Vaughan Gething: Wel, mae'n atgyfnerthu'r daclus y ffaith ein bod yn wynebu heriau gweithlu mewn amrywiaeth o wahanol feysydd o fewn proffesiynau gofal iechyd. Ac ni fu unrhyw ymgais i guddio oddi wrth hynny. Yn wir, hoffem fod yn rhagweithiol a chadarnhaol a mynd allan a dweud, 'Pwy ydym ni eu hangen o fewn y tîm gofal sylfaenol?' Dyna pam yr wyf yn sôn am weithwyr proffesiynol eraill. Dyna pam yr wyf yn...
Vaughan Gething: Mae'n bwynt teg am y modd yr ydym yn ymdrin â'r Gymraeg yn rhan o bwysigrwydd cyfathrebu i ddarparu iechyd a gofal effeithiol. Rydym yn gwybod bod llawer o bobl sydd â dementia yn aml yn troi’n ddiofyn at eu mamiaith ac felly mae'n dod yn anoddach deall ieithoedd eraill y gallant fod wedi'u dysgu yn ystod eu bywydau a’u defnyddio i gyfathrebu. Felly, mae rheidrwydd gwirioneddol o ran...
Vaughan Gething: Diolch i Julie Morgan am y gyfres o gwestiynau a’r enghreifftiau y mae hi'n eu rhoi o'i hetholaeth hi, sef Gogledd Caerdydd. Dechreuaf gyda'r pwynt a wnewch am y sefyllfa y mae Caerdydd ynddi, sy'n wahanol i lawer o rannau eraill o Gymru. Mae'n ddinas sy'n ehangu: mae hynny'n rhywbeth cadarnhaol ond mae hefyd yn cyflwyno gwahanol heriau. Dyna pam yr wyf yn ofalus, pan fo Aelodau eraill yn...
Vaughan Gething: Diolch i lefarydd UKIP am ei chyfres o sylwadau a chwestiynau. Dechreuaf yn y dechrau gyda'r anffodus ond yr angenrheidiol. Pan fyddwch yn dweud bod—. Nid yw'r Llywodraeth yn derbyn bod yna argyfwng, ac rwy’n meddwl bod yr iaith yn wirioneddol bwysig. Rydym yn derbyn bod yna her wirioneddol iawn, ac mae'n her arbennig mewn gwahanol rannau o Gymru, ac mae yna her ledled y DU ac yn...
Vaughan Gething: Diolch unwaith eto am y gyfres o gwestiynau, ac unwaith eto am yr ymgysylltiad adeiladol, cyn heddiw ac yn ystod y dydd hefyd. Rwy'n hapus i ddweud bod y meysydd yr ydym yn bwriadu ymdrin â nhw heddiw ar ein meddyliau cyn i’r Ceidwadwyr Cymreig osod eu cynllun dadl. Mae'n gyd-ddigwyddiad doniol, onid yw? Ond dyna ni. O ran y pwyntiau a wnewch am yr ymgyrch flaenorol, gadewch inni ddechrau...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am y gyfres o gwestiynau ac am ymdrin â'r datganiad mewn modd lled adeiladol. Trof yn gyntaf at eich pwynt olaf, ynglŷn â gosod targed ar gyfer nifer y meddygon teulu. Nid ydym wedi gosod targed ar gyfer nifer y meddygon teulu ychwanegol, am y rheswm syml mai’r hyn yr ydym yn ceisio ei wneud yw hyfforddi’r nifer mwyaf posibl o feddygon teulu i fodloni cyfraddau llenwi....
Vaughan Gething: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd ein maniffesto Llafur Cymru yn gwneud ymrwymiad i gymryd camau i ddenu rhagor o feddygon teulu i Gymru ac i annog rhagor o feddygon i hyfforddi yma. Gwnaethom ni hefyd gytuno â Phlaid Cymru, yn rhan o'r compact i symud Cymru ymlaen, i roi cynlluniau ar waith i hyfforddi meddygon teulu a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill ychwanegol. Ein gweledigaeth...
Vaughan Gething: Gwnaf, ychydig o eiliadau.
Vaughan Gething: Rwy’n falch iawn o ddweud bod y drafodaeth honno yn digwydd. Yn y grŵp gorchwyl gweinidogol a sefydlais—fe’i cadeiriais ychydig wythnosau yn ôl—mae’n rhan o’n trafodaeth barhaus ac ymgysylltiol. Yn wir, yn ystod misoedd cynnar fy amser yn y swydd hon, rwyf wedi cyfarfod â’r rhanddeiliaid hynny, ac maent yn parhau i weithio gyda’r Llywodraeth ar gynllunio a chyflwyno ein...
Vaughan Gething: Diolch i chi, Lywydd. Rwy’n ddiolchgar i’r Blaid Geidwadol am gyflwyno’r ddadl heddiw, a’r cyfle y mae’n ei gynnig i nodi’r gwaith sylweddol sy’n cael ei wneud yn y maes hwn gan fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau a Llywodraeth Cymru. Mae yna heriau wrth gwrs o ran recriwtio a chadw staff yng Nghymru, ar draws teulu’r GIG yn y DU a thu hwnt yn y rhan fwyaf o systemau gofal...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau a’i sylwadau. Mae pobl yn siarad yn rheolaidd am forâl y staff o fewn y gwasanaeth a'r pryder am lefel yr hyder sydd gan aelodau’r cyhoedd yn y gwasanaeth iechyd ac, yn wir, mae’r ffordd yr ydym yn siarad am y gwasanaeth yn effeithio ar hynny. Pan fyddwch yn siarad am 'fethiannau difrifol' ar draws gofal iechyd yng Nghymru, nid yw'n syndod bod y...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn a'r sylwadau, ac mae'n deg dweud bod gan fwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro uchelgais a gweledigaeth gadarn. Rydych chi'n iawn i dynnu sylw at y cynnydd sylweddol sydd wedi ei wneud a'i gynnal o ran amseroedd aros mewn Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac, yn wir, mewn gofal canser hefyd. Mae mwy i'w wneud ond rydym yn cydnabod y cynnydd y mae'r bwrdd iechyd...
Vaughan Gething: Wel, y pwynt i'w wneud am ymyrraeth wedi’i thargedu, mewn ymateb i'r sylwadau sydd newydd gael eu gwneud, yw ei bod yn cael ei thargedu at feysydd penodol o'r gwasanaeth. Dyma’r meysydd y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ochr yn ochr â’r sefydliadau hynny arnynt, gan helpu i’w cyfeirio ar hyd llwybr o welliant. Yn eu meysydd gweithredu eraill, maent yn cadw’r cyfrifoldeb a...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau. Mae amrywiaeth o heriau gwahanol ym mhob un o'r byrddau, fel y soniais o'r blaen, ac rwyf wedi trafod her ariannol Hywel Dda a'r ffaith, yn achos Caerdydd a'r Fro, mai un o'r meysydd ar gyfer eu symud i ymyrraeth wedi'i thargedu oedd ein hyder yn eu gallu i fantoli eu llyfrau eleni a thrwy fersiwn nesaf eu cynllun canolradd. Nid yw’n ymddangos i ni...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Mae yna beth cyferbyniad o'r dechrau i'r diwedd. Ar y naill law mae croeso i’r camau a gymerwyd, ac yna gresynu’r camau a gymerwyd tuag at y diwedd. Rwy'n credu mai’r gwir gonest yw nad dim ond cydnabyddiaeth ac adlewyrchiad pwysig o’n sefyllfa yw'r ymyrraeth wedi’i thargedu, ond mae'n ymwneud â chefnogi’r sefydliadau hynny i wella. Mae...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn a'r pwyntiau a wnaed. Credaf ei bod yn werth atgoffa ein hunain bod ystod o feysydd lle mae Hywel Dda yn gwneud yn arbennig o dda– diagnosteg, er enghraifft, mae wedi ei wneud yn arbennig o dda, ac mae mewn sefyllfa lle, ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, nad oedd unrhyw un yn aros mwy nag wyth wythnos. Felly, mae ystod o bethau cadarnhaol ar gyfer Hywel Dda, yn ogystal...
Vaughan Gething: Diolch i chi am y gyfres o gwestiynau dilynol. O ran eich pwynt cyffredinol am gyllid y GIG ledled Cymru, wrth gwrs, llwyddodd wyth o'n 10 sefydliad i sicrhau mantoli ariannol y llynedd. Un sefydliad na lwyddodd i wneud hynny oedd Hywel Dda. Mae hyn yn hollol wahanol i’r sefyllfa yn Lloegr, lle nad yw wyth allan o 10 o ymddiriedolaethau ysbytai acíwt yn llwyddo i sicrhau mantoli...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Yn dilyn y cyfarfod teirochrog arferol diweddaraf rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, cytunwyd y dylid codi’r tri sefydliad y gwnaethoch sôn amdanynt i statws ymyrraeth wedi’i thargedu yn ein fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar hyn i holl Aelodau'r Cynulliad ar 7 Medi.
Vaughan Gething: Diolch am eich cwestiwn. Mae’n ffaith fod gennym fwy o feddygon teulu nag erioed o’r blaen yn y gwasanaeth iechyd; yr her bob amser yw faint o staff sydd eu hangen arnom ar ba raddau i ddarparu gofal o’r ansawdd y bydd pobl yn iawn i’w ddisgwyl, a bydd yn fodel gofal sy’n newid. Mae Horeb yn enghraifft o fodel gofal sy’n newid lle na allent recriwtio a lle na allent ddenu meddygon...
Vaughan Gething: Diolch am y cwestiwn. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i feddygon hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i’r arbenigeddau hynny sy’n anodd eu llenwi lle mae heriau recriwtio yn parhau ledled y DU.