Canlyniadau 3281–3300 o 4000 ar gyfer speaker:David Rees

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru' (23 Mai 2018)

David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl am eu cyfraniadau, ac yn enwedig i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Efallai y caf ymdrin â'i ymatebion ef yn gyntaf. Rwy'n falch iawn ei fod yn y bôn wedi cefnogi popeth a ddywedwn yn yr adroddiad ac yn cydnabod bod yr hyn rydym yn ei ddweud yn faterion pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â hwy fel...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru' (23 Mai 2018)

David Rees: Ddirprwy Lywydd, mae Cymru bob amser wedi bod yn genedl sy'n edrych allan, ac wedi'i chysylltu'n rhyngwladol. Mae'n deg dweud bod rhai wedi'i ofni bod y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfystyr â gwrthod y traddodiad balch hwn. Fodd bynnag, fel y mae'r adroddiad hwn yn amlygu, roedd yr ofnau hyn yn ddi-sail. Er bod Cymru yn gadael yr UE, rydym yn glir nad yw'n gadael Ewrop....

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: 'Perthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Rhan un: safbwynt o Gymru' (23 Mai 2018)

David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser mawr gennyf wneud y cynnig heddiw yn fy enw i ac agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol. Fel y dywedasoch, rhan un ydyw, ac mae mwy o waith i'w wneud. Cyn dechrau trafod cynnwys yr adroddiad hoffwn gofnodi ein diolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad hwn....

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Gwariant Cyfalaf ar Ysgolion (23 Mai 2018)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cryn dipyn o gyfalaf i raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Rydych wedi gweld Ysgol Awel y Môr ac Ysgol Bae Baglan yn fy etholaeth i, dwy ysgol newydd sbon sydd ar agor eisoes a thair ysgol newydd a fydd yn agor ym mis Medi, Ysgol Cwm Brombil, Ysgol Gymraeg Bro Dur a'r ysgol gynradd newydd yn Llansawel. Fodd bynnag, mae...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Buddsoddi Strategol yng Ngorllewin De Cymru (16 Mai 2018)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, roedd rhan o'ch datganiad ar y gyllideb yn cynnwys buddsoddiad o dros £30 miliwn yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot. A allwch ddweud wrthym pa gynnydd a wnaed ar y buddsoddiad hwnnw ac a fydd yn digwydd, mewn gwirionedd, yn ystod y flwyddyn ariannol hon?

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (15 Mai 2018)

David Rees: Diolch, Llywydd. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi bod yn ystyried y camau deddfwriaethol angenrheidiol ar gyfer Brexit ers tymor yr hydref 2016 ac wedi ystyried Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn fanwl. Ddoe, gwnaethom ni gyhoeddi ein trydydd adroddiad ar y Bil, wrth baratoi ar gyfer y ddadl heddiw. Gobeithiaf fod Aelodau wedi cael cyfle i edrych arno. Mewn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Polisi Cyfiawnder ( 9 Mai 2018)

David Rees: Rwy'n credu y gallaf ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, mae trigolion Aberafan wedi croesawu'r datganiad gan Lywodraeth Cymru ar 6 Ebrill, a ddywedai'n glir fod unrhyw waith datblygu carchar newydd, gan gynnwys y gwaith ar Rosydd Baglan, wedi ei ohirio i bob pwrpas hyd nes y cynhelir trafodaethau ystyrlon. Croesawaf hefyd y bwriad i...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Ansawdd Aer yng Ngorllewin De Cymru ( 9 Mai 2018)

David Rees: Weinidog, wrth ymateb i hynny, rwy'n derbyn eich bod wedi cywiro argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd a'r ffaith eu bod wedi gwneud camgymeriad. Ond mae'n dal i ddangos bod Port Talbot ymysg y gwaethaf yn y DU o hyd. Mae gennym broblemau gyda llygredd aer ac ansawdd aer o hyd; rydym wedi cael y problemau hynny ers blynyddoedd lawer ac maent yn mynd i fod yn broblemau parhaus. Ac mae...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Polisi Cyfiawnder ( 9 Mai 2018)

David Rees: 3. Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu asesu a gynhaliwyd trafodaethau ystyrlon ar bolisi cyfiawnder gyda Llywdoraeth y DU, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig ar 6 Ebrill 2018? OAQ52140

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 8 Mai 2018)

David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi Aberafan?

8. Dadl Plaid Cymru: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a datganoli ( 2 Mai 2018)

David Rees: Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad y prynhawn yma, mewn gwirionedd, drwy roi cydnabyddiaeth i'r gwaith a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Dylai pawb yn y Siambr hon gydnabod ymrwymiad Mark Drakeford i'r gwaith hwnnw. Ond nid yn unig Mark Drakeford, ond ei swyddogion hefyd oherwydd ni fydd llawer o bobl yn sylweddoli, efallai, mai'r trafodaethau dwys sydd wedi bod yn digwydd rhwng...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) ( 2 Mai 2018)

David Rees: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, ers imi gyflwyno'r cwestiwn, mae pethau wedi symud ymlaen ychydig, ac o ganlyniad rydych wedi nodi'r camau a gymerwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl fod cynsail wedi'i sefydlu yma; y bwriad yn amlwg oedd mynd â'r Bil hwn i'r Goruchaf Lys pe na bai'r gwelliannau hynny wedi'u cytuno. O ganlyniad, yn y pen draw, gallem, ac rydym...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Meithrinfeydd a Chanolfannau Gofal Plant ( 2 Mai 2018)

David Rees: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Nid yw'n ymddangos yn llawer, ond dyna ni. Gwnsler Cyffredinol, efallai y byddwch yn ymwybodol o achos meithrinfa Bright Sparks yn Nhai-bach yn fy etholaeth, sydd wedi bod ar gau ers y llynedd yn dilyn honiadau o orfodi bwyd ar blant ac ataliaeth mewn perthynas â phlant ifanc. Mae'r rhain yn faterion sy'n rhaid eu hymchwilio, oherwydd...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe ( 2 Mai 2018)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r fargen honno, yn amlwg mae Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am rai o'r prosiectau hynny, ac mae'r ganolfan arloesi dur yn un ohonynt. Nawr, rwy'n deall bod cwestiynau'n codi ynglŷn â lle y caiff ei leoli ac mae yna bryderon fod Llywodraeth Cymru yn eu gwthio tuag at Felindre, sy'n bellach o gampws y brifysgol a Tata mewn gwirionedd, dau o...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Meithrinfeydd a Chanolfannau Gofal Plant ( 2 Mai 2018)

David Rees: 3. Pa sylwadau cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno mewn perthynas ag apeliadau yn erbyn penderfyniad Arolygiaeth Gofal Cymru i dynnu statws cofrestredig yn ôl o feithrinfeydd a chanolfannau gofal plant? OAQ52085

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol: Y Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) ( 2 Mai 2018)

David Rees: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban ar ôl cyfeirio'r Bil Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) at y Goruchaf Lys? OAQ52086

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sgiliau Digidol a Chodio ( 1 Mai 2018)

David Rees: Diolch Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw, oherwydd, yn amlwg, mae rôl bwysig cyfrifiadura a chymhwysedd digidol o fewn ein gweithrediadau yn y dyfodol yn hollbwysig? Ni fyddaf yn ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaed am Estyn. Rydych chi wedi gwneud yr atebion hynny yn gwbl glir hyd yn hyn, ond rwy'n dymuno'ch atgoffa chi, efallai—ac atgoffa pawb—nad...

11. Dadl Fer: Gwead cymdeithasol a lles cymunedau’r Cymoedd yn y dyfodol (25 Ebr 2018)

David Rees: Mae Cymunedau yn Gyntaf bellach yn dod i ben, ac yn fy nghwm penodol i, Cwm Afan, mae wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar nifer o unigolion, grwpiau cymunedol a'u cymdogaethau, yn ogystal ag mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru rwy'n ymwybodol ohonynt. Dyna un raglen roeddem yn gwbl gefnogol iddi, ac roedd yn brosiect blaenllaw i Lywodraeth Cymru am flynyddoedd lawer. Mae tasglu'r Cymoedd a...

11. Dadl Fer: Gwead cymdeithasol a lles cymunedau’r Cymoedd yn y dyfodol (25 Ebr 2018)

David Rees: Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n sylweddoli ei bod wedi bod yn ddiwrnod hir, ond credaf ei fod yn faes pwysig i'w drafod a chroesawaf y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer ar wead cymdeithasol a lles cymunedau'r Cymoedd yn y dyfodol. Hoffwn hysbysu'r Senedd fy mod wedi rhoi amser i Dawn Bowden gyfrannu at y ddadl hon. Yn y ddadl fer hon, rwyf am fynd i'r afael ag agweddau ar gymunedau'r Cymoedd...

6. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) (25 Ebr 2018)

David Rees: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad, ac a gaf fi gofnodi fy nghydnabyddiaeth o'r ymrwymiad y mae ef yn bersonol wedi ei roi i'r gwaith hwn? Heb os, mae wedi bod yn arwain o'r tu blaen. Hefyd, diolch i Mike Russell, Gweinidog yr Alban sydd wedi cymryd rhan yn hyn, ac os oes yn rhaid i mi, i David Lidington yn ogystal—hefyd, i swyddogion Llywodraeth Cymru, sydd, y tu...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.