Mr Simon Thomas: Beth wnaethom ni oedd edrych ar bedwar darn o ddeddfwriaeth a oedd wedi'u pasio gan y Cynulliad blaenorol i sicrhau bod y dull o asesu faint o gostau oedd wrth gyflwyno Bil a throi Bil yn Ddeddf yn ddigonol ac yn effeithiol. So, beth yr ydym ni wedi trio ei wneud yw edrych ar a yw'r asesiad o gostau wrth gyflwyno Bil yn rhai cywir, a yw'r dulliau y mae'r Llywodraeth yn eu defnyddio i asesu'r...
Mr Simon Thomas: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid ydw i'n meddwl mai dyma fydd y ddadl fwyaf cyffrous y byddwn ni’n ei chynnal yn y Cynulliad heddiw, neu, yn sicr, yn ystod y tymor, efallai, ond mae hi’n ddadl bwysig. Mae yn ddadl pwysig. Os caf i ddweud beth yw pwrpas yr ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyllid, efallai bydd rhai Aelodau wedyn yn gweld ei bod hi’n bwysig.
Mr Simon Thomas: Rydych wedi rhoi pwys mawr, Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwnaeth y Prif Weinidog ddoe, ar yr adolygiad seneddol, ond wrth gwrs, cyhoeddwyd yr adolygiad seneddol yn rhy hwyr i ddylanwadu ar yr argymhellion hyn gan Hywel Dda. Felly, a wnewch chi ymuno â mi heddiw i annog Hywel Dda i dynnu'r cynigion hyn yn ôl hyd nes y byddwn wedi cael amser i ystyried yr adolygiad seneddol—sut y gellid ei...
Mr Simon Thomas: A gaf fi ddiolch i'r Comisiynydd am ei hymateb cadarnhaol? Yn amlwg, mae'r Cynulliad wedi rhoi rhai camau ar waith yn ddiweddar, er enghraifft drwy gael gwared ar gwpanau coffi untro yma a newid i gwpanau ceramig, sy'n rhywbeth y mae gan y cyhoedd gryn ddiddordeb ynddo erbyn hyn. Felly, roeddem ar flaen y gad yn hynny o beth. Rwy'n awyddus inni aros ar flaen y gad. Rydym yn dal i...
Mr Simon Thomas: Diolch am hynny. Rwy’n croesawu’r ffaith bod yna gynllun, wrth gwrs, achos rŷm ni’n gwybod bod y cynllun blaenorol, sydd wedi dod i ben, heb gyrraedd pob man. Rwy’n gwybod nad oes gyda chi’r ffeithiau llawn—yr adroddiad llawn—eto, ond mae yna bentrefi di-ri sydd wedi adrodd nôl fod yna cables yn dal i hongian oddi ar y polion ac nad yw’r gwaith wedi cyrraedd pen y daith, a...
Mr Simon Thomas: Rydw i'n credu ei bod hi'n dal yn wir i ddweud bod y Ddeddf megis cysgod ar y gyllideb o ran y dylanwad mae wedi ei chael hyd yma. Rydw i'n gwybod bod yr Ysgrifennydd Cabinet yn barod iawn, eleni, wrth ateb cwestiynau fel hyn—nid wyf eisiau ei demtio fe i restru, er bod gyda fe restr yn y fanna, mae'n siŵr, o brojectau sy'n cwrdd â phob un o amcanion y Ddeddf. Nid wyf i eisiau ei demtio...
Mr Simon Thomas: Wrth gwrs, mae'r cynnydd yn y costau yn deillio'n bennaf o'r ffaith bod £136 miliwn ychwanegol wedi ei ddyrannu i ateb pryderon ynglŷn â'r porthladd yng Nghasnewydd, ac mae hynny, mae'n debyg, fel Ysgrifennydd y Cabinet, yn rhywbeth rydych wedi'i gymeradwyo, neu wedi cytuno iddo o leiaf. Nawr, rydych wedi sôn am yr arian sydd gennych yn y gyllideb y flwyddyn nesaf. Fel rwy'n deall, mae...
Mr Simon Thomas: 1. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddyddiad cychwyn y cynllun olynol ar gyfer band eang cyflym iawn? OAQ51624
Mr Simon Thomas: 1. A wnaiff y Comisiynydd ddatganiad ynglŷn â lleihau faint o blastig untro sy’n cael ei ddefnyddio ar ystâd y Cynulliad? OAQ51614
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Gweinidog am egluro'r angen ar gyfer y rheoliadau hyn. Rydym ni yn cefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog yn ei wneud, a chyfres o reoliadau ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr yw'r rhain, wrth gwrs, mewn ymateb i gyfarwyddeb yr UE. Mae gennyf i un neu ddau gwestiwn, os caf i. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau, mewn gwirionedd, er ein bod ni'n croesawu hyn, bod y rheoliadau hyn mewn gwirionedd yn...
Mr Simon Thomas: Diolch, Llywydd, ond nid oes gen i sylwadau pellach gan fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi ateb popeth a oedd wedi cael ei godi gan y Pwyllgor Cyllid, a gan bobl eraill.
Mr Simon Thomas: A gaf i ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad a nodi, gyda diolchiadau i bawb a dweud y gwir, fod y diwydiant wedi llwyddo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a bod y cynnydd yn dal yno tuag at y targed sydd yn y cynllun bwyd a diod? Hoffwn i ddechrau drwy ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet ble mae hi bellach, wrth ystyried gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynglŷn â brandio bwyd o Gymru, yn...
Mr Simon Thomas: Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw diolch ar goedd i'r llawer o bobl a wnaeth weithio yn ystod y penwythnos. Cawsom lifogydd, unwaith eto, yn llawer o rannau o orllewin Cymru. Cafodd Ceredigion yn arbennig ei effeithio'n wael. Yn sicr nid oedd modd i mi fy hunan gwblhau taith ddydd Sul, oherwydd cefais fy nhroi'n ôl gan yr heddlu, a gwn fod problemau llifogydd difrifol yn Ninbych y...
Mr Simon Thomas: A gaf i ddechrau gan ofyn am ddiweddariad ar ddiogelwch ffyrdd, yn benodol ar yr A487? Efallai bod arweinydd y tŷ yn cofio, tua phythefnos yn ôl, roedd damwain angheuol rhwng Gellilydan a Maentwrog, pan fu farw baban a'i modryb mewn car. Mae cydymdeimladau gen i tuag at y teulu a'r gymuned leol, sydd yn galaru dros y ddamwain honno. Ond yn benodol, o edrych ar y ffigyrau, mae yna 26 o...
Mr Simon Thomas: Fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae llawer o drigolion Powys yn ddibynnol ar wasanaethau sydd naill ai’n cael eu darparu o Loegr neu sydd wedi’u lleoli yn Lloegr. Gyda’r newyddion rwy’n clywed bod gohirio ynglŷn â phenderfyniad ar leoliad a newydd-deb yr ysbyty cyffredinol ar gyfer gorllewin swydd Shropshire, lle bynnag y mae honno'n mynd i fod ac i gael ei lleoli—mae'r ddadl...
Mr Simon Thomas: Er eich bod chi’n sôn am ba mor bwysig yw argaeledd ffonau symudol, dim ond newydd gyrraedd Pen Llŷn a Mynydd Rhiw y mae 4G, er enghraifft. Mae rhai ardaloedd ar ei hôl hi yn ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Un o’r pethau sy’n cael ei anghofio amdano yn aml iawn yw pa mor bwysig fydd y ffôn symudol ar gyfer awtomeiddio ar ffermydd a robotics. Mae’n dod nawr eich bod chi’n...
Mr Simon Thomas: A fyddai unrhyw beth i'w golli, yn ei farn ef, o gyhoeddi'r Bil hwnnw ar ffurf drafft?
Mr Simon Thomas: Diolch i Steffan Lewis am berl o araith yn agor y ddadl yma, a oedd yn crynhoi'r sefyllfa rydym ni ynddi hi ar hyn o bryd a pha mor hwyr yw e yn y dydd ar gyfer yr egwyddorion hyn. Rydw i eisiau ffocysu ar yr amgylchedd ac amaeth yn y cyd-destun yma. Mae'n bwysig i gofio bod rhai o'r egwyddorion mwyaf pwysig i ni yn yr amgylchfyd wedi deillio o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Mae'r egwyddor o fod...
Mr Simon Thomas: Yn ystod y llynedd, bu Bws Arfordir Llŷn yn rhedeg dau fws yn rheolaidd rhwng Llanbedrog, Abersoch, Porth Neigwl, Aberdaron, Porthor a Nefyn rhwng Mai a'r hydref. Mae’n cael ei gynnal gan grŵp trafnidiaeth gymunedol o ddrws i ddrws. Mae Bws Arfordir Llŷn yn dilyn llwybr sy’n ategu'r gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus, gan alluogi pobl i gerdded llwybr yr arfordir gan adael eu ceir....
Mr Simon Thomas: Gobeithiaf gyfarfod cyn bo hir â swyddogion ac aelodau cabinet Sir Benfro i drafod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Sir Benfro wedi cynnal dadl gyhoeddus ynghylch codiadau yn y dreth gyngor ymhell uwchlaw'r canllaw o 5 y cant a gyhoeddwyd. Pa neges a fyddai gennych ar gyfer Cyngor Sir Penfro a hefyd ar gyfer y trethdalwyr yno os oes cyfradd sydd ymhell...