David Rees: Roeddwn yn mynd i ofyn y cwestiwn: a gawsoch chi gadarnhad ganddynt ynglŷn â beth y mae 'cwbl angenrheidiol' yn ei olygu?
David Rees: Nawr, i'r rhai sy'n dweud bod tŷ ar brydles yn cael ei werthu am bris is na thŷ rhydd-ddaliadol, am mai fel hynny y byddent yn ei werthu, dangoswyd bod hynny'n anghywir. Ymddengys mai ffordd yw hi o fanteisio ar y sawl sy'n prynu cartref mewn gwirionedd—cael rhywun i feddwl bod derbyn lesddaliad yn ffordd arferol o brynu cartref y dyddiau hyn. Nid yw hynny'n wir, ac nid yw wedi bod yn...
David Rees: Credaf y byddwch yn cael yr un neges wedi ei hanfon ar draws y Siambr y prynhawn yma gan Aelodau sy'n cynrychioli etholwyr ledled Cymru, oherwydd rydym i gyd yn wynebu problemau tebyg. Fel y mae pawb ohonom yn gwybod, ffurf ar ddeiliadaeth breswyl yw lesddaliad sydd, efallai, yn mynd yn ôl i'r oesoedd ffiwdal, pan ystyrid mai'r tir oedd y lle a'r rhai a oedd yn berchen ar y tir oedd y rhai...
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych chi felly yn cytuno ei bod yn ddyletswydd ar y cyfreithwyr sy'n gweithredu, fel arfer wedi'u henwebu gan ddatblygwr, i sicrhau bod y prynwr yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau lesddaliad mewn gwirionedd?
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n croesawu'r cynllun 111 yn ne-orllewin Cymru oherwydd, yn amlwg, mae honno'n un ffordd o wneud dewis doeth a sicrhau ein bod yn gwneud y penderfyniadau cywir ac yn osgoi defnyddio gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau yn ddiangen. Ond rydym hefyd angen gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau gyda rhai pethau angenrheidiol. Fel y cyfryw, rwy'n ymwybodol...
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr, fel y cytunwch, ei bod yn bwysig iawn eu bod yn ymgysylltu â'r cyhoedd. Yn ddiweddar, mae AMBU wedi cynnal tri, neu wrthi'n cynnal tri ymgynghoriad cyhoeddus—llawdriniaethau thorasig cyn y Nadolig, ac ar hyn o bryd maent yn cynnal ymgynghoriad ar y rhwydwaith trawma mawr a'r newidiadau i'r ffiniau. Yn ôl yr hyn a glywaf, mewn...
David Rees: 2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod byrddau iechyd yn ymgysylltu'n llawn ag ymgynghoriadau cyhoeddus ar wasanaethau iechyd yn y dyfodol? OAQ51671
David Rees: Diolch am eich ateb, arweinydd y tŷ, ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo eisoes, ond gallai gael ei ddad-wneud os nad ydym yn ofalus. Yn amlwg, mae cynhwysiant digidol yn cynnwys cyfeiriad at hygyrchedd, ac mae hygyrchedd yn ymwneud â dau beth. Un yw seilwaith, ac rydych eisoes wedi ateb cwestiynau ynglŷn â hynny, felly nid wyf am sôn am hynny ar hyn o bryd. Y llall...
David Rees: 4. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gynhwysiant digidol yn Aberafan yn 2018? OAQ51609
David Rees: Arweinydd y Tŷ, tua 12 mis yn ôl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ar y pryd ei fod mewn gwirionedd yn tynnu cyllid Cymunedau yn Gyntaf oddi wrth NSA Afan oherwydd adroddiad archwilio yr oedd wedi ei dderbyn. Aeth ymlaen i ddweud y byddai ymchwiliad ariannol pellach yn cael ei gynnal. Nid ydym hyd yma wedi clywed unrhyw beth ers y dyddiad hwnnw, ac rwy'n deall bod...
David Rees: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Rees: Diolch i'r Aelod am ildio. A ydych yn cytuno ei bod yn siomedig eu bod wedi cael gwelliannau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban ers mis Tachwedd, eu bod wedi cael gwelliannau ein pwyllgor ers mis Tachwedd—maent wedi cael hen ddigon o amser i edrych arnynt a chynhyrchu eu gwelliannau eu hunain erbyn y Cyfnod Adrodd, sef ddoe a heddiw?
David Rees: A gaf fi gytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, gyda phopeth a ddywedodd Mick Antoniw, yn enwedig ar y Bil Masnachu, ac rwy'n credu bod hwnnw'n peri pryder mawr oherwydd mae'n adlewyrchu parhad o'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd i'r afael â hyn, ac mae'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywed Simon Thomas—er efallai y buaswn yn herio'r ffaith mai'r unig reswm y cafwyd ad-drefnu oedd oherwydd bod...
David Rees: Diolch am eich ateb, Gwnsler Cyffredinol. Ni fydd dull Llywodraeth y DU o drosglwyddo cyfraith yr UE i gyfraith y DU drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) yn darparu'r amddiffyniadau a ddylai fod gennym ar gyfer cynnal siarter hawliau sylfaenol yr UE ar ôl inni adael yr UE. Mae uwch-gyfreithwyr yn bryderus iawn y bydd i Lywodraeth y DU wrthod ymgorffori'r siarter yng nghyfraith y DU yn...
David Rees: Ysgrifennydd Cabinet, nid wyf yn gwybod os ydych yn ymwybodol, ond cafodd y B4286, a elwir gennym yn lleol yn Heol Cwmafan, un o'r ddwy brif ffordd i gwm Afan, ei chau oherwydd tirlithriad yn dilyn y tywydd stormus dros y Nadolig. Diolch byth, ni arweiniodd hyn at unrhyw anafiadau, ond achoswyd problemau traffig sylweddol, gyda chiwiau hir ar adegau. Roedd hynny'n peri pryder i mi, mewn...
David Rees: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chymheiriaid yn y DU mewn perthynas â chadw siarter yr UE ar hawliau sylfaenol yn rhan o gyfraith y DU yn dilyn Brexit? OAQ51510
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae gan Lywodraeth Cymru yn amlwg y cysyniad o ardaloedd menter fel un o'i ffactorau pwysig o ran twf economaidd lleol, ond mae'r unig ardal fenter yng Ngorllewin De Cymru ym Mhort Talbot mewn gwirionedd. Cafodd ei chreu o ganlyniad i'r ansicrwydd yn y maes cynhyrchu dur, ac rwy'n gwerthfawrogi buddsoddiad Llywodraeth Cymru gyda Tata, ond ceir...
David Rees: Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i gefnogi Tata, yn enwedig yn fy ardal i, a methiant Llywodraeth y DU—dydyn nhw wedi gwneud dim yn llythrennol. Ond y cwestiwn yw—. Hoffwn ymhelaethu ar bwynt Dai Lloyd, rwy'n credu: mae canlyniad Tata yn colli ei weithlu wedi golygu bod wedi swyddi medrus sy'n talu'n dda wedi diflannu. Fel y gwelwn,...
David Rees: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Aberafan yn 2018? OAQ51509
David Rees: Diolch, Llywydd. Arweinydd y Tŷ, efallai eich bod chi'n ymwybodol—dylech chi fod yn ymwybodol—o'r pryderon ynghylch cynllun pensiwn Dur Prydain a'r cyngor y mae gweithwyr dur yn ei gael mewn gwirionedd, a'r ffaith bod rhai gweithwyr dur wedi colli arian, mewn gwirionedd, oherwydd cyngor gwael. Nawr, un o'r cwmnïau sydd wedi'i nodi yw Celtic Wealth Management, a gafodd arian gan...