David Rees: 3. Pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn yr ardaloedd na fydd yn cael eu gwasanaethu gan fetro de Cymru? OAQ52472
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Rwy'n ddiolchgar iawn ichi am dderbyn ymyriad, ac rwy'n datgan ar goedd fod fy ngwraig yn aelod o staff y GIG. A allwch chi ddweud wrth staff y GIG yng Nghymru felly pa bryd y byddant yn cael y cynnydd hwnnw a beth fydd yn talu amdano? Oherwydd, ar hyn o bryd, mae eich Llywodraeth eich hun yn Llundain yn dweud, 'Codiadau yn y dreth'. Dyna ni—atalnod llawn. Ni chawn unrhyw...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw?
David Rees: Rwy'n derbyn y pwynt hwnnw, ond rwy'n credu nad yw ond yn deg derbyn bod y ffyrdd yn llawer mwy peryglus nag yr oeddent pan oeddech chi a minnau'n mynd i'r ysgol, ac nid yw gyrwyr eu hunain bob amser yn ymwybodol o'r hyn sydd ar y palmentydd heddiw. Felly, nid un peth ydyw, mae'n gyfuniad o bethau.
David Rees: Rwy'n cytuno'n llwyr fod y dechnoleg i edrych ar, nid yn unig yr hydrogen ond ailgylchu rhai o'r nwyon gwastraff a ryddheir, a'r allyriadau o ganlyniad i hynny, a sut y gallwch ddal carbon ar y staciau a'r pethau hynny—dyma dechnolegau yr ydym yn eu datblygu ac mae angen inni adeiladu arnynt. Mae angen inni annog pobl fel Tata i fuddsoddi yn y gwaith ymchwil hwnnw hefyd, felly rwy'n...
David Rees: Gwnaf.
David Rees: Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol y dylwn fod yn siarad yn y ddadl hon fel cynrychiolydd etholaeth yr hyn a labelwyd fis yn ôl yn unig fel y dref fwyaf llygredig yn y DU. Hoffwn gofnodi eu bod yn anghywir, ac y dylai'r ffigur a ddyfynnwyd ganddynt, sef 18 mg/cu m fod wedi bod yn 9.6 m mg/cu, sy'n dod â ni i lawr i'r lefel gyfartalog a chyrraedd y terfynau. Felly, fe wnaf yn siŵr...
David Rees: Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â'r fformiwla ariannu a ddefnyddir i ddyrannu arian i fyrddau iechyd?
David Rees: Fe wnaf ddod at hyn, oherwydd mae'n bwynt diddorol iawn. Mae'n amlwg i mi nad oes gan y Llywodraeth bresennol unrhyw sgiliau negodi o gwbl, ei bod yn mynd i'r negodiadau heb ddeall bod negodi yn broses ddwyffordd, mewn gwirionedd, a bod yn rhaid i chi ddeall dadleuon y ddwy ochr a'r hyn y mae'r naill ochr a'r llall yn ei dymuno. Mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn deall hynny a'i bod yn...
David Rees: A gaf i ddechrau drwy efallai atgoffa pobl, yn anffodus, y bydd y DU yn gadael yr UE ar 29 Mawrth 2019 oherwydd bydd Theresa May yn dal ei gafael ar bŵer ac yn ddi-os yn ein harwain ni allan, oherwydd mae hi wedi gwneud hynny'n gwbl glir? Ond y cwestiwn yw ar ba delerau yr ydym ni'n ymadael, a dyna'r cwestiwn mwyaf i bob un ohonom ni yn ein gyrfaoedd gwleidyddol, rwy'n credu, yn y dyfodol....
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, llesiant a chwaraeon, mewn gwirionedd, ddatganiad ysgrifenedig yn amlinellu'r penderfyniad i newid ffiniau Byrddau Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf. Mae hyn yn cyflwyno canlyniadau pwysig i fy etholwyr i ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, a gaiff ei wasanaethu gan glinigwyr o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, a hefyd,...
David Rees: Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwy'n derbyn y ceir ysgolion sydd mewn cyflwr tebyg i'r hyn yr ydych yn siarad amdano, a dylent fod ar fand A neu fand B o raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond a ydych hefyd yn derbyn y ffaith bod yna ysgolion newydd sbon yn cael eu hadeiladu? Mae gennyf dair ysgol gyfun yn fy etholaeth, ynghyd â dwy ysgol gynradd newydd, sy'n gyfleusterau...
David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf ddyfyniad o'r ail baragraff: Nid yw carchardai yng Nghymru yn perfformio cystal â charchardai yn Lloegr ar amrywiaeth o fesurau diogelwch carchar. Mae nifer y digwyddiadau a gofnodwyd o hunan-niwed ac ymosodiadau carchar yng Nghymru wedi cynyddu ar gyfradd uwch nag... yn Lloegr. Mewn gwirionedd roedd mwy o ddigwyddiadau yng...
David Rees: 4. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddata yn adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru, 'Imprisonment in Wales: A Factfile'? OAQ52326
David Rees: Gwnsler Cyffredinol, yn eich ateb i Bethan Sayed, dywedasoch yn gwbl glir na allai'r Goron wneud gorchmynion prynu gorfodol am dir, ond pe baent yn cael dirymiad sy'n trin y Goron yr un fath ag unigolyn, a ydych mewn sefyllfa i ddweud y byddai hynny, mewn gwirionedd, yn gallu newid hynny, neu a ydym yn dal i fod mewn sefyllfa lle na all y Goron brynu'r tir hwnnw?
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, wrth i'r economi dyfu, mae trafnidiaeth, yn amlwg, yn un agwedd ar hynny. Gwn fod Mark Barry yn cynnig metro de Cymru, sy'n tynnu sylw at rôl y system drafnidiaeth yn ardal de Cymru ac yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn benodol, ond mae cael gwared ar orsaf Castell-nedd, sydd yn fy mwrdeistref sirol, oddi ar y brif linell yn rhan bosibl o'r cynnig hwnnw. A allwch...
David Rees: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna ac am achub y blaen ar fy nghwestiwn, i raddau. Ond mae'r sancsiwn a orfodwyd gan yr Unol Daleithiau ar ddur y DU yn mynd i gael effaith fawr ar ddur Port Talbot a chynhyrchion dur o fannau eraill yng Nghymru. Bydd cwmnïau dur yn troi at fannau eraill, at farchnadoedd eraill, rhywbeth yr ydych chi wedi ei amlygu eisoes, i werthu eu dur ac, felly, mae...
David Rees: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn a chefnogi'r diwydiant dur yng Nghymru? OAQ52284
David Rees: Rwy'n mynd i ddirwyn i ben. Felly, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i graffu ar weithredoedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystod y misoedd nesaf. Fel y dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, mae hyn yn rhywbeth sy'n llifo; mae'n symud yn barhaus. Rydym wedi mwynhau'r ddadl heddiw. Rydym yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol at y sgwrs genedlaethol ar hyn a byddwn yn parhau i wneud hynny.