgol De Cymru, a ddaeth ag ynghyd ag ystod o wahanol bobl ynghyd, yn ofalwyr ac yn unigolion sydd â dementia, a sefydliadau trydydd sector, yn rhan o’r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd i geisio...
Vaughan Gething: Efallai os dechreuaf gyda'r pwynt cyntaf, rwy’n meddwl efallai y gall fod rhywfaint o ddryswch ynghylch cynnwys y datganiad. Mae hyn yn ymwneud â'r cynlluniau gweithredu sydd gennym—y cynlluniau cyflawni yn cwmpasu cyflyrau iechyd difrifol, ac y mae 10 ohonynt. Ac, yn arbennig, rwyf wedi bod yn cyfeirio at y chwech sy'n cael eu hadnewyddu ac sydd i fod i gael eu hail-lansio o fewn y...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o sylwadau a chwestiynau. Rwy’n sicr yn cydnabod bod mwy i'w wneud ym maes atal salwch a gwella goroeswyr—yn y ddau faes hyn. Dyna pam y mae’r dull hwn gennym—sy’n dwyn ynghyd y bobl hyn sydd â diddordeb uniongyrchol yn hyn o’r Llywodraeth, y tu allan i'r Llywodraeth, a'r GIG hefyd. Mae eich enghraifft gyntaf chi, sef strôc, yn enghraifft dda o sut y...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Efallai y gallaf ddechrau gyda’r diwedd, dim ond i ddelio â hynny yn gyflym. Mae'n £1 miliwn ar gyfer pob un o'r prif gynlluniau cyflwr, ac mae sut y caiff yr arian hwnnw ei ddefnyddio yn cael ei benderfynu gan y grŵp gweithredu. Felly, mae amrywiaeth o bobl o'r gwasanaeth iechyd yn ymwneud â hynny. Yn aml, cyfarwyddwr meddygol neu brif weithredwr...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o bwyntiau a chwestiynau. Os gallaf fynd yn ôl at, rwy’n meddwl, rywfaint o'r mater agoriadol—rwy'n credu ei fod braidd yn anffodus, weithiau, mai’r argraff a roddir, pan fyddwch yn siarad am y gwelliannau ehangach ym maes gofal iechyd, yw bod hyn i gyd yn anochel a bod rôl y cynlluniau cyflawni a'r grwpiau gweithredu heb gael unrhyw effaith o gwbl. Nid wyf yn...
Vaughan Gething: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fis Hydref diwethaf, rhannais â'r Cynulliad blaenorol fy nghynlluniau i ymestyn y cynlluniau cyflawni ar gyfer iechyd difrifol tan fis Mawrth 2020. Mae’r cynlluniau cyflawni ar gyfer canser, clefyd y galon, diabetes, gofal diwedd bywyd, y rhai difrifol wael a strôc wedi cael eu hadolygu ac maent wrthi’n cael eu hadnewyddu. Bydd y cynlluniau ar gyfer cyflyrau...
Vaughan Gething: Dof yn ôl at y pwynt hwnnw gyda hyn, wrth i mi ddod i ben, gan fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn nodi’r egwyddorion sydd gennym, a’r ffaith y byddwn am gefnogi myfyrwyr nyrsio. Nid ydym yn mabwysiadu’r ymagwedd a gymerwyd yn Lloegr. Yn amlwg bydd angen i mi ystyried setliad terfynol y gyllideb wrth wneud hynny hefyd, ac mae honno wedi bod yn sgwrs gyson a gefais gyda chynrychiolwyr...
Vaughan Gething: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw. Gallaf gadarnhau y bydd y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig. Mae’n bwysig cydnabod bod trefniadau bwrsariaeth y GIG yn cwmpasu ystod eang o broffesiynau ac nid nyrsio’n unig—dyna bwynt a nododd David Rees. Bydd penderfyniad y Llywodraeth Geidwadol i gael gwared ar fwrsariaeth...
Vaughan Gething: Diolch am y sylwadau. Byddaf yn dechrau gyda'r pwyntiau diwethaf yr oeddech yn eu gwneud am eithriadoldeb clinigol a / neu angen. Y gwir amdani yw bod gennym system eisoes sy’n darparu tystiolaeth ar yr hyn y dylid ei ddarparu. Mae angen yn sicr yn rhan ohoni—a yw’n rhywbeth sy'n glinigol effeithiol—ond ni allwch ddianc rhag realiti adnoddau hefyd. Mae gan y GIG gyllideb i weithio...
Vaughan Gething: Diolch am y sylwadau hynny. Unwaith eto, rwy’n falch bod pob un o'r siaradwyr wedi teimlo y gallant ddod i mewn i'r Siambr a siarad am y ffordd yr ydym wedi ymdrin â'r mater hwn a chroesawu aelodaeth y grŵp. Rwy'n edrych ymlaen at weld pob un ohonynt yr un mor gadarnhaol pan maent yn darparu eu hargymhellion. Er y bydd gennym faterion gwahanol i ymdrin â nhw ar adegau, mae’n rhaid...
Vaughan Gething: Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Byddaf yn ceisio ymdrin â nhw’n gymharol fyr. O ran y gronfa driniaethau newydd, felly, os hoffwch chi, bydd y rhagflaenydd i hyn yn helpu i lywio'r lle yr ydym ar hepatitis C ac ystod o gyflyrau eraill lle rydym wedi darparu adnoddau sylweddol i wneud yn siŵr eu bod ar gael yn gyson. Mae hyn ar gyfer y flwyddyn gychwynnol, fel y dywedais o'r blaen...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y cwestiynau. Rwyf am ddechrau drwy groesawu'r sgwrs adeiladol, gyda Rhun a chyda llefarwyr iechyd y gwrthbleidiau eraill, hyd at y pwynt hwn, ar gylch gorchwyl yr adolygiad. Rwy’n gobeithio bod llefarwyr y gwrthbleidiau eraill wedi ei hystyried yn ddefnyddiol cwrdd â Mr Blakeman fel cadeirydd y grŵp adolygu. Rwy'n credu bod gennym apwyntiad rhagorol, nid dim ond y...
Vaughan Gething: Yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf, nodais fy nghynlluniau ar gyfer sefydlu cronfa triniaethau newydd a chynnal adolygiad â ffocws pendant, annibynnol o'r broses cais am gyllid ar gyfer cleifion unigol, a adwaenir yn gyffredin fel IPFR. Rwy’n falch o gael y cyfle hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad a phobl Cymru ar y cynnydd a wnaed gennym dros yr haf. Byddaf yn...
Vaughan Gething: Mae'r grŵp adolygu wedi dechrau ar ei waith a bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ar 6 Hydref. Byddaf yn cyhoeddi'r adroddiad ac yn cyhoeddi camau gweithredu sy'n deillio o argymhellion y grŵp adolygu yn gynnar yn y flwyddyn newydd. Gyda'i gilydd, bydd y gronfa driniaethau newydd a'r adolygiad o'r broses IPFR yn arwain at newid gwirioneddol yn y ffordd y mae cleifion yng Nghymru yn cael...