Canlyniadau 3261–3280 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar (10 Ion 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Gair ynglŷn â chwestiynau’r Aelod yn ymwneud â brechu, ni cheir yr un brechlyn mewn gwirionedd yn erbyn H5N8 sydd wedi’i awdurdodi i'w ddefnyddio yn y DU ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu bod hynny'n bwynt pwysig iawn i’w nodi. Fe wnes i sôn, mewn ateb blaenorol, am awdurdodau lleol, ac yn sicr yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd fy swyddogion yn arbennig pa mor gyflym y buont yn...

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar (10 Ion 2017)

Lesley Griffiths: Diolch i chi, Joyce Watson, am y sylwadau a’r cwestiynau yna. Rwy’n credu eich bod chi’n hollol iawn: mae angen i ni sicrhau bod y cyhoedd yn deall os ydyn nhw’n dod ar draws aderyn marw neu grŵp o bump o adar marw, y dylen nhw adrodd am hynny, ond mae angen iddyn nhw wybod wrth bwy i adrodd. Felly, ceir llinell gymorth Prydain Fawr, ond rydych chi’n hollol iawn: gallan nhw...

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar (10 Ion 2017)

Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, nid wyf i eisiau cael fy nghymharu ag Edwina Currie, felly rwy’n croesawu eich sylwadau ynglŷn â mesurau cymesur. Rydych chi'n hollol iawn: ceir amrywiaeth o straeniau o ffliw adar ac mae’r un yma yn un llwybr uchel, yr H5N8 hwn. Rwy’n credu eich bod chi’n codi pwynt diddorol yn ymwneud â’r cyhoedd yn gyffredinol, oherwydd, wyddoch chi, mae hi wedi bod yn...

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar (10 Ion 2017)

Lesley Griffiths: Os caf i ddechrau drwy ateb cwestiynau olaf Simon Thomas: a ydw i'n hyderus bod pawb a chanddyn nhw hyd yn oed un aderyn yn gwybod amdano? Byddwn i’n dweud 'nac ydw'. Dyna pam mae hi mor bwysig, fel y gwnaethoch chi ddweud, ein bod ni fel gwleidyddion yn rhannu’r wybodaeth honno. Cynhaliodd y Prif Swyddog Milfeddygol rownd sylweddol o gyfweliadau yr wythnos diwethaf. Ymddangosodd hi...

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar (10 Ion 2017)

Lesley Griffiths: Diolchaf i Paul Davies am ei gwestiynau a’i sylwadau. Rwy'n credu ei bod yn dda iawn eich bod chi, i ryw raddau, wedi ailadrodd yr hyn a ddywedais am y risg i iechyd y cyhoedd: mae'n isel iawn, ni chafwyd yr un achos cyhoeddus o’r straen hwn o ffliw, ac mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dweud ei bod hi’n ddiogel iawn i fwyta dofednod ac wyau. Rwy'n credu ein bod ni wedi...

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar (10 Ion 2017)

Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mewn ymateb i achosion o ffliw adar H5N8 pathogenig iawn ar draws Ewrop, gogledd Affrica a'r dwyrain canol, fel mesur rhagofalus, gwnes i ddatgan Cymru gyfan yn barth atal ffliw adar ar 6 Rhagfyr 2016. Mae'r parth atal yn ei gwneud hi’n ofynnol i’r holl bobl sy’n cadw dofednod, ac adar caeth eraill, gadw eu hadar dan do, neu gymryd pob cam priodol i’w cadw...

5. 4. Datganiad: Ffliw Adar (10 Ion 2017)

Lesley Griffiths: Ni allaf roi digon o bwyslais ar yr angen i’r rhai hynny sy'n cadw heidiau o ddofednod ac adar domestig barhau’n effro i arwyddion o’r clefyd, i gysylltu â'u milfeddygon preifat os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon ac i arfer y lefelau uchaf o fioddiogelwch.

11. 8. Dadl Fer: Pam Mae Angen Cofrestr Cam-drin Anifeiliaid ar gyfer Cymru (14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn eich bod wedi cyflwyno’r pwnc hwn, Bethan, ar gyfer eich dadl fer heddiw. Fel y dywedwch, fe wnaethoch ei ddwyn i fy sylw mewn cwestiwn llafar yn ôl ym mis Hydref a’r wythnos diwethaf, atebais gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan Paul Davies, sydd yn y Siambr. Dywedais wrth y ddau ohonoch nad oedd yn rhywbeth roeddwn wedi ei ystyried erioed,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Diogelu Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Wel, fel y dywedaf, mae’n rhywbeth rwyf wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo, wyddoch chi, chwe mis—wel, saith mis—i mewn i’r swydd. Rwyf wedi cael nifer o drafodaethau. Rwyf wedi cyfarfod â Gweinidog DEFRA bellach. Rydym wedi bod yn aros i weld—. Nid oes gennym unrhyw syrcasau trwyddedig yma yng Nghymru mewn gwirionedd; maent yn cael eu trwyddedu yn Lloegr. Felly, rwy’n credu ei...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Diogelu Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar y mater hwn yfory. Byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno cynllun, megis cofrestru neu drwyddedu, ar gyfer arddangosfeydd symudol o anifeiliaid, gan gynnwys syrcasau, sy’n arddangos anifeiliaid domestig ac egsotig yng Nghymru. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal yma yn gynnar y flwyddyn nesaf.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Diogelu Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Mae wedi bod yn broblem dros amser maith, ac mae’n rhywbeth y mae gennyf ddiddordeb arbennig ynddo ers i mi gychwyn yn y swydd ym mis Mai. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Gweinidog DEFRA, oherwydd roeddwn eisiau cymryd rhan mewn trafodaethau gyda hwy i weld a allem gael rhyw fath o gynllun a mentrau ar y cyd yn y dyfodol. Roedd yn awyddus iawn hefyd i siarad â’r Alban a Gogledd Iwerddon i...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Torri’r Biblinell Olew yn Nantycaws
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Ie, pan oeddwn yn bresennol ar safle’r arllwysiad—ar Ddydd Sadwrn 8 Hydref rwy’n credu—cyfarfûm â Valero a Cyfoeth Naturiol Cymru, ac roeddwn yn falch iawn o weld y ffordd roeddent yn gweithio gyda’i gilydd. Ond rydych yn hollol gywir; ar y pryd, nid oedd achos yr arllwysiad wedi’i ganfod, ond mae’n bwysig—mae’n biblinell hir iawn—mae’n wirioneddol bwysig ei bod yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Torri’r Biblinell Olew yn Nantycaws
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwyf wedi cael gwybod na fydd yr ymchwiliad gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael ei gwblhau tan ddiwedd mis Mawrth, ac yn amlwg mae cryn dipyn o amser nes hynny. Felly, rwy’n hapus iawn i ofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi’r hyn a allant cyn yr amser hwnnw. Gwn eich bod yn cyfarfod â Cyfoeth Naturiol Cymru ddydd Gwener, felly byddaf yn gwneud yn siŵr fy mod yn ei wneud cyn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Torri’r Biblinell Olew yn Nantycaws
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae asesiad o’r arllwysiad olew yn Nantycaws ar y gweill ar hyn o bryd gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yr asesiad yn ymchwilio i achosion yr arllwysiad, ei effeithiau ac unrhyw gamau gweithredu ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru o dan ei bwerau fel rheolydd. Hyd nes y bydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau, ni allaf roi sylwadau pellach.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Uwchgynhadledd Meiri C40
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Wel, rwy’n credu mai’r hyn y maent yn galw hynny yw gwyddoniaeth a symud ymlaen a dysgu. Buaswn yn sicr yn hoffi gosod targed i gael gwared ar geir tanwydd ffosil erbyn dyddiad penodol, ond i wneud hynny mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr fod gennym y metro, er enghraifft, lle y mae gennym y drafnidiaeth gynaliadwy honno ar waith i’r cyhoedd ei defnyddio. Ond yn sicr, y ffordd ymlaen yw...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Uwchgynhadledd Meiri C40
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae ymrwymiad y meiri i wahardd cerbydau diesel o’r pedair dinas erbyn 2025 yn un ymateb i ymwybyddiaeth gynyddol y cyhoedd o effeithiau llygredd aer ar iechyd. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu ein polisïau ansawdd aer, yn dilyn ein hymgynghoriad ar y pwnc, a ddaeth i ben ar 6 Rhagfyr.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Uwchgynhadledd Meiri C40
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Nid wyf yn siŵr a oeddech yn y Siambr pan dynnodd Simon Thomas sylw at fater tebyg yn ymwneud â hyn, David, ac roeddwn yn dweud, wyddoch chi, eich bod yn hollol gywir. Mae gennym y grŵp hwn o feiri—a chyfarfûm â nifer ohonynt pan oeddwn yng Nghynhadledd y Partïon 22—sy’n uchelgeisiol iawn gyda’u targedau ar gyfer dod â’r defnydd o geir diesel i ben erbyn 2025. Roeddwn yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ardaloedd Trefol Casnewydd
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Roeddwn yn meddwl bod yr Aelod am fy ngwahodd i ymuno ag ef mewn sesiwn gasglu sbwriel, a buaswn yn fodlon iawn i wneud hynny, ac rwyf wedi cymryd rhan mewn sawl un dros yr ychydig fisoedd diwethaf. [Chwerthin.] Ond rwy’n sicr yn llongyfarch y grŵp. Mae wedi bod mor dda gweld cymunedau’n dod at ei gilydd ac yn dangos cymaint o falchder. Euthum draw i gasglu sbwriel mewn ardal yng...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ardaloedd Trefol Casnewydd
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Rydym yn sicr yn cydnabod pwysigrwydd cyfleoedd i sicrhau mynediad i gymunedau er mwyn hyrwyddo gwell iechyd a lles. Mae llwybr arfordirol Cymru wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid, ond yn bendant hefyd, mae wedi bod yn boblogaidd gyda chymunedau lleol a phobl ledled Cymru. Rydym yn darparu cyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynnal a gwella’r llwybr, ac mae rhaglen waith...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ardaloedd Trefol Casnewydd
(14 Rha 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Ein polisi yw cyflwyno rhaglenni sy’n dod â phobl, grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i wella lle y maent yn byw neu’n gweithio. Mae hyn yn cynnwys ein rhaglen eco-sgolion, sy’n cynnwys 20 o ysgolion yng nghanol Casnewydd, sy’n grymuso ac yn ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w bywydau.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.