Vaughan Gething: Diolch am y sylwadau a’r cwestiynau, Dai Lloyd. Rwyf yn fwy na hapus, fel y dywedais wrth ymateb i Rhun ap Iorwerth, i barhau â'r sgwrs â Seneddau eraill a rhannau eraill o deulu’r GIG ledled y DU. Fel y dywedais, gwn eu bod yn ystyried hynt ein deddfwriaeth a'r effaith ymarferol ar nifer y bobl sy'n mynd ymlaen i roi organau, a bod ganddynt ddiddordeb yn hynny. Credaf fod hyn yn...
Vaughan Gething: Diolch am sylwadau llefarydd iechyd UKIP a chroeso i chithau i’ch rôl. Rwyf yn falch o glywed eich cefnogaeth glir iawn i’r ddeddfwriaeth a'r canlyniadau yr ydym am eu cyflawni. Rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud heddiw, ac y byddwn yn ei wneud drwy gydol gweddill y flwyddyn hon a gweddill yr amser y bydd gennym ymgyrch gyfathrebu, yw annog pobl i wneud dewisiadau—boed y dewis hwnnw i...
Vaughan Gething: Diolch ichi am y gyfres honno o gwestiynau. Rwyf am ymdrin yn gyntaf â'r pwynt yr wyf yn credu oedd yn gamddealltwriaeth, yn anad dim, oherwydd roeddwn yn cyfeirio mewn gwirionedd at rôl y teulu wrth beidio â chefnogi rhoi organau, ond rhywun sydd wedi gwneud y penderfyniad i fynd ar y gofrestr i optio i mewn. Mae hynny'n dal i ddigwydd, ond mae hynny'n rhan o'r hyn sydd angen inni ei...
Vaughan Gething: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn benodol, rwyf yn cydnabod gwaith amryw o bobl yn y Siambr, fel y dywedais, gan gynnwys Dai Lloyd. Yn y cyfamser, ac yntau wedi’n gadael am gyfnod byr, llwyddasom i basio’r ddeddfwriaeth yr ydym yn awr yn ei thrafod heddiw. I ddechrau, roedd tri phwynt a chwestiwn penodol i mi eu hateb. Roedd y cyntaf ynghylch Seneddau eraill a rhannau eraill o'r DU....
Vaughan Gething: Diolch ichi, Lywydd. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau chwe mis ar ôl cyflwyno Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 a chyflwyno cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau ar ôl marw yng Nghymru. Daeth hyn i rym yn llawn ar 1 Rhagfyr 2015. Bydd yr Aelodau'n gwybod y tybir bellach bod pobl 18 mlwydd oed a throsodd sydd wedi byw yng Nghymru am fwy na 12...
Vaughan Gething: Carwyn Jones.